Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n straffaglu i gael deupen llinyn ynghyd a'ch bod yn gwario mwy o arian nag yr ydych chi'n ei ennill, rhaid i chi wneud rhywbeth yn ei gylch. Gallai mynd i ddyled effeithio arnoch chi am flynyddoedd i ddod.
Os ydych chi dan 18 oed, chewch chi ddim gwneud cais am gardiau credyd, gorddrafftiau, benthyciadau personol a chynlluniau hur bwrcas. Wedi dweud hynny, fe allech fynd i ddyled mewn ffyrdd eraill, megis drwy fenthyg arian oddi ar eich ffrindiau neu'ch rhieni.
Dim ots faint yw eich oedran na faint o ddyled sydd gennych, mae'n bwysig deall sut y gall dyled gronni. Mae'n bwysig gwybod sut mae delio â phroblemau dyled os byddwch chi'n eu hwynebu yn y dyfodol.
Bydd pobl sydd mewn dyled yn aml yn gwneud y camgymeriad o anwybyddu maint y broblem, gan obeithio y bydd yn diflannu. Yn anffodus, dydy dyled ddim yn diflannu - mae'n gwaethygu, felly mae'n bwysig gweld yr arwyddion rhybudd yn fuan.
Os ydych chi wastad yn brin o arian, neu os ydych chi wastad yn agos at derfyn eich gorddrafft ar eich cyfrif banc, yna dylech feddwl am gymryd camau ar unwaith.
Gofynnwch i chi'ch hun ymhle y byddech chi'n dod o hyd i'r arian petai'n rhaid i chi wneud taliad mawr ar fyr rybudd neu mewn argyfwng. Os mai'r ateb syml yw ymestyn eich gorddrafft, yna fe allech fod mewn perygl o ddisgyn i ddyled ddifrifol.
Gorau po gyntaf y byddwch chi'n dechrau mynd i'r afael â'r broblem. Os yw eich sefyllfa ariannol mewn perygl o fynd yn ddifrifol, gwnewch rywbeth yn ei gylch nawr.
Y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud os ydych chi'n cael problemau ariannol yw anwybyddu'r sefyllfa. Yn aml iawn, bydd pobl yn tybio y byddan nhw'n gallu talu'r ddyled yn y dyfodol wrth ddechrau ennill mwy o arian.
Ond fe allai unrhyw beth ddigwydd. Gallai taliadau llog a thaliadau am dalu'n hwyr olygu bod y ddyled rydych chi'n ei hwynebu'n fwy o lawer na'r disgwyl - weithiau'n ddwbl y swm yr oedd arnoch chi i ddechrau.
Os ydych chi'n poeni eich bod yn mynd i ddyled, gall y National Debtline roi cyngor am ddim i chi.
Os ydych chi mewn dyled, mae'n bosib eich bod wedi colli'ch gafael ar eich sefyllfa ariannol. Er enghraifft, ydych chi'n gwybod yn union faint o arian sy'n mynd i mewn i'ch cyfrif banc ac allan ohono a pha mor aml?
Gallwch ddechrau drwy edrych ar eich datganiadau banc diweddar a chael gwybod faint rydych chi'n ei wario ar bethau y gallech wneud hebddynt yn ddigon rhwydd. Drwy gael gwared ar y rhain, bydd eich llif arian yn gwella'n eitha cyflym.
Os yw eich sefyllfa fymryn yn fwy difrifol a bod arnoch chi arian i nifer o bobl neu gwmnïau, bydd rhaid i chi ddechrau cynllunio cyllideb a threfnu'ch gwahanol ddyledion.
Unwaith y byddwch chi'n gwybod yn union faint o ddyledion sydd gennych a chyfanswm pob un, gallwch flaenoriaethu'r rhai pwysicaf a dechrau eu talu.