Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch am newid cyflenwr, efallai y cynigir math gwahanol o gontract i chi fel tanwydd deuol. Mynnwch wybod pa fath o gontract sydd gennych a beth sydd angen i chi ei wybod cyn llofnodi un newydd.
Mae mathau gwahanol o gontractau ar gyfer cyflenwi trydan a nwy:
Os byddwch am newid i gwmni nwy neu drydan arall, bydd angen i chi ymrwymo i gontract newydd gyda chyflenwr newydd.
Darllenwch y contract yn ofalus cyn i chi ei lofnodi. Os bydd angen, gofynnwch i'r cwmni ynni egluro'r contract i chi.
Os na fyddwch yn deall rhywbeth neu os na fyddwch yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i'r cwmni ynni cyn cytuno i newid cyflenwr.
Gallwch hefyd gael cyngor ar gontractau gan Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau ynni yn defnyddio contractau treigl.
Gyda chontractau treigl, bydd y cwmni ynni yn parhau i gyflenwi eich nwy neu'ch trydan nes y byddwch yn penderfynu canslo'r contract.
Mae'n rhaid i'r cwmni ynni ddweud wrthych pan fydd yn codi ei brisiau.
Mae gan y cwmni ynni 65 diwrnod gwaith o ddyddiad y codiad mewn prisiau i ysgrifennu atoch ynglŷn â'r codiad.
Mae hynny'n rhoi digon o amser i'r cwmni ynni roi gwybod i chi am y codiad mewn prisiau pan fydd yn anfon biliau chwarterol atoch. Mae'n rhaid iddo ddweud wrthych hefyd fod gennych yr hawl i derfynu'r contract drwy newid i gwmni arall.
Yna, bydd gennych 20 diwrnod gwaith i roi gwybod i'ch cwmni ynni eich bod am ganslo'r contract.
Cyhyd â'ch bod yn dechrau newid cyflenwr o fewn 15 diwrnod gwaith, ni ddylai'r cwmni ynni gymhwyso'r codiad mewn prisiau i'ch bil terfynol.
Os byddwch yn newid eich meddwl ac nad ydych yn newid cyflenwr, byddwch yn dechrau talu'r prisiau uwch.
Gall cwmni ynni gynnig contract i chi sy'n para am dymor penodol, e.e. am flwyddyn neu am ddwy flynedd.
Byddwch fel arfer yn cael gostyngiad am ymrwymo i'r math hwn o gontract.
Ond os byddwch yn newid i gyflenwr arall cyn i'r tymor penodol ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am derfynu'r contract yn gynnar.
Mae rhai cwmnïau ynni'n cyflenwi nwy a thrydan ac yn cynnig un contract 'tanwydd deuol'.
Efallai y bydd cyflenwyr tanwydd deuol yn cynnig gostyngiad ychwanegol i chi os byddwch yn prynu nwy a thrydan ganddynt. Gallai hwn fod yn ostyngiad sefydlog ar eich bil, e.e. 2 y cant, neu gyfradd arbennig ar gyfer un tanwydd neu'r ddau.
Efallai nad contract tanwydd deuol fyddai'r ffordd rataf o brynu eich nwy a'ch trydan. Gall fod yn rhatach prynu eich nwy gan un cyflenwr a thrydan gan gyflenwr arall.
Cyn i chi lofnodi contract, edrychwch ar brisiau cyflenwyr eraill drwy ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau.
Efallai y cewch eich biliau nwy a thrydan ar yr un pryd - mae'n dibynnu ar y cwmni ynni a sut rydych am dalu.
Er enghraifft, os byddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol misol, bydd yr arian fel arfer yn cwmpasu nwy a thrydan. Os byddwch yn talu drwy ddulliau eraill, e.e. drwy siec neu gerdyn credyd, efallai y byddwch yn parhau i gael biliau nwy a thrydan ar wahân.
Os bydd gennych gontract tanwydd deuol, gallwch newid i gyflenwr arall - hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer un o'r tanwyddau y byddwch am wneud hynny, e.e. trydan.
Os byddwch am barhau i gael y tanwydd arall o'r cwmni ynni gwreiddiol, efallai y bydd yn codi mwy o arian am y tanwydd hwnnw.
Pan fyddwch yn symud i gartref newydd caiff contract y tenant neu'r perchennog blaenorol gyda'r cyflenwr nwy neu drydan ei drosglwyddo'n awtomatig i chi. Gelwir hwn yn gontract tybiedig.
Mae'n debygol y byddwch yn talu mwy ar gontract tybiedig nag y byddech drwy gytuno ar gontract newydd gyda'r un cyflenwr eich hun.
Felly os byddwch yn symud tŷ, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl. Gall gwefannau cymharu prisiau ynni eich helpu i benderfynu a yw'n werth newid cyflenwr.
Os byddwch am newid eich cwmni nwy neu drydan, fel arfer bydd angen i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd. Edrychwch ar y cyfnod o rybudd a nodir yn eich contract i wneud yn siŵr.