Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mewnforio ac allforio ceffyl – pa bryd y bydd angen pasbort ceffyl arall

Bydd angen pasbort ceffylau dilys y DU arnoch pan fyddwch yn mewnforio ceffyl. Yma, cewch wybod pa bryd y bydd angen i chi wneud hyn a gwneud yn siŵr bod eich pasbort wedi’i ddiweddaru cyn allforio ceffyl.

Mewnforio ceffyl o fewn yr Undeb Ewropeaidd

Os byddwch yn mewnforio ceffyl o wlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE), bydd angen pasbort ceffyl dilys. Rhaid fod y pasbort wedi’i gyhoeddi gan Gorff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) awdurdodedig yn yr UE. Os nad yw’r sefydliad wedi’i awdurdodi, neu nad oes pasbort wedi’i ddarparu, bydd angen i chi wneud cais am basport newydd gan Gorff Cyhoeddi Pasbortau yn y DU. Rhaid gwneud hyn cyn pen 30 diwrnod o fewnforio’r ceffyl.
Dilynwch y dolenni isod am restr o Gyrff Cyhoeddi Pasbortau awdurdodedig yn y DU a'r UE.

Gweler ‘Cael pasbort ceffyl' am fwy o wybodaeth ynghylch y broses o wneud cais am basport ceffyl.

Diweddaru ‘Adran IX' o’r pasbort


Os nad yw Adran IX wedi’i gynnwys yn y pasbort, bydd angen ei ddiweddaru. Mae Adran IX yn cynnwys datganiad sy’n nodi a yw’r ceffyl wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl neu beidio. Dylech anfon y pasbort at y sefydliad a’i cyhoeddodd er mwyn ei ddiweddaru gydag Adran IX.
Gweler ‘Cael pasbort ceffyl' am fwy o wybodaeth ynghylch llenwi Adran IX o’r pasbort ceffyl.

Mewnforio ceffyl o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

Os byddwch yn mewnforio ceffyl o wlad sydd y tu allan i’r UE, bydd angen i chi wneud cais am basport ceffyl gan Gorff Cyhoeddi Pasbortau yn y DU. Rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod o fewnforio’r ceffyl.

Ceffylau sydd yn y DU am gyfnod byr

Os byddwch yn mewnforio ceffyl, ond eu bod yn aros yn y DU am llai na 30 diwrnod, ni fydd angen pasbort ceffylau arno.

Allforio ceffyl

Bydd angen pasbort dilys os ydych yn symud eich ceffyl o'r DU. Rhaid i chi lofnodi’r datganiad yn Adran IX o'r pasbort a chael y Corff Cyhoeddi Pasbortau neu arolygydd milfeddyg lleol i’w ad-lofnodi.

Mewnforio ac allforio gweithdrefnau a dulliau


Mae allforio ceffyl, yn enwedig i wlad y tu allan i’r UE, fel arfer yn gofyn am gynllunio gofalus. Bydd angen i chi ddechrau gwneud paratoadau mewn da bryd cyn allforio'ch ceffyl. Am ragor o wybodaeth , fel a oes angen cynllun llwybr neu drwydded allforio ar eich ceffyl, ewch at wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Allweddumynediad llywodraeth y DU