Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Nwy a thrydan - eich hawliau

Pan fyddwch yn prynu nwy a thrydan, bydd gennych rai hawliau penodol, e.e. i gael gwybod am godiadau mewn prisiau. Mynnwch wybod beth yw'r hawliau hyn, pryd y gallwch newid cyflenwr a beth fydd yn digwydd os byddwch yn cael problem gyda'ch cwmni ynni.

Cael cysylltiad nwy neu drydan

Mae gan bawb yn y DU yr hawl i ofyn i'w cartref gael ei gysylltu â'r rhwydwaith nwy neu'r rhwydwaith trydan.

Ond efallai na fyddwch yn gallu cael cyflenwad nwy neu drydan i'ch cartref os bydd un o'r canlynol yn wir:

  • mae eich cartref y tu allan i ardal dosbarthwr nwy neu drydan (y cwmnïau sy'n cysylltu eich cartref â'r rhwydwaith nwy neu'r rhwydwaith trydan)
  • gallai cyflenwi nwy neu drydan i'ch cartref fod yn anniogel, e.e. efallai nad yw'r tir yn addas ar gyfer gosod pibellau yn ddiogel
  • mae'r cwmni nwy neu drydan yn gwrthod eich cysylltu, e.e. oherwydd eich bod yn gwrthod cytuno i gael mesurydd, ni allwch dalu blaendal neu fod gennych ddyledion heb eu talu

Os bydd dosbarthwr nwy neu drydan yn gallu cysylltu eich cartref, mae'n rhaid iddo:

  • roi dyfynbris cywir i chi am gost y gwaith
  • cyflawni unrhyw waith â lefel resymol o ofal a sgil
  • cyflawni'r gwaith o fewn yr amserlen a nodir yn y contract

Os na fydd yn gwneud hynny, bydd yn rhaid iddo dalu iawndal i chi. I gael rhagor o gyngor ar iawndal, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Talu am nwy a thrydan

Gyda mesuryddion credyd, rydych yn talu am nwy a thrydan ar ôl i chi ei ddefnyddio, yn seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd. Byddwch yn cael bil am y nwy a'r trydan a ddefnyddiwyd gennych.

Gyda mesuryddion rhagdalu, rydych yn talu am eich nwy neu'ch trydan ymlaen llaw, e.e. drwy roi £20 ar gerdyn, taleb neu allwedd.

Fel arfer, bydd prynu nwy a thrydan drwy fesurydd rhagdalu llawer yn ddrutach na defnyddio mesurydd credyd.

Nid oes gennych yr hawl i gael mesurydd credyd.

Os oes gennych fesurydd rhagdalu, gallwch ofyn i'ch cwmni ynni a allwch newid i fesurydd credyd. Fel arfer, codir ffi am hyn.

Newid cyflenwr

Os bydd eich cartref yn defnyddio nwy a thrydan, fel arfer, bydd gennych yr hawl i newid cyflenwr. Gallai newid i gyflenwr nwy neu drydan arall arbed arian i chi. Gallwch ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau i'ch helpu i ddod o hyd i'r fargen orau.

Edrychwch ar delerau ac amodau eich contract ynni i weld pryd y gallwch ganslo, e.e. efallai eich bod wedi ymrwymo i gytundeb am 12 mis.

Codiadau mewn prisiau

Mae'n rhaid i'ch cwmni ynni ysgrifennu atoch cyn iddo godi prisiau nwy neu drydan. Mae hefyd yn rhaid iddo ddweud wrthych fod gennych yr hawl i derfynu'r contract drwy newid i gwmni arall cyn i'r prisiau godi.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod faint o amser sydd gennych i newid cyflenwr.

Os byddwch yn anghytuno â'ch bil nwy neu drydan

Os byddwch yn anghytuno â'r swm a godir arnoch ar gyfer eich nwy neu'ch trydan, gofynnwch i'ch cyflenwr egluro'r taliadau i chi.

Os na allwch fforddio eich bil nwy neu drydan, rhowch wybod i'ch cyflenwr ar unwaith - gweler y ddolen isod i gael gwybod sut y mae'n rhaid iddo eich helpu.

Os bydd angen i chi gwyno

Os byddwch yn cael problem gyda'ch cwmni nwy neu drydan, dylech bob amser gysylltu â'r cwmni yn gyntaf.

Os byddwch yn gwneud cwyn dros y ffôn, ysgrifennwch lythyr dilynol.

Os na fyddwch yn cytuno ag ymateb y cwmni, gallwch gyfeirio eich cwyn at:

  • Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth
  • yr Ombwdsmon Ynni - bydd angen i chi roi wyth wythnos i'r cwmni ynni fynd i'r afael â'ch cwyn yn gyntaf

Os ydych yn talu landlord am eich ynni

Yn ôl y gyfraith, dim ond y canlynol y gall landlord ei wneud:

  • eich bilio am y nwy neu'r trydan a ddefnyddir gennych
  • codi'r swm y maent wedi'i dalu am nwy a thrydan - sef yr Uchafswm Pris Ailwerthu

Dylech gael bil ar wahân ar gyfer unrhyw daliadau eraill megis taliad gweinyddu ar gyfer bilio neu daliadau ar gyfer goleuo'r ardaloedd cyffredin.

Help ychwanegol i bobl hŷn a phobl anabl

Mae'n rhaid i'ch cwmni nwy neu drydan ddarparu 'gwasanaethau blaenoriaeth' am ddim os yw'r canlynol yn wir:

  • rydych o oedran pensiwn
  • rydych wedi'ch cofrestru'n anabl
  • mae gennych salwch hirdymor
  • mae gennych nam ar eich clyw neu nam ar eich golwg

Gall gwasanaethau blaenoriaeth gynnwys:

  • cytuno ar gyfrinair gyda'ch cwmni ynni a ddefnyddir gan aelodau o staff y cwmni pan fyddant yn ymweld â'ch cartref - gall hyn eich diogelu rhag galwyr ffug
  • symud mesurydd rhagdalu os na fyddwch yn gallu ei gyrraedd
  • anfon rhywun i ddarllen eich mesurydd bob tri mis os na fydd rhywun yn eich cartref a all wneud hyn
  • cynlluniau enwebai bil - gallwch ddewis rhywun a gaiff gopi o'ch bil er mwyn eich helpu i fwrw golwg drosto
  • darparu cyfleusterau nwy a gwres amgen os amharir ar eich cyflenwad nwy, e.e. gwresogydd trydan
  • archwiliad diogelwch nwy o'ch offer a'ch ffitiadau bob blwyddyn

Mae pob cwmni ynni yn cynnig gwasanaethau blaenoriaeth gwahanol. Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i gael gwybod pa wasanaethau a ddarperir am ddim.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU