Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau pobl anabl mewn bywyd bob dydd

Yma, cewch wybod am eich hawliau fel unigolyn anabl mewn gwahanol agweddau o fywyd, gan gynnwys cyflogaeth, iechyd ac addysg.

Mynediad at nwyddau, eiddo a gwasanaethau

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhoi hawliau pwysig i bobl anabl i sicrhau na wahaniaethir yn eu herbyn

  • wrth gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau o ddydd i ddydd fel siopau, bwytai, banciau, sinemâu ac addoldai
  • wrth brynu neu rentu tir neu eiddo
  • wrth gael mynediad at neu ddod yn aelod o glwb preifat mwy (25 neu ragor o aelodau)
  • wrth gael mynediad at wasanaethau cyrff cyhoeddus - y broses rhoi trwyddedau, er enghraifft

Eich hawliau ym maes cyflogaeth

Mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl am reswm sy'n gysylltiedig â'u hanabledd, ym mhob agwedd ar gyflogaeth, oni ellir cyfiawnhau hynny. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gellir cyfiawnhau hynny.

Eich hawliau iechyd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhoi i bobl anabl hawliau mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, megis meddygfeydd, deintyddfeydd ac ysbytai.

Mae gennych hefyd hawl i gael gwybodaeth am ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr gwasanaeth ei darparu ar y ffurf honno.

Eich hawliau ym maes addysg

Diwygiodd Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan ei gwneud yn anghyfreithlon i ddarparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr anabl ac oedolion anabl sy'n dysgu - ac i wneud yn siŵr nad yw pobl anabl dan anfantais o'u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Iechyd meddwl a'ch hawliau

Bydd llawer o bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd ystyried eu hunain yn 'anabl' - ond mae ganddynt hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ymdrin ag asesu pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl, y ffordd y cânt eu trin, a'u hawliau.

Nod y Ddeddf Galluedd Meddyliol yw amddiffyn pobl sydd ag anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n darparu canllawiau clir ar gyfer gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch pwy sy'n cael gwneud penderfyniadau ym mha sefyllfaoedd.

Eich hawliau - moduro a thrafnidiaeth

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan bobl anabl hawliau mynediad o ran moduro, trafnidiaeth a'r seilwaith teithio, megis gorsafoedd trenau a meysydd awyr.

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd hefyd yn golygu bod gennych hawl i wybodaeth am drafnidiaeth - amserlenni, er enghraifft - ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr trafnidiaeth ei darparu yn y ffurf honno.

Allweddumynediad llywodraeth y DU