Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd angen pasbort ceffyl arnoch fel y gellir adnabod eich ceffyl. Yma, cewch wybod ynghylch cael pasbort gan sefydliad awdurdodedig a phwysigrwydd nodi unrhyw feddyginiaeth a roddir i’ch ceffyl.
Mae’r broses ar gyfer cael pasbort ceffyl wedi’i nodi isod.
Gallwch gael ffurflen gais ar gyfer pasbort ceffyl gan ‘Gorff Cyhoeddi Pasbortau’ (PIO) awdurdodedig. Ni fydd y pasbort yn ddilys os nad yw wedi’i gyflwyno gan sefydliad awdurdodedig. Bydd angen i chi lenwi cais am basport ar gyfer pob ceffyl sydd gennych.
Mae’r mwyafrif o’r Cyrff Cyhoeddi Pasbortau yn gymdeithasau bridiau cydnabyddedig ac mae'n bosib mai dim ond ar gyfer brîd arbennig o geffyl y gallant roi pasbort. Gweler gwefan adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) am restr o Gyrff Cyhoeddi Pasbortau awdurdodedig a’u manylion cyswllt.
Fel rhan o’ch cais am basport, bydd angen i chi gynnwys silwét – diagram o’ch ceffyl. Bydd hyn yn help i adnabod eich ceffyl drwy ddangos unrhyw nodweddion arbennig sydd ganddo, fel amrywiadau mewn marciau lliw (‘troell’). O 1 Gorffennaf 2009 ymlaen, ni fydd angen silwét arnoch oherwydd yn hytrach na hyn, bydd y milfeddyg yn rhoi microsglodyn ar y ceffyl.
Bydd angen i chi gael milfeddyg sy’n gyfarwydd â gweithio gyda cheffylau, i ddod i weld eich ceffyl a chwblhau ac llofnodi’r silwét. Codir ffi am hyn. Gallwch chwilio am filfeddyg ceffylau ar wefan Coleg Brenhinol y Milfeddygon.
Gallwch hefyd ofyn i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau anfon ‘dynodydd’ awdurdodedig i gwblhau’r silwét. Neu, mae’n bosib y gallwch gwblhau ac llofnodi’r silwét eich hun, os yw’r milfeddyg wedi gosod microsglodyn ar y ceffyl. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod manylion y ceffyl wedi’i gofnodi’n ffurfiol ar y microsglodyn.
Ychwanegu dogfennau sydd eisoes yn bodoli at basport newydd
Mae’n bosib bod gennych ddogfennau eraill eisoes am eich ceffyl sy’n cynnwys silwét, fel tystysgrif brechiad. Nid yw’r rhain yn cael eu cyfrif fel pasbortau, ond mae’n bosib y byddai’r Corff Cyhoeddi Pasbortau yn cytuno trosglwyddo silwét sy’n bodoli eisoes i basport newydd.
Mae’n bosib y bydd y Corff Cyhoeddi Pasbortau yn cytuno cynnwys silwét o ddogfen arall neu basport cynharach gan sefydliad heb ei awdurdodi. Holwch y Corff Cyhoeddi Pasbortau am hyn pan fyddwch yn gwneud cais.
Dylech hefyd ofyn i’r Corff Cyhoeddi Pasbortau am eu gofynion ar gyfer brîd eich ceffyl. Er enghraifft, mae'n bosib y bydd cymdeithas frîd yn mynnu fod bridiau penodol yn cael microsglodyn wedi'u gosod arnynt cyn y gallant gael pasbort. Neu, mae’n bosib y byddant yn gofyn am wybodaeth ynghylch brîd neu bedigri’r ceffyl.
Byddwch yn cael pasbort eich ceffyl drwy'r post, sydd fel arfer yn cymryd rhwng pump a 15 diwrnod gwaith, er gall hyn amrywio yn dibynnu ar y Corff Cyhoeddi Pasbortau. Unwaith y bydd wedi'i gyhoeddi, bydd y pasbort yn ddilys ar gyfer y ceffyl ar hyd ei oes.
Bydd eich ceffyl hefyd yn cael ‘Rhif Ceffyl Unigryw am Oes’ a bydd y manylion yn cael eu hychwanegu at y Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol. (NED). Mae’r Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol yn gronfa o fanylion rhifau a mathau o geffylau yn y DU. Gallwch chwilio drwy’r Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol am fanylion eich ceffyl drwy ddilyn y ddolen isod.
Gweler ‘Diweddaru pasbort ceffyl a dileu dyblygiadau’ i gael gwybodaeth am sut i ddiweddaru pasbort eich ceffyl neu gael un newydd yn lle un sydd wedi mynd ar goll.
Unwaith y byddwch yn datgan na fwriedir i’ch ceffyl gael ei fwyta gan bobl, ni ellir ei newid fyth.
Rhaid i chi ddatgan a fwriedir i’ch ceffyl gael ei fwyta gan bobl ai peidio yn Adran IX o’i basport. Ni fwriedir i’r mwyafrif o’r ceffylau yn y DU gael eu bwyta gan bobl. Golyga hyn na fydd eu cig yn cael ei roi mewn bwyd a fwriedir ar gyfer pobl ar ôl iddynt farw. Fodd bynnag, mae’n bwysig llenwi’r datganiad i atal ceffylau sy’n cael eu trin gan feddyginiaethau penodol rhag mynd i’r gadwyn fwyd ddynol.
Unwaith y bydd y datganiad ‘nid i’w fwyta gan bobl' wedi’i arwyddo, ni ellir ei newid fyth wedyn, felly ystyriwch yn ofalus cyn gwneud hyn. Dylai’r Corff Cyhoeddi Pasbortau a/neu’ch milfeddyg allu rhoi cyngor i chi.
Yn Lloegr, gall y datganiad gael ei lofnodi unrhyw bryd, ond rhaid iddo gael ei lofnodi cyn i’ch ceffyl:
Mae’n bosib bod y rheolau ar Adran IX ychydig yn wahanol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, felly gofynnwch i’r llywodraeth yn yr ardaloedd hyn am ragor o wybodaeth.
Meddyginiaethau y mae’n rhaid eu cofnodi yn y pasbort
Os byddwch yn datgan y bwriedir i’ch ceffyl gael ei fwyta gan bobl, bydd eich milfeddyg yn cadw cofnod o’r holl feddyginiaethau a roddir iddo. Bydd eich milfeddyg bob tro’n bwrw golwg ar y datganiad cyn ei drin gyda meddyginiaethau penodol, megis Bute, sy’n wenwynig i bobl. Os bydd eich ceffyl yn cael ei drin gyda’r meddyginiaethau hyn, rhaid i’r datganiad yn y pasbort gael ei newid i ‘ni fwriedir'.
Mae gwefan y Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn rhoi rhestr o ba feddyginiaethau sydd angen eu cofnodi ym mhasport eich ceffyl.
Os na fydd y pasbort gyda chi pan fydd y ceffyl yn cael ei drin, cewch gofnod o unrhyw feddyginiaeth a roddir iddo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi hyn ar y pasbort.