Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Daeth y Cynllun Blaendal Tenantiaid i rym ar 6ed Ebrill 2007. Os nad ydych chi'n diogelu blaendal tenant, fe'ch gorchmynnir i ad-dalu deirgwaith y swm i'r tenant, felly holwch sut y gallwch ddiogelu blaendaliadau a datrys anghydfod.
Diogelir blaendaliadau er mwyn sicrhau'r canlynol:
Pan fydd landlord neu asiant gosod yn cymryd blaendal gan denant, rhaid diogelu'r blaendal drwy gynllun blaendal tenantiaid a awdurdodir gan y Llywodraeth.
Mae'r rheol hon yn berthnasol os yw'r denantiaeth yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, bydd y tenant yn talu eu blaendal i'w landlord neu asiant fel arfer. Rhaid i'r landlord neu'r asiant sicrhau wedyn eu bod yn ei ddiogelu.
Mae gan landlordiaid ac asiantau ddewis o dri darparwr cynlluniau, sy'n cynnig dau fath o gynllun i ddiogelu'r blaendal.
Cynlluniau gwarchod blaendal
Cedwir arian gan y cynllun nes daw'r amser i'w ad-dalu ar ddiwedd y denantiaeth. Mae'r cynllun cadw am ddim i'w ddefnyddio. Mae'r landlord yn rhoi'r blaendal yn y cynllun ar ddechrau'r denantiaeth. Ceir un darparwr cynllun cadw.
Cynlluniau ar sail yswiriant
Dan y cynlluniau yswiriant, mae'r landlord yn cadw'r blaendal, ac yn talu i'r cynllun yswiriant er mwyn yswirio rhag ofn na fydd y landlord yn gallu ad-dalu i'r tenant unrhyw arian sy'n ddyledus iddo. Ceir dewis o ddau gynllun sy'n seiliedig ar yswiriant.
O fewn 14 diwrnod i gymryd y blaendal, mae'n rhaid i chi roi manylion i'ch tenant ynghylch sut mae'r blaendal yn cael ei ddiogelu. Dylai hyn gynnwys:
Mae tenantiaid yn gyfrifol am sicrhau bod yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd pan aethant i fyw yno i ddechrau.
Ar ddiwedd tenantiaeth, dylid gwirio cyflwr a chynnwys yr eiddo yn erbyn y cytundeb a wnaed ar ddechrau'r denantiaeth. Bydd y landlord neu'r asiant yn cytuno wedyn gyda'r tenant ar faint o'r blaendal a ddychwelir iddynt.
O fewn 10 diwrnod, dychwelir y swm y cytunwyd arno o'r blaendal i'r tenant.
Os na cheir cytundeb ar faint o'r blaendal ddylid ei ddychwelyd, bydd y cynllun sy'n diogelu'r blaendal yn cynnig gwasanaeth di-dâl i helpu i ddatrys yr anghydfod.