Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bwlio ar rwydweithiau cymdeithasol

Nid dim ond yn y byd go iawn mae bwlio'n digwydd. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn eu harddegau'n cael eu bwlio drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Os ydych chi'n cael negeseuon bygythiol ar-lein, mae ffyrdd o stopio hyn.

Beth yw rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein?

Mae nifer o rwydweithiau cymdeithasol ar-lein sy'n gadael i chi sgwrsio â phobl eraill sy'n defnyddio'r rhyngrwyd.

Rydych chi'n creu eich proffil a'ch enw defnyddiwr eich hun ac yn rhoi ychydig o fanylion am yr hyn rydych chi'n ei hoffi a'r hyn nad ydych chi'n ei hoffi. Ar ôl i chi wneud hynny, gallwch ychwanegu cerddoriaeth, fideos a lluniau at eich proffil y gall pobl eraill roi eu sylwadau arnynt.

Gallwch hefyd adael negeseuon a rhoi sylwadau ar broffiliau eich ffrindiau.

Maen nhw'n grêt pan rydych chi eisiau sgwrsio, rhannu lluniau a chwarae gemau gyda'ch ffrindiau a phobl eraill sy'n rhannu'r un diddordebau â chi.

Dyma rai rhwydweithiau cymdeithasol efallai eich bod wedi clywed amdanynt:

  • MySpace
  • Facebook
  • Twitter
  • Bebo
  • Last.fm
  • FriendFeed
  • YouTube
  • Flickr

Bwlio ar rwydweithiau cymdeithasol

Yn anffodus, mae rhai pobl yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i bryfocio neu i fwlio pobl eraill.

Gall seiberfwlis:

  • bostio negeseuon sarhaus ar wal eich proffil
  • ychwanegu sylwadau digywilydd at lun rydych chi wedi'i lwytho i fyny
  • rhoi fideo neu lun ar eu proffil eu hunain sy'n gwneud hwyl ar ben rhywun ac annog eu ffrindiau i'w anfon at bobl eraill

Gall fod yn anodd delio â bwlio ar rwydweithiau cymdeithasol, yn enwedig os yw'r dioddefwr yn cael ei fwlio gan yr un person yn yr ysgol.

Oherwydd ei fod yn aml yn digwydd ar eich cyfrifiadur eich hun gartref, gall fod yn anodd iawn dianc oddi wrth fwlio ar-lein.

Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich bwlio ar eich proffil personol, mae rhai pethau gallwch chi eu gwneud.

Ffrindiau ar-lein

Os ydych chi'n cael eich bwlio gan ffrind mae gennych chi gyswllt â nhw, rhwystrwch nhw neu eu dileu oddi ar eich rhestr.

Efallai eich bod wedi ffraeo gyda rhywun, ond rydych chi'n meddwl y gallech fod yn ffrindiau eto yn y dyfodol.

Os yw hyn yn wir, bydd eu rhwystro am gyfnod byr yn golygu fyddwch chi ddim yn gweld dim sylwadau byddant yn eu gwneud a allai eich ypsetio chi. Gallwch bob amser ddad-rwystro'r person wedyn.

Os ydych chi'n cael eich bwlio gan rywun a'u bod yn ceisio bod yn ffrind i chi ar-lein, gallwch bob amser wrthod eu cais i fod yn ffrind. Wedi'r cyfan, pam byddech chi eisiau sgwrsio ar-lein gyda rhywun nad ydych chi'n gyrru ymlaen â nhw mewn bywyd go iawn?

Gosodiadau preifatrwydd eraill

Cofiwch fod y rhan fwyaf o rwydweithiau cymdeithasol yn gadael i chi reoli pwy sy'n cael gweld gwahanol rannau o'ch proffil.

Er enghraifft, efallai eich bod am ganiatáu i ddim ond aelodau o'ch teulu a'ch ffrindiau agosaf weld eich albymau lluniau.

Gallwch hyd yn oed wneud eich proffil cyfan yn breifat. Mae gwneud hyn yn golygu na fydd neb yn gallu dod o hyd iddo hyd yn oed os ydynt yn chwilio am eich enw mewn peiriant chwilio.

I gael gwybod sut mae rheoli eich gosodiadau preifatrwydd, edrychwch am ddolen ar hafan eich proffil ar gyfer 'awgrymiadau diogelwch' neu 'preifatrwydd'.

Proffiliau ffug ar-lein

Efallai byddwch chi'n gweld proffil sydd wedi cael ei sefydlu gan rywun sy'n cymryd arnynt i fod yn chi.

Mae proffiliau ar-lein yn gallu ypsetio pobl gan fod modd eu defnyddio i anfon pethau cas at bobl eraill a all gredu bod y negeseuon hynny'n dod gennych chi.

Os byddwch chi'n gweld proffil ffug, rhowch wybod i adran gwasanaethau i gwsmeriaid y rhwydwaith cymdeithasol cyn gynted ag sy'n bosibl a gofyn iddynt ei ddileu.

Mae gan rai rhwydweithiau fotwm 'riportio proffil' hefyd, y gallwch ei ddefnyddio os yw'r proffil yn ffug neu'n sarhaus.

Awgrymiadau cyffredinol eraill am gyfryngau cymdeithasol

Os oes rhywun yn eich bwlio ar eich tudalen proffil cymdeithasol eich hun, dylech chi:

  • gadw unrhyw negeseuon e-bost neu ddelweddau bwlio sydd wedi cael eu hanfon atoch chi
  • cymryd ciplun o'r sgrin o unrhyw sylwadau sy'n fygythiol, ond wedyn eu dileu fel nad oes yn rhaid i chi eu darllen eto
  • cofnodwch yr amser a'r dyddiad yr anfonwyd y negeseuon neu'r lluniau, ynghyd ag unrhyw fanylion sydd gennych am yr anfonwr
  • ceisiwch newid eich enw defnyddiwr neu'ch ffugenw
  • peidiwch ag ateb unrhyw negeseuon bwlio na chymryd rhan mewn dim dadleuon ar-lein

Peidiwch ag anghofio y gall unrhyw un weld unrhyw beth rydych chi'n ei bostio ar-lein. Mae hyn yn cynnwys eich rhieni, eich pennaeth neu eich athrawon.

Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a meddwl cyn i chi gyhoeddi unrhyw beth ar eich proffil.

Allweddumynediad llywodraeth y DU