Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n dymuno cofrestru eich cwch pleser (fel cwch hwylio) mae'n bosib i chi wneud hynny ar-lein erbyn hyn. Gallwch hefyd newid enw eich cwch neu’ch porthladd, trosglwyddo perchnogaeth ac adnewyddu eich cofrestriad. Yma, cewch wybod pa ddogfennau y bydd arnoch eu hangen a beth fydd y gost i gofrestru.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o gofrestriad y mae ei angen arnoch, neu os mae angen rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae cofrestru eich cwch, gweler ‘Cofrestru eich cwch pleser’.
I gael gwybod sut i adnewyddu eich cofrestriad, newid porthladd/enw neu drosglwyddo perchnogaeth eich cwch, gweler 'Bod yn berchen ar gwch pleser cofrestredig'.
Gallwch lwytho pob ffurflen y mae ei hangen arnoch yn y fan hon.
Mae’r dolenni isod yn cynnwys gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch o bosib pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru.
Os hoffech gofrestru eich cwch ar Ran III y Gofrestr bydd arnoch angen y ffurflenni canlynol:
Dychwelwch hwy drwy’r post i’r Swyddfa Gofrestru Llongau (RSS).
Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)29 2044 8813
Cyfeiriad e-bost:
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Rhan III y Gofrestr (SSR) ar-lein.
I gofrestru eich cwch ar Ran I y Gofrestr, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflenni canlynol i Gofrestr Llongau’r DU – RSS:
Gallwch wneud cais dros e-bost neu drwy ffacs yn y lle cyntaf, ond ni chewch Dystysgrif Cofrestru nes i chi lenwi'r dogfennau a thalu'r ffioedd.
Efallai y bydd angen y ffurflenni canlynol arnoch hefyd os ydych yn bwriadu cofrestru morgais yn erbyn eich cwch:
Dogfennau ategol ar gyfer Rhan I
Yn ogystal â’r ffurflenni a'r ffioedd a restrir uchod, bydd angen i chi anfon y canlynol hefyd:
Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW
Y Derynas Unedig
Ffôn: +44 (0)29 2044 8866
Cyfeiriad e-bost:
Dogfennau gwreiddiol
Rhaid i bob dogfen deitl a ddefnyddir ar gyfer cofrestru fod yn rhai gwreiddiol. Os yw dogfennau mewn iaith dramor, rhaid cael cyfieithiad wedi’i notareiddio a rhaid bod hwnnw wedi’i ardystio gan notari cyhoeddus. Bydd y dogfennau’n cael eu hardystio a’u dychwelyd atoch gyda’r Dystysgrif Cofrestru.
Os na allwch gael gafael ar y dogfennau gwreiddiol a bod angen i chi gofrestru'ch cwch, efallai y bydd RSS yn gallu awgrymu dogfennau eraill.
Mae’r canlynol yn ganllaw i ffioedd ar gyfer cofrestru cychod pleser. Os oes arnoch angen amcangyfrif manylach, cysylltwch ag RSS.
Sut i dalu
Gallwch dalu gyda:
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch a yw’ch cwch yn gwch pleser ai peidio, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru Llongau a Morwyr (RSS) am gyngor.
Cofrestr Llongau’r DU - RSS
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: +44 (0)29 2044 8800
Rhif ffacs: +44 (0)29 2044 8820
Cyfeiriad e-bost: part1_registry@mcga.gov.uk