Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi dros 18 oed, ac yn defnyddio cerdyn credyd, mae'n bwysig peidio â mynd i ddyledion mawr. Codir llog uchel ar ddyledion hwyr ac mae'r peth yn gallu mynd o'ch gafael yn gyflym iawn. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu biliau'ch cerdyn credyd, mae camau y gallwch eu cymryd.
Mae cardiau credyd yn ffordd boblogaidd o gael benthyg arian oherwydd fe allwch ad-dalu symiau bach dros gyfnod hir. Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn disgyn i'r fagl o ddefnyddio cardiau credyd i dalu am gost bywyd bob dydd. Os gwnewch chi hynny, bydd eich taliadau misol yn dechrau cronni ac fe allech chi golli gafael ar y ddyled nes iddi droi'n filoedd.
Os ydych chi'n bwriadu cael cerdyn credyd, dylech geisio ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus arno'n llawn ar ddiwedd pob mis.
Os na fyddwch chi'n talu'r swm llawn bob mis ar gerdyn credyd, codir llog arnoch am y cyfan - nid dim ond y swm sy'n ddyledus ar y pryd. Bydd y gyfradd a dalwch chi'n amrywio ar gyfradd ganrannol flynyddol (APR) y cerdyn credyd.
Rhaid i bob cwmni cerdyn credyd ddweud wrthych beth yw'r APR. Bydd hyn yn help i chi gymharu gwahanol gardiau. Bydd hyn yn ystyried cyfanswm cost y benthyciad, gan gynnwys:
Ond nid yw'r APR yn ystyried unrhyw daliadau y gall fod rhaid i chi eu talu ar y cyfrif, er enghraifft taliad am fethu'ch ad-daliad misol.
Dylai cyfradd llog unrhyw gerdyn credyd fod wedi'i dangos yn glir ar unrhyw ffurflen gais a thaflen hyrwyddo, felly mynnwch wybod faint a godir arnoch chi os nad ydych chi'n bwriadu talu'r balans yn llawn.
Bydd llawer o gwmnïau cardiau credyd yn cynnig cyfradd llog o sero y cant fel cymhelliant i symud balans eich cerdyn credyd i'w cerdyn credyd nhw.
Os oes gennych chi falans mawr ar eich cerdyn credyd a'ch bod yn straffaglu gyda thaliadau llog uchel, gall trosglwyddo balans fod yn ffordd dda o docio'r ddyled fymryn. Ond, cofiwch, ni all hynny ddatrys eich problemau dyled.
Dim ond am hyn a hyn y bydd y cyfnod di-log yn para - rhwng chwe a naw mis fel arfer - ac os oes gennych unrhyw ddyled ar ôl ar y cyfrif ar ôl y dyddiad hwn, codir llog arnoch fel arfer.
Os byddwch chi'n trosglwyddo balans, dylech wastad ddarllen y print mân ar y ffurflen gais. Mae'n bosib na fydd llog yn cael ei godi ar eich balans yn ystod y cyfnod cychwynnol ond, wedi dweud hynny, bydd y llog ar unrhyw beth newydd brynwch chi'n cronni'n gyflym iawn.
Os byddwch chi am drosglwyddo'r balans, mae'n syniad da peidio â phrynu dim byd gyda'ch cerdyn newydd. Fel hyn, byddwch chi'n gallu manteisio i'r eithaf ar y cynnig sero y cant.
Bydd rhai cwmnïau credyd hefyd yn codi ffi trosglwyddo balans wrth ysgwyddo'r ddyled sydd gennych. Gall hyn fod yn ffi benodol neu fe all ddibynnu ar faint rydych chi'n ei drosglwyddo. Os ydych chi'n bwriadu trosglwyddo'ch balans cyfredol i gerdyn arall, cofiwch holi a fyddwch chi'n gorfod talu am wneud hynny.
Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o siopau mawr gardiau y gallwch chi eu defnyddio i dalu am nwyddau dros gyfnod o amser. Maen nhw'n gweithio yn yr un ffordd â chardiau credyd, ond byddan nhw'n aml yn codi cyfraddau llog uwch a dim ond i dalu am nwyddau'r gadwyn honno y cewch chi eu defnyddio.
Fel arfer bydd cardiau siopau'n cynnig gostyngiad neu rodd am ddim i chi ar eich pryniant cyntaf i'ch perswadio i wneud cais am un. Cofiwch, oni bai eich bod yn bwriadu talu'r balans llawn ar unwaith, maen nhw'n aml yn gallu bod ddwywaith mor ddrud â chardiau credyd.
Felly beth yw'r ffordd orau o osgoi dyled ar gerdyn credyd? Yr ateb amlwg yw cynllunio'ch cyllideb a cheisio peidio â gwario mwy nag y byddwch chi'n ei ennill. Pan fydd gennych chi dipyn o arian dros ben, edrychwch i weld sut mae gwneud i'r arian hwnnw weithio'n galetach i chi, er enghraifft drwy edrych ar gyfrifon cynilion di-dreth.
Gyda'r llog ychwanegol, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu mynd i siopa heb orfod gwneud cais am gerdyn credyd.