Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd anghydfod yn codi, ac na cheir cytundeb ar faint o'r blaendal y dylid ei ddychwelyd, bydd gwasanaeth yn cael ei gynnig am ddim gan y cynllun sy'n diogelu'r blaendal er mwyn helpu i ddatrys unrhyw anghydfodau – gwasanaeth Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).
Os bydd anghydfod yn codi, ac os yw'r landlord a'r tenant ill dau'n cytuno i ddefnyddio'r gwasanaeth a gynigir gan ddarparwr y cynllun er mwyn datrys yr anghydfod, maent yn cytuno i ufuddhau i'w benderfyniad.
Os nad yw'r landlord neu'r tenant yn cytuno i ryddhau'r blaendal, yn llawn nac yn rhannol, eir ati i ddatrys yr anghydfod gan ddefnyddio'r dull amgen o wneud hynny. Os bydd anghydfod, bydd y cynllun yn parhau i gadw'r swm nes i'r gwasanaeth ADR neu'r llysoedd benderfynu beth sy'n deg.
Os yw'r landlord yn gwrthod cydweithredu â'r cynllun i ddatrys yr anghydfod, bydd yn rhaid i'r achos gael ei gyfeirio at wasanaeth ADR y cynllun.
Os ceir anghydfod a bod y blaendal yn cael ei gadw'n ddiogel gan gynllun ar sail yswiriant, rhaid i'r landlord roi'r swm y mae anghydfod yn ei gylch yn y cynllun i'w gadw'n ddiogel nes i'r anghydfod gael ei ddatrys.
Bydd gweinyddwr y cynllun yn rhannu'r swm y ceir anghydfod yn ei gylch yn unol â phenderfyniad y gwasanaeth ADR, neu benderfyniad y llys.
Os nad yw'r landlord yn llwyddo i drosglwyddo'r swm y mae anghydfod yn ei gylch i mewn i'r cynllun, bydd y cynllun yn talu'r swm dyledus i'r tenant yn sgil penderfyniad y gwasanaeth ADR neu benderfyniad y llys. Bydd y cynllun wedyn yn cael yr arian yn ôl gan y landlord.