Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Newid eich cyflenwr nwy a thrydan

Gallai newid i gyflenwr nwy neu drydan arall arbed arian i chi. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn newid cyflenwr, pa hawliau sydd gennych i ganslo a sut i gwyno os bydd pethau'n mynd o chwith.

Dewis cyflenwr ynni newydd

Er mwyn penderfynu a yw'n werth newid eich cwmni ynni, yn gyntaf, cyfrifwch faint rydych yn ei dalu am eich tanwydd bob blwyddyn. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar filiau'r llynedd a'u cymharu â'r prisiau a gynigir gan gwmnïau gwahanol.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau i'ch helpu i ddod o hyd i fargen ratach. Gallwch ddewis cwmnïau ar wahân i gyflenwi eich nwy a'ch trydan neu un cwmni i gyflenwi'r ddau - gelwir hyn yn danwydd deuol.

Gofynnwch i gwmnïau ynni roi'r wybodaeth ganlynol i chi:

  • beth yw eu hopsiynau talu - mae rhai dulliau talu yn rhatach nag eraill, e.e. efallai y cewch ostyngiad am dalu drwy ddebyd uniongyrchol
  • a oes yn rhaid talu ffioedd (cosbau) os byddwch yn canslo'r contract
  • a fydd yn rhaid i chi dalu tâl sefydlog yn ogystal â chost yr ynni rydych yn ei ddefnyddio - mae hwn yn talu am gostau sefydlog y cyflenwr, e.e. cynnal a chadw

Dylai cwmnïau ynni ddarparu gwybodaeth am newid cyflenwr am ddim.

Peidiwch â llofnodi unrhyw beth oni bai eich bod wedi penderfynu newid cyflenwr - hyd yn oed os cewch wybod nad contract ydyw. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o gyngor ar ddiogelu eich hun rhag sgamiau.

Sut i newid cyflenwr ynni

Cam un: cyn i chi ymrwymo i gontract ynni newydd, darllenwch delerau ac amodau'r contract. Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch i'r cwmni ynni amdano.

Cam dau: llofnodwch gontract newydd gyda'r cwmni ynni. Dylai'r broses drosglwyddo gymryd tua chwe wythnos i'w chwblhau.

Cam tri: rhowch 28 diwrnod o rybudd i'ch cyflenwr presennol eich bod yn bwriadu newid cyflenwr. Os byddwch yn gwneud hynny dros y ffôn, anfonwch lythyr dilynol neu e-bost ato i gadarnhau'r hyn a drafodwyd. Os byddwch yn anghofio rhoi rhybudd, gall y dyddiad y byddwch yn newid cyflenwr gael ei ohirio.

Cam pedwar: cymerwch ddarlleniad mesurydd ar y diwrnod y byddwch yn newid cyflenwr. Gwnewch nodyn o'r darlleniad hwn a'r dyddiad rhag ofn y byddwch yn anghytuno â chost eich bil cyntaf.

Cam pump: talwch unrhyw arian sy'n ddyledus i'ch hen gyflenwr.

Nwy petrolewm hylifedig (LPG) - newid cyflenwr

Byddwch yn wyliadwrus o daliadau cudd

Efallai y codir tâl arnoch os byddwch yn newid cyflenwr LPG o fewn dwy flynedd

Os yw eich cartref yn defnyddio LPG a'ch bod am newid cyflenwr, bwrwch olwg dros eich contract.

Gall cyflenwyr eich gorfodi i brynu LPG ganddynt am hyd at ddwy flynedd. Os byddwch am newid cyflenwr LPG o fewn y cyfnod hwn, efallai y bydd angen i chi dalu ffi i derfynu'r contract.

Ni fyddwch yn gallu newid cyflenwr os ydych yn cael LPG drwy gyflenwad cyffredin, e.e. ar ystad dai neu faes carafannau.

Mae rhestr o gyflenwyr LPG ar gael ar wefan UKLPG, sef y gymdeithas fasnach LPG. Os na fydd y cyflenwr newydd yn gallu defnyddio eich tanc presennol (neu os bydd yn gwrthod ei ddefnyddio), efallai y bydd yn codi ffi arnoch am danc newydd neu i ailosod y pibellwaith cyflenwi.

Ar ôl i chi ddod o hyd i gyflenwr newydd, ysgrifennwch at eich cyflenwr presennol i derfynu'r contract. Gelwir hyn yn rhoi rhybudd. Mae'n rhaid i'r newid ddigwydd:

  • o fewn 28 diwrnod i roi rhybudd os byddwch yn cadw eich tanc presennol
  • o fewn 42 diwrnod i roi rhybudd os bydd angen tanc newydd arnoch

Eich hawliau pan fyddwch yn newid cyflenwr

Byddwch yn cael 'cyfnod ailystyried' saith diwrnod os byddwch yn ymrwymo i gontract ynni newydd:

  • ar-lein
  • dros y ffôn
  • pan fo gwerthwr yn ymweld â'ch cartref neu'ch gweithle (gwerthu ar garreg y drws)

Mae hyn yn eich galluogi i ganslo'r contract am unrhyw reswm.

Ni fydd yr hawl hon yn berthnasol os byddwch yn newid cyflenwr LPG neu'n ymrwymo i gontract ynni newydd mewn siop.

Problemau wrth newid cyflenwr

Rhoi gwybod am achos o dwyll

Defnyddiwch Action Fraud i roi gwybod i'r heddlu am achos o dwyll

Os oes arian yn ddyledus gennych i'ch cyflenwr nwy neu drydan, efallai na fydd yn gadael i chi newid cyflenwr.

Os ydych wedi cael eich trosglwyddo i gyflenwr ynni newydd heb i chi roi caniatâd, gelwir hyn yn 'drosglwyddo'n anghywir'. Er enghraifft, os byddwch yn canfod bod gwerthwr wedi ffugio eich llofnod ar gontract.

Os bydd hynny'n digwydd, rhowch wybod i'r ddau gwmni ar unwaith nad oeddech am newid cyflenwr. Cadarnhewch unrhyw beth a drafodir gennych dros y ffôn yn ysgrifenedig.

Wedyn bydd y cwmni ynni newydd yn cael:

  • pum diwrnod gwaith i ddweud wrthych yn ysgrifenedig beth fydd yn digwydd nesaf
  • 20 diwrnod gwaith i gadarnhau y cewch eich trosglwyddo yn ôl i'ch hen gyflenwr

Os byddwch o'r farn bod y camgymeriad yn fwriadol, gallwch roi gwybod am y gwerthwr i'r heddlu a Cyswllt Defnyddwyr, sef y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Os bydd angen i chi gwyno

Os byddwch yn cael problem gyda'ch cwmni nwy neu drydan, dylech bob amser gysylltu â'r cwmni yn gyntaf.

Os byddwch yn gwneud cwyn dros y ffôn, ysgrifennwch lythyr dilynol.

Os na fyddwch yn cytuno ag ymateb y cyflenwr, gallwch gyfeirio cwyn at:

  • Cyswllt Defnyddwyr
  • yr Ombwdsmon Ynni - bydd angen i chi roi wyth wythnos i'r cwmni ynni fynd i'r afael â'ch cwyn yn gyntaf

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU