Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch dirwyon neu daliadau ond nad chi sy'n gyfrifol amdanynt, efallai mai'r rheswm am hyn yw bod rhywun arall yn defnyddio eich rhif cofrestru. Yma cewch wybod beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod eich cerbyd wedi'i glonio.
Mae clonio'n golygu copïo manylion cerbyd tebyg (heb ei ddwyn) sydd eisoes ar y ffordd. Mae troseddwyr yn dod o hyd i gopi union o'r car maen nhw wedi'i ddwyn, ac yna'n rhoi platiau rhif ffug ar y cerbyd yn lle’r platiau rhif dilys.
Os ydych chi'n amau bod eich cerbyd wedi'i glonio, gallai'r pwyntiau canlynol eich helpu i wneud yn siŵr na fyddwch yn dioddef mwy o droseddau.
Os ydych yn meddwl eich bod chi wedi dioddef o drosedd sy’n ymwneud â cherbydau:
Bydd DVLA yn ystyried rhoi rhif cofrestru newydd os gwneir cais am hynny, os ydynt yn fodlon ei fod yn achos dilys o glonio cerbyd. Gall tystiolaeth dderbyniol gynnwys cais am gofrestru a thrwyddedu cerbyd gan rywun arall ar wahân i'r ceidwad cofrestredig.
Fel rhan o ymgyrch y llywodraeth i leihau troseddau sy'n ymwneud â cherbydau, mae DVLA wedi rhoi mesurau ar waith i geisio mynd i'r afael â'r broblem.
Yn sgil cyflwyno’r cynllun Cyflenwyr Platiau Rhif Cofrestredig (RNPS):
Bydd tîm o swyddogion gorfodi DVLA yn gweithio’n agos gyda’r heddlu a gweithwyr ym maes safonau masnach er mwyn helpu i sicrhau bod cyflenwyr platiau rhif yn cadw at y rheolau.
Cymerir camau gorfodi ar sail gwybodaeth yn erbyn y rheini sy’n torri’r gofynion, gan gynnwys eu herlyn, pennu dirwyon a’u dileu oddi ar y gofrestr cyflenwyr platiau rhif.
O wneud hyn, ceir llawer mwy o reolaeth dros gyflenwi platiau rhif.
Er mwyn mynd i'r afael ag achosion o ddwyn platiau rhif, mae DVLA wedi arwain y gwaith o ddatblygu safon wirfoddol y cytunir arni ar gyfer platiau rhif na ellir eu dwyn. Ar ôl i’r platiau hyn gael eu tynnu oddi ar gerbyd, ni ellir eu defnyddio eto. Maent ar gael mewn amryw o siopau'n awr.
Cysylltwch â'ch gwerthwr ceir lleol am ragor o wybodaeth.