Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth yw seiber-fwlio

Seiber-fwlio yw pan fydd person neu grŵp o bobl yn ceisio bygwth, profocio neu godi cywilydd ar rywun arall gan ddefnyddio ffôn symudol neu’r we. Mae seiber-fwlio yr un mor niweidiol â bwlio yn y byd go iawn. Os byddwch chi’n gweld hyn yn digwydd, riportiwch ef. Peidiwch â’i anwybyddu.

Ydych chi'n rhan ohono?

Mae'r rheini sy'n cymryd rhan mewn bwlio ar-lein yn aml yn defnyddio grŵp o ffrindiau i dargedu eu dioddefwyr drwy ofyn iddynt ychwanegu sylw at lun ar flog, neu ofyn iddynt ei anfon at grŵp arall o ffrindiau. Weithiau, nid yw'r bobl hyn hyd yn oed yn sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn bwlio rhywun.

Ar ba ffurf y digwydd hyn?

Mae llawer o wahanol fathau o seiber-fwlio. Dyma’r prif rai:

E-bost

Anfon negeseuon e-bost a all fygwth neu frifo rhywun. Gellir anfon negeseuon e-bost yn uniongyrchol at un person, neu at grŵp o bobl i'w hannog i fod yn rhan o'r bwlio. Gall y negeseuon hyn, neu 'bost cas', gynnwys hiliaeth, rhywiaeth a mathau eraill o ragfarn.

Os oes rhywun yn anfon neges atoch a'ch bod yn ei hanfon ymlaen neu'n chwerthin am ei phen, rydych chi mewn gwirionedd yn ychwanegu at y broblem.

Negeseua gwib ac ystafelloedd sgwrsio

Anfon negeseuon at ffrindiau neu'n uniongyrchol at ddioddefwr ar negesydd gwib neu mewn ystafell sgwrsio. Gwahoddir pobl eraill i ymuno â'r sgwrs fwlio, ac wedyn, byddant yn dod yn rhan ohono drwy chwerthin.

Safleoedd rhwydweithio cymdeithasol

Sefydlu proffiliau ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol er mwyn gwneud hwyl am ben rhywun. Trwy ymweld â'r tudalennau hyn, neu gyfrannu atynt, rydych chi'n dod yn rhan o'r broblem ac yn ychwanegu at anhapusrwydd y dioddefwr.

Ffonau symudol

Anfon negeseuon testun neu fideo sy'n bychanu neu'n difrïo, yn ogystal â negeseuon llun neu alwadau gyda ffôn symudol. Mae hyn yn cynnwys negeseuon testun dienw yn y fan a'r lle gan ddefnyddio technoleg Bluetooth, a rhannu fideos o ymosodiadau corfforol ar unigolion (slapio hapus).

Gemau rhyngweithiol

Gall chwaraewyr consolau gemau sgwrsio ar-lein gydag unrhyw un y cânt eu paru gyda nhw mewn gêm i fwy nag un chwaraewr. Mae bwlis seiber weithiau'n difrïo chwaraewyr eraill ac yn eu bygwth.

Gallant hefyd gloi dioddefwyr allan o gemau, lledaenu straeon anwir am rywun neu hacio i mewn i gyfrif rhywun.

Anfon firysau

Bydd rhai pobl yn anfon firysau neu raglenni hacio at berson arall sydd yn gallu dinistrio'u cyfrifiadur neu ddileu gwybodaeth bersonol oddi ar eu disg galed.

Camddefnyddio gwybodaeth bersonol

Mae nifer o ddioddefwyr seiber-fwlio wedi cwyno eu bod wedi gweld lluniau personol, negeseuon e-bost neu sylwadau mewn blogiau wedi'u rhoi lle gellid eu gweld gan bobl eraill heb ganiatâd.

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ei gwneud yn llawer haws i ddefnyddwyr y we gael gafael ar wybodaeth bersonol a lluniau o bobl. Gallant hefyd gael gafael ar gyfrifon negeseua rhywun arall a sgwrsio â phobl gan gymryd arnynt mai nhw yw'r dioddefwr.

Effeithiau seiber-fwlio

Er na all seiber-fwlio eich brifo'n gorfforol, fe all eich peri i deimlo'n agored i niwed ac wedi'ch ypsetio'n arw. Gallwch hefyd deimlo ofn ac unigrwydd, a theimlo dan bwysau a bod dim dianc.

Gall dianc rhag seiber-fwlio fod yn anodd iawn. Oherwydd gall unrhyw un gael gafael ar ffôn symudol neu'r we o unrhyw le bron, gall fod yn anodd i'r rheini sy'n dioddef ei osgoi, yn eu cartrefi eu hunain hyd yn oed.

Pam mae seiber-fwlis yn gwneud hyn?

Does dim ateb syml pam mae rhai pobl yn dewis achosi poen i bobl eraill trwy eu bwlio. Ceir llawer o resymau posib, ond dyma rai cyffredin:

  • gall fod mor syml â bod rhywun yn y lle anghywir ar yr amser anghywir ac yn gadael i rywun eu brawychu'n hawdd
  • creda rhai pobl sy'n seiber-fwlio na chânt eu dal os ydyn nhw'n gwneud hyn gyda ffôn symudol neu ar y we
  • mae'r bobl sy'n seiber-fwlio yn genfigennus, yn flin neu am ddial ar rywun, yn aml heb reswm o gwbl
  • mae seiber-fwlis yn aml yn meddwl bod annog eu ffrindiau i chwerthin am ben rhywun yn gwneud iddynt edrych yn cŵl neu'n fwy poblogaidd
  • mai rhai pobl hefyd yn bwlio i'w diddanu eu hunain neu am nad oes ganddynt ddim byd gwell i'w wneud gyda'u hamser rhydd
  • mae llawer yn gwneud hyn i gael hwyl neu i ennyn ymateb gan eraill

Allweddumynediad llywodraeth y DU