Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Platiau rhif na ellir eu dwyn

Mae dwyn platiau rhif yn dal yn broblem, a chaiff nifer ohonynt eu defnyddio i gyflawni troseddau difrifol. Diben y platiau rhif na ellir eu dwyn yw atal unrhyw un rhag tynnu'r plât rhif oddi ar eich cerbyd yn gyflym a'i ailddefnyddio ar gerbyd.

Y rhesymau dros ddwyn platiau rhif

Rhif cofrestru'r cerbyd ar blât rhif yw'r darn allweddol o wybodaeth y mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn ei ddefnyddio i chwilio am fanylion ceidwad ar gofnod cerbyd. Caiff platiau rhif sydd wedi'u dwyn eu defnyddio ar gerbydau gan y bobl hynny sydd ddim eisiau cael eu dal pan fyddant yn cyflawni troseddau megis:

  • goryrru
  • parcio'n anghyfreithlon
  • peidio â thalu taliadau tagfeydd
  • gyrru o orsaf betrol heb dalu
  • peidio â thalu tocynnau parcio neu ddirwyon am oryrru
  • newid manylion car sydd wedi'i ddwyn

Mae cerbydau â phlatiau rhif wedi'u dwyn hefyd wedi cael eu defnyddio mewn troseddau mwy difrifol megis lladrad a herwgipio.

Manteision platiau rhif na ellir eu dwyn

Mae DVLA yn gweithio gyda gwneuthurwyr platiau rhif ac eraill er mwyn datblygu safon gytunedig ar gyfer platiau rhif na ellir eu dwyn. Ceir nifer o fanteision i'r platiau newydd, gan gynnwys:

  • lleihau nifer y perchnogion ceir sy'n wynebu dirwyon yn ymwneud â moduro am droseddau nad ydynt wedi'u cyflawni
  • atal cerbydau rhag cael eu clonio (copïo manylion cerbyd tebyg) a'u hailwerthu i fodurwyr diniwed

Cysylltwch â'ch gwerthwr ceir lleol neu â chyflenwr platiau rhif cofrestredig i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am osod y plât rhif a'r gost.

Beth ddylech ei wneud os caiff eich platiau rhif eu dwyn

Os caiff eich platiau rhif eu dwyn, mae DVLA yn eich cynghori i roi gwybod i’r heddlu am y lladrad. Os byddwch chi’n derbyn dirwyon neu ohebiaeth ar ôl y lladrad, dylech eu dychwelyd ar unwaith i’r awdurdod cyhoeddi gydag eglurhad ac unrhyw dystiolaeth ddogfennol.

Nodyn: Mae dangos y rhif cofrestru anghywir ar gerbyd yn drosedd, a gallech wynebu dirwy o hyd at £1,000.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am blatiau rhif na ellir eu dwyn drwy lwytho'r daflen.

Additional links

Gwybodaeth ar drosedd lleol

Cael gwybod beth sy’n cael ei wneud ynghylch trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU