Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyflwynwyd y gyfraith ar flaendaliadau tenantiaid ar 6ed Ebrill 2007 er mwyn rhoi mwy o warchodaeth i denantiaid drwy atal landlordiaid ac asiantau gosod rhag dal blaendal tenantiaid yn annheg. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch lwytho taflenni a phosteri oddi ar y we.
Gall landlordiaid ac asiantau gosod archebu'r daflen ‘Gosod? – Ydych chi'n diogelu blaendal eich tenant?’ sy'n esbonio beth y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.
Mae'r taflenni canlynol ar gyfer tenantiaid. Maent yn egluro beth i'w ddisgwyl dan y ddeddfwriaeth newydd.
Gall mudiadau sy'n gweithio yn y Sector Rhentu Preifat archebu'r posteri neu eu llwytho oddi ar y we:
Gallwch archebu (gan gofio cynnwys cod y cynnyrch) drwy'r post, dros yr e-bost neu drwy'r ffacs at:
Communities and Local Government Publications / Cyhoeddiadau Cymunedau a Llywodraeth Leol,
PO Box 236,
Wetherby,
Gorllewin Swydd Efrog,
LS23 7NB
Ffôn: 0870 1226 236
Ffacs: 0870 1226 237communities@twoten.com
Gallwch hefyd archebu copïau o'r daflen ar gyfer tenantiaid a landlordiaid drwy ffonio'r llinell archebu taflenni ar 0845 609 0696