Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cael neges destun anweddus neu alwad fygythiol ar eich ffôn symudol gan fwli yn fwy na rhywbeth annifyr. Gall fod yn drosedd. Os ydych chi'n cael eich bwlio ar eich ffôn symudol, peidiwch ag ateb a rhowch wybod i rywun cyn gynted ag sy'n bosib.
Nid dim ond ar y rhyngrwyd y mae seiberfwlio'n digwydd. Gallwch hefyd ddioddef seiberfwlio os ydych yn cael galwadau a negeseuon testun sarhaus ar eich ffôn symudol.
Gall y galwadau, y negeseuon testun a'r negeseuon llais hyn ypsetio pobl ac mae'n aml yn anodd deall sut mae'r sawl sy'n eu hanfon yn gwybod beth yw eich rhif ffôn symudol.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn cael eich bwlio ar eich ffôn symudol, y peth pwysicaf yw peidio ag ymateb na chymryd rhan mewn ffrae. Fel rheol mae bwlis yn gachgwn, felly maent yn gobeithio y byddwch chi'n adweithio.
Ar yr un pryd, nid yw hynny'n golygu y dylech chi anwybyddu'r peth a pheidio â gwneud dim.
Gallwch gael eich bwlio drwy eich ffôn symudol mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Galwadau ffôn sy'n codi ofn
Gall dioddefwyr bwlio dros ffôn symudol gael galwadau sarhaus gan rywun sy'n bygwth trais i godi ofn arnynt.
Bydd rhai bwlis yn dewis aros yn dawel ar ben arall y ffôn, sy'n drysu'r sawl sy'n ateb yr alwad ac yn gwneud iddynt boeni.
Negeseuon testun sarhaus
Weithiau bydd pobl sy'n bwlio'n anfon negeseuon testun sy'n ceisio codi ofn, ypsetio neu brifio rhywun yn fwriadol.
Gall cael negeseuon testun fel hyn fod yn frawychus, yn enwedig os ydynt gan rywun dydych chi ddim yn eu hadnabod.
Negeseuon lluniau tramgwyddus
Efallai eich bod hefyd yn poeni am ffotograffau a delweddau sydd wedi cael eu hanfon atoch chi dros eich ffôn symudol.
Gallai'r rhain fod yn lluniau ohonoch chi sydd wedi cael eu tynnu heb i chi wybod hynny. Gallent hefyd fod yn lluniau sy'n eich dangos mewn sefyllfaoedd y byddai'n well gennych eu cadw'n breifat.
Fideos treisgar neu annifyr
Mae camera fideo yn y rhan fwyaf o ffonau symudol nawr, sy'n golygu bod cael eich ffilmio heb i chi sylweddoli yn gallu digwydd yn amlach.
Os ydych chi'n cael eich bwlio dros eich ffôn symudol, efallai byddwch chi:
Efallai eich bod hefyd wedi clywed am 'happy slapping', pan ymosodir yn gorfforol ar y dioddefwr a bydd fideo o'r ymosodiad yn cael ei bostio ar y rhyngrwyd.
Er ei fod yn drafferth, y ffordd orau o stopio bwlio ar ffôn symudol yw cael cerdyn SIM arall neu newid eich rhif ffôn.
Ar ôl i chi gael rhif ffôn newydd, rhowch eich rhif newydd i aelodau eich teulu a'ch ffrindiau agos yn unig.
Os byddwch yn cael neges destun bwlio, cadwch y neges ar eich ffôn. Dylech hefyd wneud nodyn o'r amser roeddech chi wedi cael y neges a manylion yr anfonwr. Peidiwch â dileu'r neges oddi ar eich ffôn.
Er efallai y byddwch chi eisiau gwneud hynny, oherwydd efallai y bydd ei hangen ar yr heddlu neu eich cwmni ffôn symudol os byddant yn ymchwilio i'r mater.
Os ydych chi'n cael eich targedu gan fwlis ffôn symudol, mae'n bwysig rhoi gwybod i rywun. Os ydych chi'n teimlo'n anghyfforddus yn siarad â rhiant neu athro, siaradwch â pherthynas hŷn arall neu ffrind rydych chi'n ymddiried ynddynt. Byddant yn gallu eich helpu i stopio'r bwlio.
Dylech hefyd ddweud wrth eich cwmni ffôn symudol am y bwlio. Efallai byddant yn gallu canfod y sawl sy'n eich ffonio neu'n anfon negeseuon testun atoch chi, hyd yn oed os ydynt yn cuddio eu rhif.
Mae'r cwmnïau ffonau symudol i gyd yn delio â bwlio'n wahanol, felly cysylltwch â'r llinell gymorth i gwsmeriaid i gael gwybod pwy ddylech chi siarad â nhw.
Os hoffech chi gael cyngor mwy cyfrinachol, gallwch gysylltu â ChildLine.
Mae gwneud galwadau ffôn sy'n achosi tramgwydd yn drosedd. Os ceir rhywun yn euog o hynny, gallent orfod talu dirwy fawr. Gallent hefyd gael dedfryd o chwe mis.
Os ydych chi'n cael eich bwlio dros eich ffôn symudol, peidiwch â bod ofn rhoi gwybod i'r heddlu.