Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru eich cwch pleser

Os ydych yn berchen ar gwch pleser, efallai y byddwch am ei gofrestru gyda Chofrestr Llongau’r DU. Gallwch gofrestru eich cwch ar-lein neu drwy’r post, dros ffacs neu dros e-bost. Darllenwch ein canllaw cam wrth gam i gael gwybod pa fath o gofrestriad y mae ei angen arnoch a sut mae gwneud cais.

Cofrestru eich cwch pleser

Gellir cofrestru pob cwch pleser (fel cychod hwylio) ar Ran I neu Ran III Cofrestr Llongau’r DU. I gael gwybod mwy am gychod pleser (fel sut i adnewyddu eich cofrestriad, newid porthladd/enw neu drosglwyddo perchnogaeth eich cwch), gweler ‘Bod yn berchen ar gwch pleser cofrestredig’.

Cofrestru cwch ar Ran III y Gofrestr Llongau Bach (SSR)

Mae Rhan III yn ffordd syml a rhad o gofrestru, ac mae’n profi o ba wlad y daw’r cwch. Os yw’ch cwch pleser yn llai na 24 metr, gallwch gofrestru â Rhan III Cofrestr Llongau’r DU. Mae’n costio £25 i gofrestru.

Bod yn gymwys i gofrestru

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i bob perchennog fod yn preswylio yn y DU am 185 diwrnod o’r flwyddyn a’i fod yn un o’r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd nad yw o’r DU sy’n arfer hawl i symud yr UE neu hawliau sefydlu gweithwyr
  • Dinesydd un o Diriogaethau Dibynnol Prydain
  • Dinesydd Prydeinig Tramor
  • Deiliad Prydeinig dan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981
  • Dinesydd Prydeinig (dramor) o dan Orchymyn (Cenedligrwydd Prydeinig) Hong Kong 1986
  • Dinesydd y Gymanwlad nad yw’n perthyn i gategori arall yn y rhestr hon

Nid yw’r canlynol yn gymwys ar gyfer cofrestriad Rhan III:

  • cwmnïau
  • llongau pysgota
  • llongau ymsuddol
  • cychod sy’n 24 metr o hyd neu fwy

Cofrestru ar-lein ar gyfer Rhan III

Os hoffech gofrestru eich cwch, gallwch wneud hynny ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau cais i gofrestru a thalu £25 gyda cherdyn credyd neu ddebyd. I gael gwybod mwy am ffioedd cofrestru a’r dogfennau y mae arnoch eu hangen i gofrestru, darllenwch ‘Ffioedd, ffurflenni a rhestrau gwirio ar gyfer cofrestru cychod pleser’.

Cofrestru cwch pleser ar Ran I y Gofrestr

Gall unrhyw berchennog cwch pleser cymwys wneud cais i gofrestru dan Ran I Cofrestr Llongau’r DU. Manteision cofrestriad Rhan I yw y gallwch wneud y canlynol:

  • profi eich bod yn berchen ar y cwch
  • profi o ba wlad y daw’ch cwch
  • defnyddio’r cwch fel sicrwydd i gael morgais forwrol
  • cael ‘Trawsgrifiadau Cofrestru’, sy’n dangos pwy oedd perchnogion blaenorol y cwch ac a oes unrhyw forgeisi’n ddyledus arno

Bod yn gymwys ar gyfer cofrestriad Rhan I

Mae cofrestriad Rhan 1 yn costio £124. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd un o Diriogaethau Dibynnol Prydain
  • Dinesydd Prydeinig Tramor
  • cwmni yn un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop
  • dinesydd un o aelod-wladwriaethau’r UE sy’n arfer hawliau dan erthyglau 48 neu 52 Cytundeb yr UE yn y DU
  • cwmni mewn unrhyw diriogaeth dramor Brydeinig sydd â’i brif ganolfan fasnachu yn y DU
  • Grwpiau Budd Economaidd Ewropeaidd

I gael gwybod mwy am ffioedd cofrestru a’r dogfennau y mae arnoch eu hangen i gofrestru, darllenwch ‘Ffioedd, ffurflenni a rhestrau gwirio ar gyfer cychod pleser’.

I gael cyngor ynghylch pa gofrestriad sydd orau ar gyfer eich cwch pleser, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru Llongau a Morwyr (RSS) i gael cyngor.

Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW, y DU

Rhif ffôn: +44 (0)29 2044 8800
Rhif ffacs: +44 (0)29 2044 8820
Cyfeiriad e-bost: part1_registry@mcga.gov.uk

Cofrestru ar gyfer perchnogion anghymwys

Os ydych yn rhannu cwch a’ch bod chi’n gymwys i gofrestru ond nad yw’ch partner yn gymwys, mae’n dal yn bosib i’ch partner gael cyfran leiafswm o’r cwch. Er enghraifft, gallwch chi fod yn berchen ar 33 cyfran o’r cwch a’ch partner yn berchen ar 31 cyfran – bydd yn rhaid i’r biliau gwerthiant a’r ffurflen Datganiad Cymhwysedd adlewyrchu hyn.

Wrth lenwi’r ffurflen Datganiad Cymhwysedd, bydd yn rhaid rhestru pob perchennog cymwys yn gyntaf, gan danlinellu eu henwau. Yna gellir rhestru perchnogion anghymwys.

Trawsgrifiadau Cofrestru

I gael manylion perchnogaeth cwch cofrestredig, gallwch wneud cais am Drawsgrifiad Cofrestru. Mae’r trawsgrifiad presennol yn costio £21. Bydd cofnodion blaenorol, megis trawsgrifiad hanesyddol (hanes llawn y cwch) yn costio £32.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Chofrestr Llongau’r DU – Swyddfa Gofrestru Llongau a Morwyr (RSS).

Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW, y DU

Rhif ffôn: +44 (0)29 2044 8800
Rhif ffacs: +44 (0)29 2044 8820
Cyfeiriad e-bost: part1_registry@mcga.gov.uk

Trwydded Radio ar gyfer Llong

Fel perchennog cwch pleser, bydd angen Trwydded Radio ar gyfer Llong arnoch. Gallwch gofrestru yn rhad ac am ddim gydag Ofcom.

Gallwch hefyd wneud cais drwy’r post. Dylech ysgrifennu at:


Amateur and Maritime Team
Ofcom Licensing Centre
PO Box 56373
Llundain
SE1 9SZ

Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU