Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth sydd wedi cael incwm neu wedi gwneud enillion cyfalaf trethadwy, rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Mae’r arweiniad hwn yn rhoi awgrymiadau i’ch helpu i lenwi’r ffurflen yn gywir gan osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.
Mae’r awgrymiadau canlynol yn rhoi arweiniad cam-wrth-gam drwy rai o’r pwyntiau sy’n peri trafferth ar y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau – ffurflen SA900. Maent yn ddefnyddiol, ni waeth ai ffurflen bapur ynteu ffurflen ar-lein y byddwch yn ei llenwi.
Ni fydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau gyfan os yw unrhyw un o’r datganiadau yng Ngham 1 ar dudalen 2 y ffurflen yn berthnasol i chi.
Os bydd datganiad yn berthnasol, rhowch dic yn y blwch priodol. Oni bai eich bod yn ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth elusennol, gallwch fynd ymlaen yn syth at gwestiynau 19, 20 a 21, sy’n trafod manylion cyswllt a gwybodaeth ymarferol arall. Yna, bydd rhaid i chi lenwi’r datganiad yng nghwestiwn 22.
Dim ond i gynrychiolwyr personol y mae cwestiwn 23, sy’n ymddangos rhwng cwestiynau 7 a 8, yn berthnasol. Gallwch chi anwybyddu'r cwestiwn hwn os ydych chi'n ymddiriedolwr.
Bydd rhaid i chi ateb pob cwestiwn drwy roi tic yn y blychau priodol. Os na wnewch chi, gallai Cyllid a Thollau EM anfon y ffurflen dreth yn ôl atoch er mwyn i chi ei llenwi.
Mae'r ffurflen wedi newid. Mae blychau 8.17 ac 8.18 – ynghylch a oes buddiolwr agored i niwed wedi’i dderbyn ai peidio – wedi cael eu hychwanegu. Os oeddech chi’n gyfarwydd â’r hen ffurflen, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r blychau cywir.
Os oes gennych chi ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant a bod rhywfaint o’r incwm wedi cael ei drethu yn y dechrau, bydd angen i chi ddatgan hynny. Ni fydd angen i chi lenwi blychau 9.1 i 9.40 ar gyfer yr incwm hwn. Cofiwch, bydd angen i chi nodi’r incwm gros yng nghwestiwn 9.
Efallai y bydd yn dal angen i chi ateb cwestiynau 9.1 - 9.40 os bydd angen i chi gynnwys y credydau treth sydd ynghlwm wrth yr incwm, er mwyn gwneud cyfrifiadau yn nes ymlaen yn y ffurflen. Er enghraifft, i gyfrifo a yw treth wedi cael ei didynnu yn y ffynhonnell ar 80 y cant o’r incwm, ar gyfer taliadau ar gyfrif yn y dyfodol.
Gall budd a gaiff ei rannu gael ei dderbyn yn ddi-dreth neu gyda threth wedi’i didynnu ar 20 y cant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r ffigur cywir a bod y ffigurau cyfatebol ar y rhes hon yn gywir.
Cofiwch gynnwys y credyd treth/treth dybiannol 10 y cant ym mlychau 9.16, 9.19 a 9.22. Rydych hefyd yn cynnwys y swm hwn yn y cyfanswm ym mlychau 9.17, 9.20 a 9.23.
Rhaid i chi gynnwys swm y band cyfradd safonol oni bai fod y canlynol yn wir:
Cyfanswm y band cyfradd safonol sydd ar gael yw £1,000. Os yw’r setlwr wedi sefydlu dwy ymddiriedolaeth neu ragor, rhaid i’r swm hwn gael ei rannu'n gyfartal rhyngddynt – hyd at isafswm o £200 yr un.
Gallwch ddarllen rhagor am y band cyfradd safonol drwy ddilyn y ddolen isod.
Os ydych chi’n llenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar gyfer ymddiriedolaeth newydd a bod manylion yr holl asedau gwreiddiol a setlwyd eisoes wedi cael eu dangos ar ffurflen 41G (Ymddiriedolaeth), ni fydd angen i chi ateb cwestiwn 12.
Dangoswch incwm fel gros a chostau fel net ar gyfer pob blwch yng nghwestiwn 13.
Dangoswch y taliadau net a wnaed i fuddiolwyr (sef y swm a dalwyd) a chynnwys unrhyw gronfa dreth a drosglwyddwyd o’r flwyddyn flaenorol ym mlwch 14.15. Os yw Cyllid a Thollau EM wedi anfon cyfrifiad treth atoch, byddwch yn gallu ei weld ar y dudalen grynodeb.
Dim ond os ydych am i ad-daliad gael ei wneud y dylech roi tic ger Ie. Peidiwch ag ateb y cwestiwn hwn os ydych am i unrhyw gredyd gael ei osod yn erbyn atebolrwydd yn y dyfodol. Cofiwch fod rhaid i'r ymddiriedolwr ddarparu llofnod er mwyn rhoi awdurdod i'r ad-daliad gael ei wneud i unrhyw un arall.
Os yw manylion yr ymddiriedolwyr wedi newid o gwbl, hyd yn oed os ydych chi wedi newid y cyfeiriad ar flaen y ffurflen, rhaid i chi ddatgan hynny. Dylech gadarnhau pwy fydd y prif ymddiriedolwr gweithredol.
Gallwch osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin drwy wneud y canlynol:
Bydd gan eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau god bar sydd yr un fath â'ch cyfeirnod trethdalwr unigryw (UTR) 10 digid. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio’r ffurflen gywir.
Peidiwch â defnyddio ffurflen rhywun arall, oherwydd gallai eich ffurflen chi fod wedi'i chofnodi yn erbyn yr UTR anghywir. Os ydych chi am anfon ffurflen bapur ac yn methu dod o hyd i’r un a gafodd ei hanfon atoch, gallwch gael un ar-lein gan Gyllid a Thollau EM.
Tudalennau atodol
Mae cwestiynau 1 i 7 ar y ffurflen dreth yn ymwneud â thudalennau atodol. Os ydych chi’n defnyddio unrhyw dudalennau atodol, cofiwch roi tic yn y blychau hyn a’r rheini yng nghwestiwn 22, gan eu bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau a oes unrhyw beth sydd heb ei gynnwys gyda’ch ffurflen dreth.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs