Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
P’un ai mai chi neu berson yr ydych yn ei nabod sy’n cael ei fwlio, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod wrth rywun yr ydych yn gallu ymddiried ynddo beth sy’n mynd ymlaen. Mae yna hefyd nifer o bethau y gallwch ei gwneud os ydych chi’n bwlio eraill ac yr ydych am stopio.
Y peth cyntaf y dylech ei wneud os ydych chi'n cael eich bwlio yw dweud wrth rywun amdano. Peidiwch â dioddef yn dawel. Gallwch ddweud wrth ffrind, rhiant neu athro/athrawes yn eich ysgol.
Hefyd, mae ambell beth y gallwch ei wneud eich hun a allai wneud i fwli feddwl ddwywaith cyn pigo arnoch chi.
Ceisiwch ymddwyn yn fwy hyderus - bydd bwlis yn aml yn pigo ar bobl sy'n ymddangos yn ddistaw ac yn fewnblyg, felly os ydych chi'n edrych yn hunan-feddiannol, maen nhw'n debygol o roi llonydd i chi.
Os ydych yn cael eich bwlio ar y ffordd o'r ysgol, cerddwch adref gyda grŵp o ffrindiau neu trefnwch i oedolyn eich codi wrth y giât. Efallai ei fod yn swnio'n chwithig, ond byddwch wedi'ch diogelu'n well os byddwch gyda grŵp o bobl.
Peidiwch â tharo'n ôl. Hyd yn oed os cewch eich temtio, nid yw'n syniad da oherwydd gallech gael eich hun mewn trwbl os byddwch chi’n ymladd.
Os nad ydych chi'n hoffi gweld pobl yn cael eu bwlio, gwnewch rywbeth am y peth. Trwy beidio â gwneud neu ddweud dim, rydych yn gadael i'r sawl sy'n bwlio ennill ac yn gadael i'r dioddefwr ddioddef mwy.
Os ydych yn awyddus i wneud rhywbeth, gallwch wneud y canlynol:
Yn aml, bydd yr un mor anodd i bobl sydd wedi bwlio eraill ofyn am gymorth. Efallai eich bod yn poeni na fydd neb yn eich cymryd o ddifrif neu y cewch eich hun mewn trafferthion drwy gyfaddef eich bod wedi bwlio rhywun. Ond dydy hynny ddim yn wir.
Ceisiwch siarad ag athro neu ddisgybl hŷn rydych yn ei adnabod yn dda a siarad am y rhesymau sydd y tu ôl i'ch bwlio. Gallan nhw roi cefnogaeth a chyngor i chi am sut i stopio bwlio.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn ddi-enw, ffoniwch Childline neu'r NSPCC. Efallai eich bod yn meddwl mai dim ond y dioddefwyr y bydd y mudiadau hyn yn eu helpu, ond maen nhw wedi'u hyfforddi i helpu unrhyw un mewn ffordd gyfrinachol ac anfeirniadol.
Mae gan lawer o ysgolion bolisi gwrth-fwlio ar waith sy'n ceisio amddiffyn myfyrwyr rhag cael eu harasio a'u cam-drin. Ceisiwch gael copi o'r polisi a'i ddangos pan fyddwch yn dweud wrth athro am y problemau rydych yn eu cael.
Mae gan rai ysgolion ddisgyblion hŷn sy'n gwirfoddoli i fod yn 'ffrindiau' i blant sy'n cael eu bwlio. Gallan nhw roi cyngor a chefnogaeth, a rhoi ffordd arall o riportio achosion o fwlio os nad ydych chi'ch hun yn gyfforddus yn rhoi gwybod am eich problemau i oedolyn arall.
Os ydych chi'n gwybod bod yna broblem gyda bwlio yn eich ysgol chi, beth am wneud rhywbeth amdani? Mae nifer o sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw i'ch helpu os ydych chi'n dymuno sefydlu cynllun neu rwydwaith gwrth-fwlio. Hyd yn oed os nad chi sy'n cael eich bwlio, gallwch gymryd rhan.