Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os ydych chi'n bwlio rhywun

Efallai eich bod yn meddwl bod pryfocio plant yn yr ysgol yn hwyl digon diniwed, ond i'r dioddefwr, dydy hynny ddim yn hwyl o gwbl. Mae nifer o fudiadau a gwefannau defnyddiol ar gael i’ch helpu os ydych am stopio bwlio rhywun.

Pam bwlio rhywun?

Os ydych chi'n bwlio rhywun, meddyliwch pam eich bod yn gwneud hynny. Ydych chi'n ceisio edrych yn dda neu ddangos rhyw ddelwedd arbennig i'ch grŵp o ffrindiau?

Mae nifer o resymau pam fod rhywun yn dechrau bwlio rhywun arall. Efallai:

  • bod ganddyn nhw broblemau gartref ac yn defnyddio bwlio fel ffordd o gael gwared ar eu hanhapusrwydd a'u rhwystredigaeth ar rywun arall
  • bod eu ffrindiau'n eu hannog i ymuno â'r bwlio, a gwneud hynny dim ond er mwyn aros yn rhan o'r grŵp hwnnw
  • eu bod yn genfigennus o rywun
  • eu bod yn chwilio am sylw, a'r unig ffordd y maen nhw'n ei wybod amdano o gael hyn yw trwy bigo ar rywun

Effeithiau bwlio

Os ydych chi'n bwlio rhywun, efallai nad ydych chi'n sylweddoli faint o niwed rydych chi'n ei achosi. Gall galw enwau, sydd yn eich tyb chi'n ddoniol, effeithio'n fawr ar hyder a hunan-werth rhywun. Mewn achosion difrifol, bydd y dioddefwyr yn dechrau meddwl am adael cartref neu feddwl am niweidio ei hun dim ond er mwyn cael gwared ar y broblem.

Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol i chi hefyd os cewch eich dal yn bwlio rhywun. Efallai y cewch eich gwahardd neu eich diarddel o'r ysgol. Os byddwch yn brifo rhywun yn gorfforol, efallai y cewch eich cosbi gan yr heddlu hefyd.

Sut i stopio bwlio rhywun

Y cam cyntaf ydy cyfaddef i chi'ch hun eich bod yn berson sy'n bwlio eraill. Mewn rhai achosion, efallai y gall fod yn eithaf hawdd stopio bwlio rhywun drwy beidio â'i wneud dim mwy. Efallai y byddwch hyd yn oed am ddweud ei bod yn ddrwg gennych i'r sawl rydych wedi bod yn ei fwlio.Os ydych yn cael eich annog gan grŵp o ffrindiau i barhau i fwlio, neu os ydych chi wedi bod yn bwlio am amser hir, efallai y bydd yn fwy anodd rhoi'r gorau iddi.

Os mai dyma'r achos, meddyliwch am y canlynol:

  • sut fyddech chi'n teimlo petai rhywun yn gwneud yr un peth i chi neu i rywun sy'n bwysig i chi
  • pam eich bod yn teimlo'r angen i fwlio rhywun. Os oes rhywbeth yn eich bywyd sy'n eich gwneud yn anhapus ac yn gwneud i chi fwlio, oni fyddai'n well rhoi sylw i'r broblem honno?
  • sut fyddech chi'n ymateb neu beth fyddai'n digwydd petaech chi'n cael eich riportio i athro ac yn cael eich hun mewn trwbl difrifol

Pobl sy'n gallu helpu

Yn aml, y bobl sy'n gallu rhoi cymorth a chyngor i'r rhai sy'n cael eu bwlio yw'r rhai sy'n gallu helpu'r rhai sy'n bwlio i newid eu hymddygiad a gwneud newid cadarnhaol.

Efallai eich bod yn poeni y cewch eich cosbi neu y bydd cymorth yn cael ei wrthod i chi os cyfaddefwch i chi fod yn bwlio, ond ni fydd hyn yn digwydd.

Os hoffech chi siarad â rhywun yn gyfrinachol neu'n breifat, ffoniwch Childline neu'r NSPCC. Mae eu cynghorwyr wedi cael eu hyfforddi i helpu gyda phob math o broblemau, felly peidiwch â phoeni y byddan nhw'n eich barnu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU