Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cynllun Cenedlaethol i Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru

Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad ar y ffordd gyda digon o dystiolaeth i'ch erlyn, mae'n bosib y bydd yr heddlu yn cynnig cyfle i chi fynychu cwrs. Mae gan y Cynllun Cenedlaethol i Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i wella'ch ymddygiad wrth yrru.

Manteision mynychu cwrs

Os gwnewch chi fynychu cwrs, bydd yn rhoi’r cyfle i chi osgoi'r canlynol:

  • cosb benodedig
  • ymddangosiad posib yn y llys
  • pwyntiau cosb ar eich trwydded

Bydd y cwrs y byddwch yn ei fynychu yn ceisio’ch helpu i fod yn yrrwr mwy cyfrifol, gan eich helpu i gyfrannu tuag at well diogelwch ar y ffordd ac yn y gymuned.

Ni fydd prawf nac arholiad. Eich presenoldeb a’ch parodrwydd i gymryd rhan yn y profiad yw’r cyfan sydd arnoch eu hangen i lwyddo ar y cwrs.

Cyrsiau i'ch helpu i wella'ch sgiliau fel gyrrwr

Mae’n bosib y bydd yr heddlu yn cynnig cwrs ailhyfforddi i chi, yn hytrach na’ch erlyn neu roi cosb benodedig i chi, gan ddibynnu ar y drosedd traffig sydd wedi'i chyflawni.

Mae'r rhan fwyaf o heddluoedd y DU yn cynnig yr ystod lawn o gyrsiau dan y trefniadau cenedlaethol. Dim ond unwaith mewn tair blynedd gallwch fynychu cwrs. Os ydych chi'n gysylltiedig â digwyddiad arall o fewn y tair blynedd hynny, a'ch bai chi ydoedd, cewch hysbysiad cosb benodedig neu gael eich dwyn gerbron y llys.

Gallwch ddewis mynychu’r cwrs mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi, cyhyd â bod y cwrs yn cydymffurfio â’r model cenedlaethol cymeradwy.

Bydd yn rhaid i chi dalu am y cwrs yn ogystal â rhoi o’ch amser i fynychu’r cwrs. Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd darparwr y cwrs yn rhoi rhagor o fanylion i chi am y canlynol:

  • lleoliadau’r cwrs
  • a yw’r cwrs ar gael
  • costau
  • amseroedd

Y cwrs gwella gyrwyr cenedlaethol a’r cwrs ymwybyddiaeth wrth yrru cenedlaethol

Mae’n bosib y bydd yr heddlu’n cynnig y cwrs hwn i chi os ydych chi wedi bod yn gyrru’n ddiofal neu’n anystyriol neu wedi cyflawni trosedd debyg. Mae'n cynnwys mynd i leoliad cymeradwy am ddiwrnod a hanner o hyfforddiant, a chewch hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth ac ar y ffordd.

Y cynllun camu i mewn a datblygu profiad ar gyfer gyrwyr beiciau modur (RiDE)

Mae’n bosib y bydd yr heddlu’n cynnig y cwrs hwn i chi os ydych chi wedi bod yn gyrru beic modur yn ddiofal neu’n anystyriol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • goryrru
  • peidio â dilyn arwyddion a goleuadau traffig
  • methu rheoli eich beic modur
  • troseddau eraill tebyg

Cynhelir y cwrs hyfforddi hwn mewn ystafell ddosbarth, a hynny mewn lleoliad cymeradwy am ddiwrnod. Gallwch gael gwybod mwy ynghylch RiDE a sut mae rhoi adborth ar wefan RiDE.

Y cwrs ymwybyddiaeth o gyflymder cenedlaethol

Gall y cwrs hwn fod naill ai’n bedair neu’n bum awr o hyd. Theori yn unig yw’r cwrs pedair awr, ac mae’r cwrs pum awr yn gyfuniad o theori a gwaith ymarferol. Mae’r ddau gwrs yn rhoi'r un canlyniad i chi. Yr heddlu lleol sy'n penderfynu pa gwrs sy'n bodloni'i anghenion lleol orau.

Gweld cyrsiau sydd ar gael ar-lein

Os yw’r heddlu wedi cynnig cwrs i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano drwy ddarllen eich llythyr cynnig neu drwy fynd i wefan y cynllun ailhyfforddi.

Bydd angen rhif eich trwydded yrru arnoch i gyflwyno'ch hun lle byddwch yn gallu gweld prisiau’r cyrsiau yn ogystal â pha gyrsiau sydd ar gael. Mae'n bosib y bydd tâl ychwanegol i'r prisiau a nodir a dylid eu defnyddio fel arweiniad yn unig. Bydd darparwr y cwrs yn rhoi rhagor o fanylion i chi.

Bydd angen i chi gysylltu â darparwr cwrs i drefnu a thalu am gwrs.

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU