Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Credydau treth ar gyfer cyfnodau byr o ofal plant

Os nad ydych fel arfer yn talu am ofal plant, efallai y bydd angen i chi wneud hynny o bryd i'w gilydd o hyd. Er enghraifft, os na fyddwch yn gallu cael amser i ffwrdd o'r gwaith yn ystod gwyliau'r haf. Mynnwch wybod sut mae help am gyfnodau byr o ofal plant yn gweithio, a sut i wneud cais amdano.

Cyfnodau byr o ofal plant - sut y caiff eich credydau treth ychwanegol eu cyfrifo

Gallwch wneud cais am help gyda'ch costau gofal plant ar gyfer y cyfnod byr y mae angen gofal plant arnoch yn unig. Mae hyn yn golygu y caiff eich credydau treth ychwanegol eu cyfrifo a'u talu dros y cyfnod rydych yn defnyddio'r gofal.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i bob un o'r canlynol fod yn wir:

  • dim ond o bryd i'w gilydd rydych yn defnyddio gofal plant - er enghraifft dim ond yn ystod gwyliau'r haf neu mewn argyfwng
  • mae eich gofal plant am gyfnod penodol - hynny yw, rydych yn gwybod pryd y bydd yn dechrau ac yn gorffen
  • rydych yn defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy

Fel arall, caiff yr help ar gyfer eich gofal plant ei gyfrifo a'i dalu dros 52 wythnos.

Sut i wneud cais - os yw credydau treth yn newydd i chi

Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cael ffurflen gais gan y Llinell Gymorth Credyd Treth
  • unwaith y byddwch wedi cael eich ffurflen gais, ei chwblhau - ond gan hepgor manylion eich gofal plant
  • anfon y ffurflen gais yn ôl i'r Swyddfa Credyd Treth

Wedyn gwnewch un o'r canlynol:

  • os ydych yn talu am y gofal plant nawr - caniatewch amser i'ch ffurflen ddod i law, wedyn ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth i hawlio am y cyfnod byr o ofal plant
  • os nad ydych yn talu am y gofal plant eto - ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth, ond peidiwch â gwneud hynny'n gynt na saith diwrnod cyn i'ch gofal plant ddechrau

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law cyn ffonio:

  • dyddiad dechrau a gorffen y gofal plant
  • y costau gofal plant gwirioneddol rydych yn eu talu yn ystod y cyfnod byr
  • manylion eich darparwr gofal plant - ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn, ei rif cofrestru neu gymeradwyo gofal plant (bydd eich darparwr gofal plant yn gallu rhoi'r wybodaeth hon i chi)

Sut i wneud cais - os ydych eisoes yn cael credydau treth

Bydd angen i chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â bod eich gofal plant yn dechrau neu hyd at saith diwrnod ymlaen llaw.

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law pan fyddwch yn ffonio:

  • dyddiad dechrau a gorffen y gofal plant
  • y costau gofal plant gwirioneddol rydych yn eu talu yn ystod y cyfnod byr
  • manylion eich darparwr gofal plant - ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn, ei rif cofrestru neu gymeradwyo gofal plant (bydd eich darparwr gofal plant yn gallu rhoi'r wybodaeth hon i chi)

Allweddumynediad llywodraeth y DU