Beth yw Cynlluniau Blaendal Tenantiaid?
Mae dau fath o gynllun diogelu blaendal tenantiaid ar gael i landlordiaid ac asiantau gosod (cynlluniau ar sail yswiriant a chynlluniau gwarchod blaendal). Mae pob cynllun yn darparu gwasanaeth am ddim i ddatrys anghydfodau.
Beth yw Cynlluniau Blaendal Tenantiaid?
Mae'r cynlluniau'n galluogi tenantiaid i gael eu blaendal yn ôl, naill ai i gyd neu'n rhannol, pan fydd ganddynt hawl iddo, ac yn annog tenantiaid a landlordiaid i ffurfio cytundeb clir ar gyflwr yr eiddo o'r dechrau.
Mae'r cynlluniau:
- yn caniatáu i denantiaid gael eu blaendal i gyd yn ôl, neu ran ohono, pan mae ganddynt hawl i'w gael
- yn ei gwneud yn haws datrys unrhyw anghydfodau
- yn annog tenantiaid a landlordiaid i ffurfio cytundeb clir ar gyflwr yr eiddo o'r dechrau
Mae dau fath o gynllun diogelu blaendal tenantiaid ar gael i landlordiaid ac asiantau gosod. Mae pob cynllun yn darparu gwasanaeth am ddim i ddatrys anghydfodau.
Cynlluniau ar sail yswiriant
- mae'r tenant yn talu blaendal i'r landlord
- mae'r landlord yn cadw'r blaendal ac yn talu premiwm i'r yswiriwr - dyma'r prif wahaniaeth rhwng y cynllun hwn a'r cynllun gwarchod blaendal
O fewn 14 diwrnod i gael blaendal
Rhaid i'r landlord neu'r asiant roi manylion i'r tenant ynghylch sut y diogelir eu blaendal. Mae hyn yn cynnwys:
- manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaid a ddewiswyd
- manylion cyswllt y landlord neu'r asiant
- sut i wneud cais i ryddhau'r blaendal
- gwybodaeth sy'n esbonio pwrpas y blaendal
- beth i’w wneud os oes anghydfod ynghylch y blaendal
Ar ddiwedd y denantiaeth:
- os cytunir ynghylch sut i rannu'r blaendal, mae'r landlord neu'r asiant yn dychwelyd y blaendal i gyd, neu ran ohono
- os ceir anghydfod, rhaid i'r landlord drosglwyddo'r swm y mae anghydfod yn ei gylch i'r cynllun i'w gadw'n ddiogel nes i'r anghydfod gael ei ddatrys
- os nad yw'r landlord yn cydymffurfio am unrhyw reswm, bydd trefniadau'r yswiriant yn sicrhau bod y tenant yn cael y blaendal os oes ganddynt hawl iddo
Cynlluniau gwarchod blaendal
- mae'r tenant yn talu blaendal i'r landlord neu'r asiant
- mae'r landlord neu'r asiant wedyn yn talu'r blaendal i mewn i'r cynllun
O fewn 14 diwrnod i gael blaendal
Rhaid i'r landlord neu'r asiant roi manylion i'r tenant ynghylch sut y diogelir eu blaendal. Mae hyn yn cynnwys:
- manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaid a ddewiswyd
- manylion cyswllt y landlord neu'r asiant
- sut i wneud cais i ryddhau'r blaendal
- gwybodaeth sy'n esbonio pwrpas y blaendal
- beth i’w wneud os oes anghydfod ynghylch y blaendal
Ar ddiwedd y denantiaeth:
- os cytunir sut y dylid rhannu'r blaendal, bydd y cynllun yn dychwelyd y blaendal, gan ei rannu yn y ffordd y cytunwyd arni gan y ddwy ochr
- os bydd anghydfod, bydd y cynllun yn parhau i gadw'r swm nes bod y gwasanaeth defnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfod neu'r llysoedd yn penderfynu beth sy'n deg
Defnyddir y llog a fydd wedi cronni ar flaendaliadau a dalwyd i'r cynllun i dalu am redeg y cynllun, a defnyddir unrhyw swm sydd dros ben i gynnig llog i'r tenant, neu i'r landlord os nad oes gan y tenant hawl iddo.