Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Tenantiaid

Cyflwynwyd y gyfraith ar flaendal tenantiaid ar 6ed Ebrill 2007 gyda'r bwriad o roi mwy o warchodaeth i denantiaid drwy atal landlordiaid ac asiantau gosod rhag dal blaendal tenantiaid yn annheg. Mae'r cynllun yn diogelu pob Tenantiaeth Fyrddaliol Sicr yng Nghymru a Lloegr (mae hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o denantiaethau er 1997).

Beth yw’r cynllun?

Bwriad cynllun Diogelu Blaendal Tenantiaid yw gwneud yn siŵr:

  • eich bod yn cael eich blaendal i gyd yn ôl, neu ran ohono, pan mae gennych hawl i'w gael
  • bod unrhyw anghydfod rhyngoch chi a'ch landlord neu'ch asiant yn haws eu datrys
  • bod yn rhaid i landlordiaid ac asiantau gosod nad ydynt yn diogelu blaendal tenantiaid dalu deirgwaith swm y blaendal i'w tenant

Sut mae'n gweithio?

Dechrau tenantiaeth newydd

Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, dylech dalu eich blaendal i'ch landlord neu'ch asiant, fel arfer.

O fewn 14 diwrnod

O fewn 14 diwrnod, mae'n ofynnol bod y landlord neu'r asiant yn rhoi manylion i chi ynghylch sut y diogelir eich blaendal. Mae hyn yn cynnwys:

  • manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaid
  • manylion cyswllt y landlord neu'r asiant
  • sut i wneud cais i ryddhau'r blaendal
  • gwybodaeth sy'n esbonio pwrpas y blaendal
  • beth i’w wneud os oes anghydfod ynghylch y blaendal

Os nad ydych yn cael y wybodaeth hon, dylech ofyn y cwestiwn syml hwn i'ch landlord neu'ch asiant – ‘sut mae fy mlaendal yn cael ei ddiogelu?’

Mae dyletswydd arnoch i wneud yn siŵr bod cyflwr yr eiddo yn union yr un fath ag yr oedd pan y'i gosodwyd i chi, a chaniatáu ar gyfer traul resymol.

Beth os nad yw'ch landlord yn diogelu'ch blaendal?

Gallwch wneud cais i'ch llys sirol lleol. Gall y llys orchymyn i'r landlord neu'r asiant ad-dalu'r blaendal i chi neu ddiogelu'r blaendal mewn cynllun. Os nad yw'ch landlord neu'ch asiant wedi diogelu eich blaendal, gorchmynnir iddynt ad-dalu deirgwaith swm y blaendal i chi.

Symud Allan

Ar ddiwedd y denantiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr eiddo a'i gynnwys yn yr un cyflwr ag yr oedd pan y'i gosodwyd i chi - gan ganiatáu ar gyfer traul resymol - a gwnewch yn siŵr eich bod wedi talu eich rhent ac unrhyw gostau eraill. Yna, cytunwch faint o'r blaendal y dylech ei gael yn ôl gyda'ch landlord neu'ch asiant.

O fewn 10 diwrnod – dylech fod wedi cael y blaendal y cytunwyd arno.

Allweddumynediad llywodraeth y DU