Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaith ffordd

Cael gwybod pwy sy'n gyfrifol am waith ffordd ar ffyrdd lleol a phriffyrdd y DU, yn ychwanegol i le gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith ffordd gyfredol a gwaith ffordd sydd yn yr arfaeth, a hefyd dod o hyd i ffyrdd eraill ar gyfer eich taith.

Ffyrdd lleol

Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau gwybodaeth ar waith ffordd lleol, ffyrdd ar gau a gwyriadau ar eu gwefannau.

Llundain

Mae Transport for London (TfL) sy'n gofalu am brif ffyrdd Llundain yn cynnal gwasanaeth rhybuddion traffig er mwyn cynorthwyo gyrwyr yn Llundain i gynllunio siwrneiau ac osgoi'r oedi a ddaw yn sgîl damweiniau, gwaith ffordd a digwyddiadau eraill. Byddant hefyd yn rhoi gwybodaeth am dagfeydd cyfredol, gwaith sydd yn yr arfaeth a'r ffyrdd sydd ar gau oherwydd y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y brifddinas.

Cefnffyrdd a thraffyrdd

Nid yw cefnffyrdd (sydd wedi eu diffinio fel y ffyrdd mwyaf strategol yn y wlad) o dan reolaeth awdurdodau lleol.

Lloegr

Cyfrifoldeb yr Asiantaeth Priffyrdd yw cefnffyrdd a thraffyrdd yn Lloegr. I gael y wybodaeth draffig ddiweddaraf yn ymwneud â gwaith ffordd ac amodau traffig ar draffyrdd a chefnffyrdd ymwelwch â gwefan yr Asiantaeth Priffyrdd.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth draffig gan yr Asiantaeth Priffyrdd ar eich ffôn symudol. Teipiwch y ddolen ganlynol ar borwr eich ffôn symudol: www.highways.gov.uk/mobile

Cymru

Cyfarwyddiaeth Drafnidiaeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru

Mae Traffig Cymru'n darparu adroddiadau byw am draffig a chyngor am gynllunio taith ar gyfer y prif ffyrdd ar draws Cymru drwy'r canlynol:

  • bwletinau ar y cyfryngau
  • llinell wybodaeth (0845 6026020)
  • Gwefan Traffig Cymru

Yr Alban

Transport Scotland sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd a'r traffyrdd yn yr Alban. Darperir y wybodaeth ddiweddaraf i yrwyr am yr amodau ar gefnffyrdd a thraffyrdd yr Alban gan Traffic Scotland (NADICS yn flaenorol).

Deall arwyddion gwaith ffordd

Ddim yn siwr am arwyddion gwaith ffordd? Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn cynnwys lluniau o arwyddion gwaith ffordd.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU