Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diweddaru pasbort ceffyl a dileu dyblygiadau

Mae’n bwysig cadw pasbort eich ceffyl yn gyfredol a rhoi gwybod i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) am unrhyw newidiadau i’ch manylion. Yma, cewch wybod pryd y bydd angen i chi gysylltu â'r Corff Cyhoeddi Pasbortau a beth i’w wneud os oes gennych fwy nag un pasbort ceffyl.

Diweddaru eich pasbort pan fydd eich manylion yn newid

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) a gyhoeddodd basport eich ceffyl am unrhyw newidiadau i'ch manylion. I gael rhestr o’r Cyrff Cyhoeddi Pasbortau yn y DU a’u manylion cyswllt, dilynwch y ddolen isod.

Os cafodd eich pasbort ceffyl ei gyhoeddi gan Gorff Cyhoeddi Pasbortau cydnabyddedig mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys Iwerddon), cysylltwch â'r Corff Cyhoeddi Pasbortau'n uniongyrchol. Dylech ddod o hyd i’w manylion cyswllt yn y pasbort.Os na, dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i'w manylion.

Os bydd eich ceffyl yn marw, bydd angen i chi ddychwelyd y pasbort i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau a’i cyhoeddodd cyn pen 30 diwrnod.

Newid cyfeiriad yn barhaol

Dylech ddweud wrth y Corff Cyhoeddi Pasbortau a gyhoeddodd eich pasbort ceffyl os byddwch yn newid cyfeiriad yn barhaol, cyn pen 30 diwrnod o symud.

Os byddwch yn gwerthu eich ceffyl

Ni ddylech werthu ceffyl heb basport ceffyl a rhaid i chi drosglwyddo’r pasbort i’r perchennog newydd. Dylent roi gwybod i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau eu bod nhw wedi cymryd perchnogaeth o’r ceffyl cyn pen 30 diwrnod.

Pan fydd eich ceffyl yn marw

Pan fydd eich ceffyl yn marw, rhaid i chi ddychwelyd y pasbort i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau a'i cyhoeddodd yn wreiddiol cyn pen 30 diwrnod ar ôl marwolaeth y ceffyl. Fodd bynnag, os ydych eisiau cadw’r pasbort, mae’n bosib gall y Corff Cyhoeddi Pasbortau ei ddychwelyd atoch ar ôl iddynt ddiweddaru eu cofnodion.

Os yw’ch Corff Cyhoeddi Pasbortau wedi rhoi’r gorau i fasnachu

Ers 2004, mae rhai Cyrff Cyhoeddi Pasbortau wedi rhoi’r gorau i fasnachu, felly bydd angen i chi ddiweddaru eich pasbort gan Gorff Cyhoeddi Pasbortau arall. Cysylltwch â’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) neu ewch ar wefan Defra am y rhestr gyfredol o’r Cyrff Cyhoeddi Pasbortau cymeradwy.

Pasbortau sydd wedi’u cyhoeddi gan Federation Equestre Internationale

Os cafodd eich pasbort ei gyhoeddi gan Federation Equestre Internationale, dylech gysylltu â Ffederasiwn Ceffylau Prydain i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni’r gofynion presennol.

Cael pasbort ceffylau newydd yn lle un sydd ar goll

Os byddwch yn colli’r pasbort ceffyl, gallwch gael un yn ei le drwy gysylltu â'r Corff Cyhoeddi Pasbortau a'i cyhoeddodd. Bydd y Corff Cyhoeddi Pasbortau yn rhoi pasbort newydd i chi gyda stamp ‘dyblyg’ arno.
Yn ôl y gyfraith, bydd y datganiad yn ‘Adran IX’ yn nodi na fwriedir i’ch ceffyl gael ei fwyta gan bobl. Golyga hyn na fydd y ceffyl yn mynd i'r gadwyn fwyd ddynol ar ôl iddo farw.
Gweler ‘Cael pasbort ceffyl' am fwy o wybodaeth ynghylch llenwi Adran IX o’r pasbort ceffyl.

Diweddaru pasbortau hŷn sydd heb Adran IX

Os oes gennych basport ceffylau a gafodd ei gyhoeddi cyn 28 Chwefror 2005, ni fydd Adran IX wedi’i gynnwys ynddo. Os felly, bydd angen i chi gysylltu â’r Corff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) a gyhoeddodd y pasbort er mwyn ei ddiweddaru.

Beth i’w wneud os oes gennych fwy nag un pasbort ar gyfer yr un ceffyl

Dim ond un pasbort dilys dylech gael ar gyfer pob ceffyl sydd gennych. Os oes gennych basportau dyblyg, mae’r broses o sicrhau mai dim ond un pasbort dilys sydd gennych yn dibynnu ar pryd y'u cyhoeddwyd.

Pasbortau a’u cyhoeddwyd cyn 1 Ionawr 2007

Os oes gennych fwy nag un pasbort ceffyl a gafodd eu cyhoeddi cyn 1 Ionawr 2007, gallwch ddewis pa un i'w gadw. Yn ôl y gyfraith, rhaid i Adran IX yr ydych chi'n ei gadw fod wedi'i lofnodi ‘nid i’w fwyta gan bobl’.
Dylech ddychwelyd y pasbort nad ydych yn ei gadw i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau a’i roddodd i chi, lle caiff ei ddileu.

Pasbortau a’u cyhoeddwyd ar ôl 1 Ionawr 2007

Os oes gennych basportau dyblyg ar gyfer yr un ceffyl a gafodd eu cyhoeddi ar ôl 1 Ionawr 2007, rhaid i chi gadw’ch pasbort ceffyl gwreiddiol. Rhaid fod Adran IX wedi’i arwyddo ‘nid i’w fwyta gan bobl’. Dylech ddychwelyd y pasbort arall i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau a’i roddodd i chi fel y gellir ei ganslo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU