Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n anodd cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o golli eich swydd unrhyw bryd, ond mae gennych hawliau a warchodir gan y gyfraith. Mae'r adran hon yn eich helpu i wneud synnwyr o gael eich diswyddo, gan eich galluogi i reoli eich arian ac ailystyried eich dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
Daeth rheoliadau newydd i rym ar 1 Hydref 2006 sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail oed. Mae'r cyfreithiau'n golygu bod cyfle cyfartal i weithwyr o bob oed i gael hyfforddiant a dyrchafiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Os ydych meddwl bod eich swydd am gael ei dileu, mae angen i chi ddeall beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldebau. Os caiff eich swydd ei dileu, dylech gael gwybod beth yw'r cyfrifoldebau hyn, a beth yw eich hawliau.
Mae amrywiaeth o resymau pam y gallai eich cyflogwr eich diswyddo. Ceir rhesymau teg ac annheg ar gyfer diswyddo, ac mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig yn egluro pam y cawsoch eich diswyddo. Beth bynnag oedd y rheswm am eich diswyddo, rhaid i'ch cyflogwr hefyd ymddwyn yn deg o ran y weithdrefn y byddant yn ei dilyn. Os na wnânt, gallai'r diswyddo fod yn annheg.
Bydd diswyddo ffurfiannol yn digwydd pan gaiff gweithiwr ei orfodi i adael ei swydd yn groes i'w ewyllys oherwydd ymddygiad y cyflogwr. Cewch wybod yma beth y gallwch ei wneud os teimlwch fod rhaid i chi adael eich swydd.
Mae diswyddo annheg yn golygu eich bod wedi cael eich diswyddo ac nad oes gan eich cyflogwr reswm dilys dros eich diswyddo a/neu ei fod wedi ymddwyn yn afresymol. Cewch wybod yma am eich hawliau a sut y gallwch geisio datrys y broblem.
Pan fyddwch chi'n gorffen mewn swydd, fel arfer, dylech roi neu gael rhybudd. Cael gwybod faint o rybudd y mae'n rhaid i chi neu eich cyflogwr ei roi, y rheolau ynglŷn â'r tâl y dylech ei dderbyn a'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau eraill.
Os yw eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr, bydd gennych sawl dewis. Cewch wybod yma am fanylion beth i'w wneud os oes arian yn ddyledus i chi gan gyflogwr sy'n fethdalwr, a sut y bydd methdaliad yn effeithio ar eich statws cyflogaeth.