Derbyn dirwy neu ohebiaeth sydd a wnelo â cherbyd a chithau heb fod yn berchen arno
Os ydych chi'n derbyn dirwyon neu ohebiaeth am gerbyd a chithau heb fod yn berchen arno rhagor, nac yn wir erioed, mae'n bwysig eich bod yn ymateb cyn gynted ag y bo modd. Drwy wneud hyn, gallwch osgoi derbyn rhagor o ddogfennau.
Mae'n bosib eich bod wedi cael dirwy neu ohebiaeth gan un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), un o ganolfannau gorfodi cofrestriad di-dor y DVLA (CREC) neu docynnau parcio.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Defnyddiwch y wybodaeth ganlynol i'ch helpu i ddelio â'r dirwyon neu'r ohebiaeth gawsoch chi:
Gan bartïon eraill heblaw'r DVLA
- ysgrifennwch at DVLA, Abertawe SA99 1AZ neu anfonwch ffacs i 01792 783 083
- esboniwch eich bod yn derbyn dirwyon neu ohebiaeth
- rhowch rif cofrestru'r cerbyd, ei wneuthuriad a'r model
- os oeddech ar un adeg yn berchen ar y cerbyd, nodwch union ddyddiad ei werthu neu ei drosglwyddo ac enw a chyfeiriad y sawl y gwerthoch/ trosglwyddoch chi'r cerbyd iddyn nhw
- os nad yw'r manylion hyn gennych neu os na fuoch chi'n berchen ar y cerbyd erioed, dylech esbonio hyn yn eich llythyr gan roi cymaint o wybodaeth ag y bo modd
- ni all DVLA dderbyn y manylion hyn dros y ffôn neu'r ebost
Wrth dderbyn y wybodaeth, bydd DVLA yn diweddaru eu cofnodion ac yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch - cadwch y cadarnhad hwn ar gyfer eich cofnodion.
Yn y cyfamser, dylech:
- sicrhau eich bod yn dychwelyd unrhyw ddirwy neu ohebiaeth i'r awdurdod a'i hanfonodd
- rhoi gwybod iddyn nhw eich bod wedi gwerthu neu wedi trosglwyddo'r cerbyd
- rhoi cymaint o wybodaeth iddyn nhw ag y bo modd
- cadwch gopi o'r ohebiaeth i chi gyfeirio ato