Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw’r wobr fwyaf a roddir i grwpiau gwirfoddoli ledled y DU am y gwaith eithriadol y maent yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. Cewch yma wybod pa waith all arwain at enwebiad, pwy sy'n penderfynu ar yr enwebiadau, a phryd y cyhoeddir yr enillwyr.
Gallwch enwebu grŵp gwirfoddoli os gwyddoch am y gwaith y mae’n ei wneud. Chewch chi ddim:
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i enwebu grŵp gwirfoddoli.
Gallai unrhyw grŵp o ddau neu ragor o bobl sy’n gwneud gwaith gwirfoddol sy'n cynnig gwasanaeth cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol i’r gymuned gael y wobr. Er mwyn cael eu henwebu, dylai’r grwpiau gwirfoddoli wneud gwaith:
Hefyd, dylai fod gan grwpiau gwirfoddoli hanes da o wneud gwaith yn y gymuned leol.
Os yw’r grŵp gwirfoddoli yr ydych wedi’i enwebu yn gweithio yn Lloegr ac yn gymwys i gael y wobr, bydd yr enwebiad yn cael ei asesu ar lefel sirol. Bydd y gwaith asesu yn cael ei wneud gan gynrychiolwyr y Frenhines, a elwir yn Arglwydd Raglawiaid (Lord Lieutenants), gyda chymorth panel asesu sirol sy’n cynnwys cynrychiolwyr blaenllaw o’r gymuned leol.
Fel rhan o’r broses asesu, mae’n bosib y bydd yr Arglwydd Raglawiaid a’u cynrychiolwyr yn ymweld â’r grwpiau gwirfoddoli sydd wedi’u henwebu.
Yn Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw, caiff yr enwebiadau eu hasesu gan gynrychiolwyr y Frenhines a elwir yn Raglaw-Lywodraethwyr (Lieutenant Governors) a phanel lleol o arbenigwyr.
Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, caiff yr enwebiadau eu hasesu gan baneli o arbenigwyr a sefydlir gan weinyddiaethau datganoledig pob gwlad. Byddant yn asesu argymhellion Arglwydd Raglaw pob rhanbarth.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut mae gweinyddiaethau datganoledig yn gwneud eu penderfyniadau a pha bwerau sydd ganddynt.
Mae aelodaeth y paneli sy’n asesu’r enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn adlewyrchu cyfansoddiad y gymuned leol. Dylai eu bod yn meddu ar brofiad perthnasol gan gynnwys yn y meysydd a ganlyn:
Bydd y paneli asesu lleol yn anfon yr enwebiadau i banel asesu arbenigol a fydd yn cynnwys naw o arbenigwyr annibynnol ym maes gwirfoddoli o bob cwr o'r DU. Bydd y panel asesu arbenigol yn ystyried yr enwebiadau ochr yn ochr â’r amodau ar gyfer rhoi’r wobr, a bydd yr asesiad yn cael ei wneud gan y paneli gweinyddol datganoledig a sirol.
Mae’r panel asesu arbenigol yn gwneud argymhellion i Swyddfa’r Cabinet ynghylch pwy ddylai ennill y wobr.
Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am baneli a phwyllgorau ar gyfer y wobr.
Penderfynir ar bob enwebiad ar sail y buddion y mae'n eu rhoi i’r gymuned leol. Ni phenderfynir ymlaen llaw faint o enillwyr fydd yna mewn sector gwaith gwirfoddoli neu ranbarth o'r wlad. Fodd bynnag, bydd y bobl a fydd yn asesu'r gwobrau'n ceisio gwneud yn siŵr bod y grwpiau hynny sy'n ennill y wobr yn cynnwys aelodau o wahanol oedran sy'n dod o wahanol sectorau gwirfoddoli.
Bydd Swyddfa’r Cabinet yn anfon rhestr o’r grwpiau gwirfoddoli yr argymhellir y dylent ennill gwobr at y Frenhines er mwyn iddi hi eu cymeradwyo. Bydd y grwpiau gwirfoddoli buddugol yn cael gwybod a ydynt yn mynd i ennill y wobr ai peidio cyn gwneud y cyhoeddiad. Fodd bynnag, rhaid iddynt gytuno i gadw manylion y wobr yn breifat nes bydd y cyhoeddiad swyddogol wedi’i wneud. Cyhoeddir rhestr o'r enillwyr yn y London Gazette.
Cyhoeddir enillwyr Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol ar 2 Mehefin bob blwyddyn. Dilynwch y ddolen isod i weld rhestr o enillwyr diweddaraf ac enillwyr blaenorol y wobr ac i ddarllen astudiaethau achos am eu gwaith.
Bydd enillwyr y wobr yn cael tystysgrif wedi’i llofnodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn ogystal â thlws gwydr. Bydd Arglwydd Raglaw y sir leol yn cyflwyno’r dystysgrif a'r tlws i'r grwpiau gwirfoddoli buddugol. Mae’n bosib y gwahoddir cynrychiolwyr o’r grŵp i de parti brenhinol.
Mae’n bosib i’r enillwyr gael fersiynau bach o’r tlws drwy gysylltu â gweinyddwr Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.
Crëwyd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2002 i ddathlu hanner canmlwyddiant Coroni’r Frenhines. Cyn hyn, roedd y wobr yn cael ei galw’n Wobr Jiwbilî Aur am Wasanaeth Gwirfoddol gan Grwpiau yn y Gymuned. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod am system anrhydeddau Prydain ac am y frenhiniaeth.
Swyddfa’r Trydydd Sector, sydd yn Swyddfa’r Cabinet, sy’n rheoli Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.