Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r broses asesu enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn golygu cyfres o wahanol gamau. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd ar ôl i enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol gael eu cyflwyno a phwy sy'n eistedd ar y paneli ac ar y pwyllgorau.
Ar ôl i chi gyflwyno ffurflen enwebu, bydd gweinyddwr y wobr yn edrych ar bob enwebiad i wneud yn siŵr bod y grŵp yn gymwys ar gyfer y wobr. Yna, bydd y gweinyddwr yn anfon yr enwebiadau at y panel asesu lleol.
Bydd Arglwydd Raglawiaid (Lord Lieutenants), sef cynrychiolwyr y Frenhines ym mhob sir, yn trefnu panel asesu lleol a fydd yn cynnwys pobl sy’n gwybod am y gymuned leol. Bydd y panel yn asesu'r holl enwebiadau cymwys yn eu sir.
Yn ystod yr asesiad, mae’n bosib y bydd yr Arglwydd Raglaw neu ei gynrychiolydd yn ymweld â phob un o’r grwpiau sydd wedi’u henwebu er mwyn cael profiad uniongyrchol o waith y grŵp.
Yna, bydd y panel yn penderfynu pa enwebiadau sy’n llwyddiannus ac yn ysgrifennu datganiad (panel citation) yn esbonio pam y dylai'r grŵp ennill y wobr. Bydd y panel yn anfon yr enwebiadau a datganiadau’r panel at y pwyllgor asesu arbenigol.
Bydd y pwyllgor asesu arbenigol yn cynnwys arbenigwyr ym maes gwirfoddoli o bob cwr o'r DU. Byddant yn pwyso a mesur yr enwebiadau llwyddiannus a datganiadau'r panel ac yna'n argymell i'r prif bwyllgor gwobrwyo pwy ddylai ennill y wobr.
Bydd y prif bwyllgor gwobrwyo yn adolygu ac yn cymeradwyo argymhellion y pwyllgor asesu arbenigol, ac yn anfon eu hargymhellion i Swyddfa’r Cabinet.
Yna, bydd Swyddfa’r Cabinet yn gwneud cynnig ffurfiol o ba grwpiau ddylai ennill y wobr ac yn ei anfon at Ei Mawrhydi y Frenhines i’w gymeradwyo’n derfynol.
Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon baneli cenedlaethol annibynnol ar gyfer adolygu argymhellion y panel asesu lleol yn y gwledydd hyn.
Bydd y panel annibynnol yn penderfynu pa enwebiadau sy’n llwyddiannus ac yn anfon y rhain, ynghyd â’r datganiad ar gyfer pob enwebiad llwyddiannus, at y pwyllgor asesu arbenigol.
Dilynwch y ddolen isod i weld rhestr o enillwyr diweddaraf ac enillwyr blaenorol y wobr ac i ddarllen astudiaethau achos am eu gwaith.