Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn penderfynu dod â'ch perthynas i ben, mae angen i chi ystyried unrhyw bensiynau sydd gan y naill neu'r llall ohonoch. Gallai gwerth eich pensiynau wneud gwahaniaeth i'ch setliad ariannol. Mynnwch wybod sut y gellir delio â phensiynau os byddwch yn gwahanu.
Dim ond parau priod neu'r rhai mewn partneriaethau sifil sydd â'r hawl i wneud cais am bensiwn eu gŵr, eu gwraig neu eu partner sifil.
Os oeddech yn byw gyda'ch gilydd ond nad oeddech yn briod nac mewn partneriaeth sifil, nid oes gennych hawl gyfreithiol i unrhyw ran o bensiwn eich partner. Ond gallech ddefnyddio pensiwn cyfan, neu ran ohono, fel rhan o setliad os byddwch am wneud hynny.
Mae tair ffordd y gellir delio â phensiynau fel rhan o gytundeb ariannol
Mae tair ffordd y gellir delio â phensiynau fel rhan o gytundeb
ariannol pan fyddwch yn gwahanu.
Gwrthbwyso pensiwn
Ystyr gwrthbwyso pensiwn yw pan gaiff gwerth pensiwn un partner ei gymharu â gwerth asedau eraill y pâr, fel eiddo. Pan gaiff y trefniadau ariannol eu gwneud, bydd y partner sydd â'r pensiwn yn cadw'r pensiwn a bydd y partner arall yn cael rhywbeth o werth cyfatebol.
Er enghraifft, efallai y penderfynir bod un unigolyn yn cadw ei bensiwn a bod y llall yn cadw'r tŷ.
Rhannu pensiwn
Ystyr rhannu pensiwn yw pan fo gwerth pensiwn un partner ar adeg yr ysgariad yn cael ei rannu rhwng y ddau ohonoch. Efallai na chewch gyfran gyfartal, oherwydd gallai'r llys benderfynu y dylai un partner gael cyfran fwy o'r pensiwn na'r llall.
Os cewch gyfran o bensiwn eich partner, efallai y bydd gennych rai dewisiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud ag ef. Gallai'r rhain gynnwys:
Yn dibynnu ar sut mae'r cynllun pensiwn yn gweithio, efallai y cewch incwm a chyfandaliad unwaith y byddwch yn ymddeol. Mae'n debygol y bydd y cynllun pensiwn yn codi ffi arnoch am y gwaith yn sgîl rhannu pensiwn.
Atafael pensiwn
Ystyr atafael pensiwn yw y byddwch yn cael canran y cytunwyd arni o bensiwn galwedigaethol neu bersonol eich partner pan gaiff ei dalu iddo ef/iddi hi. Gallai hwn fod yn gyfandaliad neu gallai fod yn daliad pensiwn rheolaidd.
Fodd bynnag, os bydd eich partner yn marw, ni fyddech yn cael unrhyw daliadau eraill, a hynny am eich bod ond yn cael arian o orchymyn atafael os telir arian i'r pensiynwr.
Os yw'r gorchymyn ar gyfer taliadau rheolaidd, byddai'r rhain yn dod i ben os byddwch yn ailbriodi. Ond, yn dibynnu ar amodau'r gorchymyn, efallai y cewch gyfandaliad os bydd eich cyn-bartner yn marw.
Wrth drafod unrhyw gytundeb ariannol, mae'n debygol y bydd gwerth eich pensiwn yn ffactor pwysig.
Dylech chi a'ch partner gael eich pensiynau wedi'u prisio cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau neu gytundebau. Mae eich pensiynau'n cynnwys unrhyw bensiynau galwedigaethol a phersonol a phensiwn ychwanegol y wladwriaeth.
Os oes gennych bensiwn 'cyfraniad diffiniedig', gallwch gael gwerth cywir eich pensiwn o'ch cyfriflen flynyddol.
Os nad oes gennych gyfriflen ddiweddar neu os oes gennych bensiwn 'buddiant diffiniedig', siaradwch â darparwr eich pensiwn.
Gallwch gael gwerth eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth drwy anfon ffurflen BR20 at y Gwasanaeth Pensiwn.
Nid oes gan eich partner hawl gyfreithiol i ofyn i ddarparwr eich pensiwn am brisiad. Ond os byddwch yn defnyddio pensiwn fel rhan o setliad, bydd angen i chi gael gorchymyn llys. Bydd rhaid i chi ddangos i'r llys a'ch cyn-ŵr, eich cyn-wraig neu'ch cyn-bartner y prisiad fel y gellir gwneud gorchymyn teg.
Os na allwch gytuno rhyngoch chi'ch hunain, bydd angen i chi ofyn i'r llys benderfynu ar eich rhan
Os ydych yn bwriadu rhannu pensiwn neu atafael pensiwn fel rhan o setliad, bydd angen gorchymyn llys arnoch.
Bydd gorchymyn y llys yn dweud wrth ddarparwr y pensiwn sut i ddelio â'r pensiwn.
Dylech chi a'ch partner geisio dod i gytundeb ynghylch beth i'w wneud â'ch pensiynau. Os na allwch gytuno rhyngoch chi'ch hunain, bydd angen i chi ofyn i'r llys benderfynu ar eich rhan. Gall cael y llys i benderfynu roi pwysau ar bawb, yn ogystal â chostio mwy o amser ac arian.
Gall gwasanaethau cyfryngu hefyd eich helpu pan fyddwch yn ceisio dod i gytundeb ynghylch materion ariannol heb fynd i'r llys.
Fodd bynnag, dylai unrhyw drefniadau a wnewch gyda'ch partner gael eu cadarnhau gan gyfreithiwr o hyd.
Ni all cyfreithiwr warantu y bydd y llys yn cytuno ar y trefniadau arfaethedig, ond bydd ganddo syniad da. Bydd yn sicrhau bod y trefniadau'n deg a'ch bod yn deall beth y byddant yn eu golygu i chi. Gall hyn helpu i atal unrhyw anghytundebau pellach yn y dyfodol.
Os ydych wedi dod i gytundeb rhyngoch ynghylch eich pensiynau, bydd angen i chi wneud cais i'r llys am 'orchymyn caniatâd'.
Os na allwch ddod i gytundeb, bydd angen i chi ddilyn y broses 'cymorth ategol' drwy'r llys. Bydd y llys yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb. Os na allwch gytuno, bydd yn penderfynu beth i'w wneud â'ch holl asedau, gan gynnwys pensiynau.
Bydd y llys yn ystyried pethau fel am fainty buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil, pa asedau eraill sydd gennych a faint oed yw'r ddau ohonoch.