Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Un o brif amcanion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw lleihau troseddau'n ymwneud â cherbydau. Mae'r DVLA yn cyflawni hyn drwy nifer o gamau gwahanol.
Mae'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n gwerthu cerbyd drosglwyddo rhan berthnasol y ddogfen cofrestru i'r prynwr a dweud wrth y DVLA am y newid. Cyn prynu cerbyd, mae'r DVLA a'r heddlu'n argymell yn gryf y dylai darpar brynwyr:
Er mwyn trethu cerbyd ail-law gyda ffurflen V10 (neu V85 ar gyfer cerbydau nwyddau trwm) mae'n rhaid dangos adran berthnasol y ddogfen neu'r dystysgrif cofrestru. Felly mae'n hanfodol fod y rhan gywir o'r dystysgrif cofrestru yn cael ei throsglwyddo i'r prynwr pan gaiff cerbyd ei werthu.
Mae'r cynllun VIC, sy'n cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA), wedi'i gyflwyno i atal ffugio neu 'ringio' ceir. Mae ffugio yn arfer sy'n golygu honni bod ceir sydd wedi'u dwyn yn geir sydd wedi'u hatgyweirio ar ôl cael eu difrodi mewn damwain.
Ers Ebrill 2003, pan fydd yswiriwr yn rhoi gwybod i'r DVLA am geir anadferadwy yng nghategorïau adfer A, B neu C, mae angen iddynt basio VIC. Bydd y DVLA wedyn yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C.
Mae'r cyfarwyddyd Diwedd Oes cerbydau yn golygu fod modd rhoi tystysgrif ddinistrio (COD) ar gyfer cerbyd sy'n cael ei anfon i ganolfan drin gymeradwy (ATF). Bydd y COD yn cael ei rhoi i berchennog neu geidwad diwethaf y cerbyd a bydd cyfrifoldeb y ceidwad yn dod i ben drwy ddiweddaru cofnodion y DVLA.
Er mwyn prosesu cerbydau diwedd oes, rhaid i'r ATF fod wedi'i drwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban.
Mae’r cynllun cofrestru cyflenwyr platiau rhif (RNPS) wedi cael ei estyn i gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon o 1 Awst 2008.
Mae'r cynllun yn sicrhau mai dim ond cyflenwyr cofrestredig sy'n gwerthu platiau rhif. Mae’n rhaid i brynwr allu dangos bod ganddo hawl i rif cofrestru penodol ac yn gallu dangos prawf o'i fanylion personol. Rhaid i gyflenwyr platiau rhif gadw cofnodion o'u gwerthiant, a rhaid i'r rhain fod ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu neu awdurdodau lleol.
O dan y system cofrestriad di-dor, mae ceidwad cofrestredig cerbyd yn parhau'n gyfrifol yn ariannol am y cerbyd hyd nes y caiff y DVLA wybod yn ffurfiol ei fod wedi'i drosglwyddo neu ei ddinistrio.
Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl cymryd camau gorfodi o'r cofnod, yn hytrach na dibynnu ar weld y cerbyd ar y ffordd gyhoeddus, ac mae'n annog unigolion i roi gwybod i'r DVLA am unrhyw newidiadau i fanylion y ceidwad.
Er mwyn gwella cywirdeb mae'r DVLA wedi cyflwyno camau newydd i wirio’r enw a’r cyfeiriad ar gofnod cerbyd. Mae angen tystiolaeth ddogfennol i wirio enw a chyfeiriad gyda ffurflenni V55/4 a V55/5 sy'n cael eu defnyddio'n bennaf i gofrestru cerbydau a fewnforiwyd, cerbydau a ailadeiladwyd a cherbydau a adeiladwyd o git.
Mae camau llymach yn cael eu cymryd i ganfod y gwir gyfeiriad pan gaiff dogfennau cofrestru eu dychwelyd heb gyrraedd y cyfeiriad cywir.