Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut gall gwaith eich cadw'n iach

Gall gwaith eich helpu i gadw'n iach a gall fod yn llesol i'ch teulu. Yn y fan hon cewch wybod sut gall gwaith fod yn dda i chi, pa gamau y gallwch eu cymryd i aros yn eich gwaith mewn gwaeledd, a sut mae mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cyfnod oddi yno.

Gwaith - yr effaith ar eich iechyd

Mae gwaith yn ffordd bwysig o gael arian i'ch cynnal eich hun a’ch teulu (os oes gennych chi un). Gall gweithio eich helpu i aros yn iach hefyd:

  • drwy wneud i chi deimlo'n well amdanoch eich hun ac am y rhagolygon ar eich cyfer chi a'ch teulu
  • drwy eich cadw'n heini ac yn iach - yn gorfforol ac yn feddyliol
  • drwy roi cysylltiadau cymdeithasol i chi - mae llawer o bobl yn gwneud ffrindiau yn y gwaith

Mae astudiaethau'n dangos bod gwaith, yn gyffredinol, yn dda i'ch iechyd corfforol a meddyliol, ac y gallai eich helpu i wella ar ôl salwch neu anaf. Dilynwch y ddolen isod i weld crynodeb o un o'r astudiaethau sy'n edrych ar sut gallai gweithio fod yn dda i'ch iechyd.

Yr effaith o fod yn ddi-waith

Os ydych chi'n ddi-waith, gallai hyn effeithio ar eich iechyd oherwydd eich bod yn fwy tebygol:

  • o wynebu mwy o bwysau ariannol
  • o wneud llai, yn gorfforol ac yn feddyliol

Os nad ydych chi'n gweithio, gallai hyn gael effaith niweidiol ar iechyd eich teulu - efallai y bydd straen a phryder yn effeithio arnynt.

Risgiau i iechyd - beth i'w wneud

Bydd ambell fath o waith yn peri risg i iechyd ac os ydych chi'n poeni am eich gwaith dylech siarad â'ch cyflogwr a'ch meddyg.

Aros yn y gwaith os ydych chi'n wael neu wedi cael anaf

Os ydych chi'n wael neu wedi cael anaf, mae'n bosib na fydd angen i chi gymryd absenoldeb oherwydd salwch os ydych chi'n dal yn gallu gwneud eich gwaith (neu ran ohono o leiaf). Dylai gwneud rhywfaint o waith eich helpu i aros yn weithgar a bydd fel rheol yn dda i'ch iechyd yn y tymor hir. Dylech gael sgwrs â'ch rheolwr ynghylch:

  • sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio
  • yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud
  • sut gallech aros yn y gwaith, drwy newid eich oriau neu eich tasgau, er enghraifft

Aros yn y gwaith - cyngor gan eich meddyg

Siaradwch â'ch Meddyg Teulu i gael cyngor ynghylch:

  • sut gallai eich cyflwr effeithio arnoch
  • y driniaeth y mae ei hangen arnoch
  • newidiadau yn y gwaith i'ch helpu i ddal ati i weithio neu i ddychwelyd i'r gwaith tra byddwch yn gwella'n llwyr

Gall eich meddyg roi'r cyngor hwn i chi ar eich nodyn ffitrwydd, y gallwch chithau ei ddangos i'ch cyflogwr. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth mae'r nodyn ffitrwydd yn ei gynnwys.

Cymryd amser o'r gwaith pan rydych yn wael neu wedi cael anaf

Os ydych chi'n gweithio a'ch bod yn mynd yn wael neu'n cael anaf, mae'n bosib y bydd angen i chi gymryd amser o'r gwaith.

Fideo - Stori Joe

Gwyliwch 'Stori Joe' i weld beth sy'n gallu digwydd os nad ydych yn delio â straen

Dychwelyd i'r gwaith gam wrth gam

Gallai eich meddyg eich cynghori y byddai'n fuddiol i chi ddychwelyd i'r gwaith gam wrth gam os ydych chi wedi bod ar absenoldeb salwch am gyfnod hir. Gallech ddychwelyd gam wrth gam drwy wneud gwahanol ddyletswyddau neu weithio llai o oriau.

Os ydych chi'n cytuno i weithio llai o oriau, siaradwch â'ch cyflogwr ynghylch a fyddwch yn cael eich talu a sut byddwch yn cael eich talu. Bydd hyn yn dibynnu ar eich contract cyflogaeth ac ers pryd rydych chi wedi bod yn absennol o'r gwaith.

Gwella ar ôl salwch a dychwelyd i'r gwaith

Fel rhan o'r camau rydych yn eu cymryd i wella, a'ch trefniadau i ddychwelyd i'r gwaith, dylech:

  • siarad â'ch rheolwr ynglŷn â'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith
  • cael cyngor gan eich meddyg
  • meddwl am siarad â'ch ffrindiau a'ch teulu er mwyn cael cymorth

Siarad â’ch rheolwr

Os ydych chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch ac yn gwella o salwch neu anaf, mae'n bwysig eich bod yn cadw cysylltiad â'ch gwaith. Bydd rhoi gwybod i'ch gwaith sut mae pethau'n mynd yn helpu eich rheolwr a'ch cydweithwyr i drefnu eich gwaith a gwaith eich tîm.

Does dim angen i chi aros nes ei bod yn bryd i chi ddychwelyd – dechreuwch drafod dychwelyd i’r gwaith ac unrhyw newidiadau yn fuan pan fyddwch yn dechrau gwella.

Byddech yn gallu trafod pethau gyda'ch rheolwr ac:

  • os ydych chi'n teimlo'n barod, awgrymu gweithio gartref, gwneud tasgau eraill neu weithio llai o oriau tra'ch bod yn gwella
  • siarad â'ch cynghorydd iechyd galwedigaethol yn y gwaith (arbenigwyr iechyd sy'n helpu pobl i ddal ati i weithio neu i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl salwch neu anaf)

Gallwch chi a'ch cyflogwr gael cyngor a chymorth gyda'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig gan y cynllun Mynediad at Waith - os yw'ch cyflwr yn effeithio ar y modd yr ydych yn gwneud eich gwaith.

Cyngor gan eich meddyg

Os ydych chi'n ystyried cymryd amser o'r gwaith i ddod at eich hun ar ôl salwch neu anaf, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch meddyg. Bydd yn gallu eich cynghori ynghylch pa driniaeth sydd ei hangen arnoch ac am aros yn weithgar. Gall eich meddyg roi cyngor i chi ynghylch yr hyn a allai eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith mewn nodyn ffitrwydd.

Cefnogaeth gan eich ffrindiau a'ch teulu

Siaradwch â'ch teulu, eich ffrindiau neu'ch partner am ddychwelyd i'r gwaith. Mae'n bosib y gallan nhw eich helpu gyda phroblemau megis:

  • trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen i'r gwaith
  • pryderon am ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod hir o'r gwaith oherwydd salwch

Dychwelyd i'r gwaith os ydych chi'n cael budd-dal salwch hirdymor

Os ydych chi'n cael budd-dal salwch hirdymor, efallai y bydd gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol rhan-amser o fudd i'ch iechyd hefyd. Os byddwch chi'n gwneud rhywfaint o waith a chithau'n hawlio budd-dal salwch, mae'n bosib y bydd hyn yn effeithio ar eich hawliad. Holwch eich cynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith am hyn.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth yw'r rheolau am weithio a hawlio budd-dal salwch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU