Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Enwebu grŵp ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Yma, cewch wybod pwy gaiff enwebu grŵp gwirfoddoli ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol a pha grwpiau y gellir eu henwebu. Hefyd, gallwch lwytho ffurflen enwebu i lawr a chael gwybod beth mae angen i chi ei wneud i'w llenwi.

Enwebu grwpiau gwirfoddoli – pwy gaiff wneud hynny

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd enwebu grŵp gwirfoddoli sy’n gweithio yn y gymuned leol, hyd yn oed os ydych chi’n elwa o waith y grŵp.

Pwy na chaiff enwebu grwpiau

Chewch chi ddim enwebu grŵp os ydych chi:

  • yn rhan o’r grŵp gwirfoddoli yr ydych yn ei enwebu
  • yn perthyn i unrhyw un yn y grŵp

Grwpiau gwirfoddoli – amodau y mae’n rhaid eu bodloni

Gallwch enwebu unrhyw grŵp o ddau neu ragor o bobl yn y DU sy’n gwneud gwaith gwirfoddoli, a hwnnw’n darparu budd penodol i ardal leol am dair blynedd neu ragor. Gall eu gwaith gwirfoddoli gynnwys rhoi cymorth i bobl dramor.

Does dim rhaid i’r gweithgareddau ddarparu buddion uniongyrchol i’r gymuned leol, fel rhedeg clwb ieuenctid. Gallant hefyd ddarparu buddion anuniongyrchol, fel gwarchod yr amgylchedd. Rhaid i waith grŵp gwirfoddoli olygu mwy na dim ond codi arian.

Mae’n rhaid i’r grŵp fod yn gwirfoddoli ers tair blynedd neu ragor hefyd, ond fe ellid ystyried mudiad sy’n cyflawni prosiect tymor byr i’w enwebu hefyd.

Aelodaeth grwpiau gwirfoddoli

Mae’n ofynnol bod y rhan fwyaf o’r grŵp yn wirfoddolwyr, a rhaid bod gan dros hanner y gwirfoddolwyr hawl i fyw yn y DU.

Pryd gewch chi enwebu grŵp

Gallwch enwebu grŵp unrhyw adeg. Fel arfer, bydd grŵp sy’n cael ei enwebu yn cael ei ystyried am y wobr yn y flwyddyn ar ôl eich enwebiad.

Os ydych chi am wneud yn siŵr bod eich grŵp yn cael ei ystyried am wobr yn y flwyddyn ganlynol, rhaid i’ch enwebiad gael ei dderbyn erbyn 30 Medi.

Gellir ystyried enwebiadau unrhyw bryd dros gyfnod o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosib y cysylltir â chi i ddarparu gwybodaeth gyfredol am y grŵp.

Os nad yw grŵp yn llwyddiannus yn y tair blynedd ar ôl iddo gael ei enwebu, ni fydd yn cael ei ystyried am y wobr. Gellir gwneud enwebiad newydd wedyn.

Cyfrinachedd y wobr

Bydd manylion yr enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cael eu cadw’n breifat gan y gweinyddwyr a chan y paneli asesu lleol. Mae’n bosib y bydd y paneli’n ymweld â’r grwpiau sydd wedi’u henwebu yn eu hardaloedd.

Mae’n rhaid i’r grwpiau buddugol gytuno i gadw manylion y wobr yn breifat nes bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud.

Enillwyr ac astudiaethau achos Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Dilynwch y ddolen isod i weld rhestr o enillwyr diweddaraf ac enillwyr blaenorol y wobr ac i ddarllen astudiaethau achos am eu gwaith.

Llwytho'r ffurflen enwebu oddi ar y we

Gallwch lwytho’r ffurflen enwebu a’r nodiadau cyfarwyddyd oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod.

Hefyd, gallwch ffonio neu ysgrifennu at weinyddwr y wobr a gofyn am fersiwn bapur o’r ffurflen enwebu a’r cyfarwyddiadau drwy’r post. Dilynwch y ddolen isod i gael gweld manylion cyswllt y gweinyddwr.

Llenwi’r ffurflen enwebu

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen enwebu a chael datganiadau gan ddau gefnogwr sydd â gwybodaeth fanwl am y grŵp gwirfoddoli.

Gall un o’r cefnogwyr fod:

  • yn wirfoddolwr gyda’r grŵp
  • yn perthyn i’r rheini sy’n rhedeg y grŵp
  • yn rhywun sy’n elwa o waith y grŵp

Os yw un o’r cefnogwyr yn dod dan un o’r categorïau uchod, rhaid bod y llall yn gwbl annibynnol ar y grŵp.

Llenwi’r ffurflen enwebu

Mae’n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen enwebu drwy’r post neu’r ffacs i weinyddwr y wobr. Ni allwch anfon y ffurflen enwebu drwy e-bost gan fod angen i chi ei llofnodi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU