Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n meddwl bod bwlio'n rhan naturiol o fywyd ysgol bob dydd, rydych chi'n anghywir. Does neb yn haeddu cael ei fwlio ac ni ddylech anwybyddu'r broblem.
Does dim rhaid i chi gael eich dyrnu neu'ch brifo'n gorfforol i gael eich bwlio. Mae pryfocio, cael eich bygwth a galw enwau hefyd yn gallu bod yn ffurfiau ar fwlio.
Mae llawer o resymau pam fod pobl yn cael eu bwlio. Bydd rhai pobl yn cael eu herlid oherwydd eu crefydd neu eu hil, tra bydd pobl eraill yn cael eu dewis oherwydd eu pwysau, y dillad maen nhw'n eu gwisgo neu oherwydd eu bod nhw'n glyfar - pethau na ddylai neb fod â chywilydd ohonynt.
Os ydych chi'n cael eich bwlio, does dim rhaid i chi oddef hynny ac mae llawer o bobl ar gael i'ch helpu i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Os ydych chi'n cael eich bwlio, mae'n bosib eich bod yn teimlo eich bod mewn magl neu ar eich pen eich hun. Mae'n bosib ei bod yn fwy anodd i chi wneud ffrindiau neu sgwrsio efo pobl yr un oedran â chi. Mae'n bosib hefyd bod eich gwaith ysgol yn dioddef am eich bod yn poeni am beth allai ddigwydd yn yr ysgol y diwrnod nesaf.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio ar eich gwaith a byw eich bywyd yn normal, neu os ydych chi'n poeni bod y bwlio'n mynd yn dreisgar a'ch bod yn teimlo mewn perygl, rhaid i chi ddweud wrth un o'ch athrawon neu'ch rhieni. Efallai y bydd hyn yn anodd i ddechrau, ond mae'n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod iddyn nhw beth sy'n digwydd er mwyn iddyn nhw'ch helpu chi i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Gellir defnyddio ffonau symudol hefyd i fwlio pobl.
Os ydych chi wedi cael eich bwlio dros y ffôn, mae'n bosib eich bod wedi cael neges destun hyll neu un sy'n eich dychryn, neu mae'n bosib bod rhywun wedi anfon negeseuon llais i'ch ffôn sy'n eich bygwth neu fod cyfnodau hir o dawelwch.
Mae'n bosib eich bod wedi derbyn neges llun a oedd yn gwneud i chi deimlo'n annifyr.
Cofiwch nad dim ond rhywbeth sy'n digwydd pan fyddwch chi wyneb yn wyneb â rhywun y mae bwlio'n digwydd - fe all ddigwydd dros y ffôn neu hyd yn oed ar y we.
Mae'n bosib nad ydych chi'ch hun yn cael eich bwlio, ond eich bod yn gweld rhywun arall yn cael ei fygwth neu'n cael ei bryfocio a'ch bod yn awyddus i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Fel arfer, mae'n well peidio ag ymyrryd yn y digwyddiad ei hun oherwydd mae'n bosib y byddwch chi'n mynd i drwbl, ond ddylech chi mo'i anwybyddu. Os ydych chi'n 'nabod y person sy'n cael ei fwlio, dylech geisio'u hannog i sgwrsio â rhywun am yr hyn sy'n digwydd.
Os ydych chi'n meddwl ei bod hi'n briodol, mae'n bosib y byddwch chi am sôn yn gyfrinachol wrth athro/athrawes neu riant am y broblem. Mae'n bosib hefyd fod gan eich ysgol gynlluniau gwrth-fwlio y gallwch fod yn rhan ohonyn nhw os ydych chi'n teimlo'n gryf am gael gwared ar fwlio.