Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn berchen ar gwch pleser cofrestredig

Popeth y mae angen i chi ei wybod ynghylch bod yn berchen ar gwch pleser cofrestredig. Cewch wybod sut mae dewis enw, adnewyddu eich cofrestriad, newid porthladd neu enw a throsglwyddo perchnogaeth eich cwch.

Gwneud yn siŵr bod eich cwch yn gwch pleser

Ystyr cwch pleser yw cwch (fel cwch hwylio) a ddefnyddir at ddibenion chwaraeon neu hamdden. Nid yw perchennog y cwch yn cael arian am weithio’r cwch nac am gario teithwyr.

Cychod preifat

Ystyrir bod cwch yn gwch pleser os bydd teithwyr yn teithio ynddo am ddim. Mae’n rhaid iddo gael ei ddefnyddio gan y canlynol:

  • perchennog y cwch
  • ffrindiau neu deulu’r perchennog

Cychod cwmni

Ystyrir bod cwch cwmni yn gwch pleser os bydd teithwyr yn teithio ynddo am ddim a’i fod yn cael ei ddefnyddio gan y canlynol:

  • gweithwyr y cwmni
  • swyddogion y cwmni
  • ffrindiau a theulu agos y gweithwyr neu swyddogion

Gellir bod yn berchen ar gwch pleser ar ran clwb aelodau ar yr amod:

  • mai dim ond aelodau’r clwb a’u teuluoedd agosaf sy’n defnyddio’r cwch
  • mai dim ond at ddibenion chwaraeon a hamdden y defnyddir y cwch
  • y caiff unrhyw ffioedd am ddefnyddio’r cwch eu talu i gronfa’r clwb
  • nad oes taliadau eraill yn cael eu gwneud gan y rheini sy’n defnyddio’r cwch

Beth i’w wneud os nad yw’ch cwch yn gwch pleser

Am unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch a yw’ch cwch yn gwch pleser ai peidio, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru Llongau a Morwyr (RSS).

Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd CF24 5JW
DU

Rhif ffôn: +44 (0)29 2044 8800
Rhif ffacs: +44 (0)29 2044 8820
Cyfeiriad e-bost:

part1_registry@mcga.gov.uk

Os hoffech gofrestru eich cwch, gweler ‘Cofrestru eich cwch pleser’.

Mathau o gofrestriadau

Gellir cofrestru cychod pleser ar Ran I neu Ran III o’r gofrestr.

Rhan III y gofrestr

Mae Rhan III yn gyfyngedig i gychod dan 24 metr ac ar gyfer cychod sy'n eiddo i unigolion.

Rhan I y gofrestr

Defnyddir Rhan I pan fydd arnoch angen cofrestru morgais yn erbyn y cwch neu pan fyddwch am gael cofrestriad teitl.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gofrestriad y mae ei angen arnoch, darllenwch ein canllaw i gofrestru.

Dewis enw

Mae’n rhaid i bob cwch gael enw unigryw. Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru, bydd arnoch angen rhestr o enwau posib rhag ofn bod eich enw cyntaf eisoes yn cael ei ddefnyddio. Dylech roi’r rhestr hon, yn nhrefn eich dewis, pan fyddwch chi’n llenwi’r 'Application to Register a British Ship'. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosib gweld pa enwau sydd ar gael ar-lein na dros y ffôn.

Adnewyddu eich cofrestriad

Dri mis cyn i’ch cofrestriad ddod i ben, bydd RSS yn anfon rhybudd adnewyddu i'r cyfeiriad y gwnaethoch ei ddefnyddio i gofrestru. Os nad ydych wedi cael eich rhybudd adnewyddu drwy'r post, cysylltwch ag RSS. Byddant yn anfon ffurflen gais atoch a bydd angen i chi ei llenwi. Pan fyddwch yn dychwelyd y pecyn cais, dylech hefyd gynnwys ffi o:

  • £25 ar gyfer Rhan III y Gofrestr (SSR)
  • £49 ar gyfer Rhan I y Gofrestr

Mae Tystysgrif Cofrestru yn para pum mlynedd o ddyddiad y cofrestriad.

Dirwyn cofrestriad i ben

Os hoffech ddirwyn eich cofrestriad i ben, bydd angen i chi lenwi ffurflen MSF 4744, Application to Remove a British Ship from the Register. Mae’n rhaid i holl berchnogion y cwch lofnodi’r ffurflen. Bydd angen i chi hefyd ddychwelyd eich Tystysgrif Cofrestru cyfredol.

Newidiadau i’r cwch pleser

Pan fydd cwch pleser cofrestredig yn cael ei newid mewn unrhyw ffordd – fel newid cyfeiriad neu newid ym manylion yr injan, rhaid rhoi gwybod i RSS yn ysgrifenedig. Rhaid i chi hefyd anfon unrhyw ffurflenni, derbynebau a ffioedd angenrheidiol iddynt.

Newid perchnogaeth

Os hoffech newid perchnogaeth eich cwch pleser, bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflen cais, dogfennau a ffi cywir.

Ar gyfer Rhan III (SSR) – cwch pleser cofrestredig bydd angen i chi anfon:

  • cais ar gyfer y Gofrestr Llongau Bach
  • y ffi, sef £25

Gallwch hefyd newid manylion perchnogaeth neu gofrestru ar gyfer Rhan III y Gofrestr (SSR) ar-lein.

Ar gyfer Rhan I – cwch pleser cofrestredig bydd angen i chi anfon:

  • Datganiad Cymhwysedd
  • Dogfen Deitl – Bil Gwerthiant
  • Tystysgrif Corffori (os yw’n berthnasol)
  • y ffi, sef £80

Llong a rennir - Newid perchnogaeth os yw cyd-berchennog wedi marw

Dim ond i gychod a gofrestrwyd o dan Rhan I y cofrestriad y mae hyn yn berthnasol. Os yw’ch cwch wedi’i gofrestru dan Ran III (SSR) gwnewch gais am newid perchnogaeth yn y ffordd arferol.

Os yw cyfranddaliadau’ch cwch yn cael eu dal ar y cyd gyda pherchnogion eraill a bod un ohonynt wedi marw, bydd angen i chi anfon y canlynol i'r RSS:

  • y Dystysgrif Marwolaeth wreiddiol
  • Datganiad Cymhwysedd newydd
  • yr hen Dystysgrif Cofrestru (i'w dychwelyd i 'Cofrestr Llongau’r DU – RSS’)

Anfonir tystysgrif newydd atoch yn ddi-dâl.

Newid perchnogaeth cwch a etifeddwyd

Dim ond i gychod a gofrestrwyd dan Rhan I y cofrestriad y mae hyn yn berthnasol. Os yw’ch cwch wedi’i gofrestru dan Ran III (SSR) gwnewch gais am newid perchnogaeth yn y ffordd arferol.

Os nad yw cyfranddaliadau’ch cwch yn cael eu dal ar y cyd a bod y perchennog blaenorol wedi marw, bydd arnoch angen bil gwerthiant newydd. Mae’n rhaid i hyn gael ei gwblhau gan yr ysgutor a enwir ar y brofeb neu lythyrau gweinyddu. Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • Datganiad Cymhwysedd
  • Caniatâd Cynrychiolaeth (profiant, llythyrau gweinyddu, neu yn yr Alban, cadarnhad)
  • yr hen Dystysgrif Cofrestru
  • y ffi, sef £80

Newid enw neu borthladd

Os hoffech newid enw eich cwch neu’r porthladd a gofrestrwyd, bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflen gais a ffi cywir.

Ar gyfer Rhan III (SSR) – cwch pleser cofrestredig bydd angen i chi anfon:

  • cais ar gyfer y Gofrestr Llongau Bach
  • y ffi, sef £25

Gallwch hefyd gofrestru’r newid ar gyfer Rhan III y Gofrestr (SSR) ar-lein.

Ar gyfer Rhan I – cwch pleser cofrestredig bydd angen i chi anfon:

  • cais am Newid Enw neu'r Porthladd o Ddewis
  • y ffi, sef £37

Newid manylion yr injan neu fanylion tunelli/dimensiynau

Sylwer mai dim ond i Ran I y cofrestriad y mae hyn yn berthnasol. Os yw’ch cwch wedi’i gofrestru dan Ran III (SSR) does dim angen i chi wneud dim.

Os bydd manylion yr injan yn newid, bydd angen i chi gyflwyno’r dderbynneb wreiddiol neu’r anfoneb ar gyfer yr injan newydd. Os nad yw’r dderbynneb na’r anfoneb ar gael bydd angen i chi gael llythyr gan syrfëwr a all gadarnhau manylion yr injan, yn ogystal â’r ffi gywir.

Os yw manylion yn ymwneud â’r tunelli neu’r dimensiynau wedi newid, bydd angen i chi gyflwyno Tystysgrif Arolwg a roddir gan syrfëwr/arolygwr marciau awdurdodedig, yn ogystal â’r ffi gywir, sef £37. Os oes mwy nag un newid i’r llong bydd yn costio £17 yn ychwanegol.

Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU