Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Helpu eich plentyn i fwynhau'r rhyngrwyd yn ddiogel: Clicio Clyfar, Clicio Diogel

Mae'r rhyngrwyd yn agor y drws i fyd sy'n llawn adloniant, cyfleoedd a gwybodaeth. I helpu'ch plentyn i fwynhau'r cyfan yn ddiogel, mae Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) wedi llunio cod Clicio Clyfar, Clicio Diogel (Click Clever, Click Safe).

Dweud dim (Zip it), Atal (Block it), Rhoi Gwybod (Flag it) – canllaw i'r cod

Bwriad y cod yw gwneud y canlynol:

  • rhoi'r hyder i rieni allu helpu eu plant i fwynhau'r rhyngrwyd yn ddiogel
  • helpu plant a phobl ifanc i ddeall sut y gall eu profiadau ar-lein eu gwneud yn agored i beryglon

Mae tri cham syml i'r cod:

  • Dweud dim (Zip it) - cadwch eich gwybodaeth bersonol yn breifat a meddyliwch am yr hyn y byddwch yn ei ddweud ac yn ei wneud ar-lein
  • Atal (Block it) - peidiwch â derbyn negeseuon gan bobl sy'n anfon negeseuon annifyr atoch a pheidiwch ag agor dolenni nac atodiadau os nad ydych yn gwybod beth ydyn nhw
  • Rhoi gwybod (Flag it) - os bydd unrhyw beth yn eich dychryn neu'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, neu os bydd rhywun yn gofyn am gael eich cyfarfod wyneb yn wyneb, dywedwch wrth rywun

Mae'n hawdd cofio'r cod pan fyddwch yn siarad â phlant am fod yn ddiogel ar-lein, ac mae wedi'i lunio gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel ar y rhyngrwyd.

Dweud dim (Zip it)

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y dylai bob amser gadw gwybodaeth breifat yn ddiogel a bod yn ofalus beth mae'n ei ddweud ar y rhyngrwyd. Mae'n bosib nad yw pobl yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw mewn gwirionedd pan maen nhw ar-lein, ac nid yw bob amser yn bosib rheoli pwy all weld gwybodaeth eich plentyn.

Dylai eich plentyn wybod na ddylai rannu gwybodaeth fel:

  • ei enw llawn
  • lluniau
  • cyfeiriadau post neu gyfeiriadau e-bost
  • gwybodaeth am ei ysgol
  • rhifau ffôn symudol neu gartref
  • manylion lleoedd y mae'n hoffi mynd

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod na ddylai drefnu i gyfarfod â phobl y mae ond wedi'u cyfarfod ar-lein. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi bod yn sgwrsio â rhywun ers tro, dieithryn yw'r person hwnnw o hyd.

Gallwch helpu i gadw gwybodaeth eich plentyn yn ddiogel drwy ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd. Gall gwneud hyn gyfyngu mynediad at wybodaeth bersonol a lluniau ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol er enghraifft.

Dylech hefyd annog eich plentyn i ddefnyddio ffugenw yn hytrach na'i enw go iawn mewn ystafelloedd sgwrsio neu wrth ddefnyddio gwasanaethau negeseuon gwib. I rwystro pobl rhag gweld cyfrifon ar-lein eich plentyn, dylech ei annog i gadw'i gyfrineiriau'n gyfrinachol, ac i'w newid yn rheolaidd.

Atal (Block it)

Anogwch eich plentyn i atal pobl sy'n anfon negeseuon cas atynt a dywedwch wrthynt am beidio ag agor dolenni ac atodiadau os nad ydynt yn gwybod beth ydynt. Dylent ddileu unrhyw negeseuon e-bost neu atodiadau amheus oherwydd gallant gynnwys rhywbeth annifyr neu feirws a allai niweidio'r cyfrifiadur.

Un o'r prif ffyrdd y gall plant ddod ar draws cynnwys anaddas ar-lein yw drwy ganlyniadau chwilio. Mae'r rhan fwyaf o beiriannau chwilio yn cynnwys dewis 'chwilio diogel' sy'n gadael allan y canlyniadau sy'n cynnwys geiriau penodol neu luniau amhriodol.

Gallwch hefyd osod meddalwedd rheolaeth rhiant ar eich cyfrifiadur i hidlo cynnwys niweidiol ac amhriodol ar gyfrifiaduron ac ar rai consolau gemau a ffonau symudol.

Rhoi gwybod (Flag it)

Y rheol olaf yw y dylai eich plentyn ddod atoch chi neu fynd at oedolyn arall y mae'n ymddiried ynddo os yw'n anhapus am unrhyw beth y mae wedi ei weld ar-lein. Dylai wneud hyn hefyd os yw ffrind y mae wedi ei gyfarfod ar-lein yn gofyn am gyfarfod yn y byd go iawn.

Os yw'ch plentyn yn gweld cynnwys amhriodol ar-lein, riportiwch ef i'r wefan y mae'n ymddangos arni. Mae Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIC) wedi llunio 'siop un stop' ar gyfer diogelwch ar y rhyngrwyd sy'n cynnwys mwy o wybodaeth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Clic Clyfar, Clic Diogel

Cael cymorth a chyngor ar ystod o faterion diogelwch y rhyngrwyd gan y Siop-Un-Stop UKCCIS

Allweddumynediad llywodraeth y DU