Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ad-dalu eich dyledion

Unwaith i chi sylweddoli eich bod mewn dyled, fe allwch ddechrau cynllunio sut yr ewch ati i ad-dalu'r arian. Y ffordd hawsaf yw cael trefn ar eich dyledion ac yna flaenoriaethu pa rai yw'r pwysicaf.

Rhestru'ch dyledion

Y cam cyntaf i ddianc rhag dyled yw gweld faint yn union sydd arnoch chi ac i bwy. Fe allwch wneud hyn drwy edrych yn fanwl drwy'ch datganiadau banc misol a rhestru popeth sy'n mynd allan mewn mis fel arfer.

Dyledion eraill sy'n flaenoriaeth

Y dyledion y dylech chi fynd i'r afael â nhw gyntaf yw'r rheiny a fydd yn arwain at y canlyniadau mwyaf difrifol os byddwch chi'n methu taliad. Os na fyddwch chi'n datrys y dyledion hyn fel mater o flaenoriaeth, fe allech chi golli'ch eiddo neu gael eich anfon i garchar gan yr awdurdodau. Ymhlith y dyledion hyn, mae:

  • taliadau rhent - os oes arnoch chi arian i'ch landlord, fe allech chi gael eich troi allan o'ch cartref
  • taliadau am geir - os ydych chi dros 18 oed a'ch bod wedi prynu car drwy fenthyciad neu dan gytundeb hur bwrcas, mae'n bosib y bydd y cwmni'n mynd â'ch car oddi arnoch os na fyddwch chi'n cydymffurfio â'r drefn dalu

Bydd dyledion eraill yn cael eu hystyried yn rhai nad oes iddynt flaenoriaeth. Mae hyn yn golygu, er na all neb gymryd dim oddi arnoch chi, y gallan nhw ddal i fod yn ddrud oherwydd taliadau llog ac fe all hynny arwain at sgôr credyd gwael, sy'n arwain at broblemau pan fyddwch chi gwneud cais am fenthyciadau yn y dyfodol. Ymhlith y rhain, mae:

  • cardiau credyd
  • taliadau banc a gorddrafft
  • dyled i ffrindiau a theulu

Dechrau ad-daliadau

Gyda lwc, bydd eich cyllideb newydd yn golygu y gallwch chi neilltuo rhywfaint o arian bob mis i dalu'ch dyledion. Ond os ydych chi'n dal ei chael yn anodd, mynnwch sgwrs â'r bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw.

Mae'n bwysig gwneud hyn gan fod rhai benthycwyr yn barod i dderbyn taliadau misol llai unwaith y byddan nhw'n ymwybodol o'ch amgylchiadau penodol.

Dydy negodi gyda chredydwyr ddim bob amser yn hawdd ac fe all gymryd llawer o amser, ac felly mae'n bosib y byddai cysylltu ag ymgynghorydd arbenigol wneud pethau dipyn yn haws i chi. Dylech sicrhau bod unrhyw gyngor gewch chi'n gyngor am ddim, yn gyngor annibynnol a'i fod yn ymdrin â'r holl atebion posib i'ch problemau.

Bydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn gallu helpu gyda'r rhan fwyaf o broblemau dyled, neu mae'n bosib y byddai'n well gennych gysylltu â Chanolfan Cyngor Ariannol neu Ganolfan Gyfraith leol. Mae eu rhif ffôn yn y llyfr ffôn lleol.

Efallai hefyd yr hoffech chi gysylltu â'r National Debtline ar 0808 808 4000. Mae’r Debtline ar agor rhwng 9.00 am a 9.00 pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Yn ogystal â'ch helpu i oresgyn eich problemau dyled, fe all y sefydliadau hyn eich cynghori am eich hawliau cyfreithiol os ydych chi wedi derbyn gwys gan y llys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU