Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth sydd wedi cael incwm neu wedi gwneud enillion trethadwy, rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Defnyddiwch yr arweiniad cam-wrth-gam hwn i’ch helpu p’un ai a ydych yn cyflwyno ffurflen ynteu neu ffurflen bapur.
Yn ogystal â’r brif Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau (ffurflen SA900), mae rhai tudalennau atodol y mae’n bosib y bydd arnoch eu hangen – yn dibynnu ar natur yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, os yw’r ymddiriedolaeth wedi gwneud enillion trethadwy, rhaid i chi lenwi’r tudalennau atodol ar gyfer Enillion Cyfalaf – ffurflen SA905.
Os bydd yr ymddiriedolaeth yn cael incwm o dramor, rhaid i chi lenwi’r tudalennau atodol ar gyfer Ymddiriedolaethau ac Ystadau Tramor – ffurflen SA904.
Os byddwch yn cyflwyno ffurflen bapur, mae’n bosib na fydd Cyllid a Thollau EM yn anfon y tudalennau atodol hyn atoch yn awtomatig. Gallwch weld pa dudalennau y bydd arnoch eu hangen drwy edrych ar y rhestr ar dudalen 3 y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Gallwch lwytho unrhyw dudalennau atodol a’r canllawiau sy’n cyd-fynd â nhw drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu gallwch eu harchebu drwy’r Llinell Archebu Hunanasesu.
Os byddwch yn ffeilio ar-lein, dylai’r meddalwedd y byddwch yn ei defnyddio ddarparu'r tudalennau angenrheidiol yn seiliedig ar y cwestiynau y byddwch yn eu hateb – fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau hyn gyda darparwr eich meddalwedd.
Ewch i’r ddolen ‘Y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau: ar bapur ac ar-lein’ i gael gweld y ffyrdd y gallwch gyflwyno eich ffurflen.
Bydd rhaid i chi gasglu’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i lenwi'r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau. Er enghraifft, manylion:
Pan fydd y tudalennau a’r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen gennych, byddwch yn gallu llenwi eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ac unrhyw dudalennau atodol.
Defnyddiwch y dolenni isod i gael awgrymiadau ynghylch llenwi eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Y cam nesaf yw cyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus.
Bydd ambell feddalwedd y gallwch ei phrynu yn cyfrifo’r dreth i chi yn seiliedig ar y ffigurau rydych wedi’u rhoi ar y ffurflen. Os na fydd y feddalwedd y byddwch yn ei phrynu yn gwneud hyn, mae’n bosib y bydd rhaid i chi gyfrifo’r dreth eich hun, a rhoi’r ffigurau ar y ffurflen. Os byddwch yn ffeilio ar-lein ac:
Os byddwch yn methu’r dyddiadau cau, mae’n bosib y cewch gosb ariannol o £100 i’w thalu am ffeilio’n hwyr.
Os ydych chi am i Gyllid a Thollau EM gyfrifo’r dreth ar eich rhan, bydd angen i chi anfon eich ffurflen bapur i Gyllid a Thollau EM erbyn 31 Hydref. Os byddwch yn anfon ffurflen bapur ar ôl 31 Hydref byddwch yn colli’r dyddiad cau ar gyfer ffeilio a bydd angen i chi gyfrifo’r dreth eich hun. Os byddwch yn methu’r dyddiadau cau, mae’n bosib y cewch gosb ariannol o £100 i’w thalu am ffeilio’n hwyr.
Os nad yw'r union ffigurau gennych gallwch ddefnyddio:
Defnyddiwch yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol' i ddweud sut cawsoch y ffigurau hyn a pham na allwch ddefnyddio'r union ffigurau. Os byddwch yn newid y ffigurau yn nes ymlaen a’ch bod heb dalu digon o dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau ariannol.
Yn olaf, gallwch anfon eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau drwy:
Cofiwch, os byddwch yn llenwi ffurflen bapur rhaid i chi ei hanfon erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref. Os byddwch yn ffeilio ar-lein ac yn cyfrifo’r dreth eich hun, 31 Ionawr yw’r dyddiad cau. Os byddwch chi’n methu’r dyddiad cau, fe godir cosbau hyd yn oed os nad oes gennych ddim treth i’w thalu neu os ydych chi wedi talu’r dreth sy’n ddyledus gennych.
Os bydd ymholiad yn codi wrth i chi lenwi eich Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau a'ch bod yn methu dod o hyd i'r hyn y mae ei angen arnoch ar-lein, gallwch ffonio Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM. Fodd bynnag, cyn cysylltu â nhw, dylech ddarllen yr arweiniad isod ynghylch sut mae osgoi camgymeriadau cyffredin.
Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch mai’r ymddiriedolwr sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros faterion treth yr ymddiriedolaeth.
Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion cyswllt ar ffurflen IHT100.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs