Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch gyflwyno Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar-lein, neu gallwch lenwi ffurflen bapur os byddai’n well gennych hynny. Os byddwch yn ffeilio ar-lein, mae’r dyddiadau cau yn fwy hael na phetaech yn anfon ffurflen bapur. Fodd bynnag, bydd angen i chi brynu meddalwedd fasnachol a chofrestru gyda gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM.
Os ydych am gyflwyno ffurflen dreth ar-lein, bydd angen i chi brynu meddalwedd fasnachol. Mae nifer o ddarparwyr meddalwedd wedi cael eu profi a’u cymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM ac sy’n cyd-fynd â'u systemau.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at restr o ddarparwyr masnachol. Bydd angen i chi glicio ar ddolen pob darparwr i gael gwybod a yw’n delio â’r ffurflen ar-lein ar gyfer ymddiriedolaethau (SA900) a'r tudalennau atodol.
Ar ôl i chi gyflwyno ffurflen ar-lein, byddwch yn cael eich atgoffa bob blwyddyn i ffeilio ar-lein. Golyga hyn ni fydd yr arweiniad ar gyfer y ffurflen dreth na'r arweiniad ynghylch cyfrifo treth yn cael eu hanfon atoch bob blwyddyn – ond gallwch eu llwytho oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Ceir manteision i ffeilio ffurflen dreth ar-lein:
Ac yn yr un modd â ffurflenni papur:
Cyn i chi allu cyflwyno eich ffurflen dreth ar-lein, bydd angen i chi gofrestru gyda Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM. Bydd arnoch angen eich cod post a’ch Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) deg digid, a fydd ar eich ffurflen dreth neu’ch Datganiad Hunanasesu. Bydd rhaid i chi aros i’r PIN Cychwyn gael ei anfon atoch drwy'r post, felly dylech ganiatáu o leiaf saith niwrnod i gwblhau’r broses gofrestru.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at ragor o wybodaeth ynghylch sut mae cofrestru i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesu ar-lein. Ar gyfer ymddiriedolaethau, bydd gofyn i chi ddewis yr opsiwn ar gyfer ‘Organisation’ wrth gofrestru.
Bydd SA316 (notice to file) yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn dreth er mwyn i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y tro cyntaf bod ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu. Oni bai y byddwch yn cofrestru i ffeilio ar-lein, bydd ffurflen bapur yn cael ei hanfon atoch yn fuan ar ôl 5 Ebrill bob blwyddyn.
Mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM hefyd yn anfon arweiniad cam-wrth-gam (SA950) atoch i’ch helpu i lenwi’r ffurflen bapur ac arweiniad ynghylch cyfrifo (SA951) i’ch helpu i gyfrifo’r dreth sy’n ddyledus os ydych chi am ei chyfrifo eich hun. Os ydych chi wedi penodi cynrychiolydd proffesiynol i weithredu ar ran yr ymddiriedolaeth, ni fydd Cyllid a Thollau EM yn anfon y ddau arweiniad hyn atoch. Fodd bynnag, gallwch eu llwytho oddi ar eu gwefan.
Gallwch ddilyn trywydd eich 'cyfrif' Hunanasesu ar-lein hyd yn oed os byddwch yn cyflwyno ffurflen dreth bapur – mae hyn yn cynnwys datganiadau o’ch cofnod taliadau a faint o arian sy'n ddyledus gennych chi neu i chi ar hyn o bryd. Rhaid i’r cyfrif gael ei sefydlu yn enw’r ‘prif ymddiriedolwr gweithredol’ (yr ymddiriedolwr sydd wedi’i enwebu i ddelio â Chyllid a Thollau EM ar ran yr holl ymddiriedolwyr) neu’r cynrychiolydd proffesiynol sy’n gweithredu ar ran yr ymddiriedolaeth. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch weld eich cyfrif yn adran gwasanaethau ar-lein gwefan Cyllid a Thollau EM.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen dreth bapur rhaid i chi ei hanfon i Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM. Bydd y cyfeiriad ar flaen y ffurflen.
Gallwch weld y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni treth papur a ffurflenni treth ar-lein yn y tabl isod. Os ydych am i Gyllid a Thollau EM gyfrifo’r dreth i chi, rhaid i chi anfon y ffurflen erbyn 31 Hydref.
Math o ffurflen |
Dyddiad cau |
---|---|
Papur |
31 Hydref |
Ar-lein: Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo’r dreth |
31 Hydref |
Ar-lein: cyfrifo’r dreth eich hun |
31 Ionawr |
Mae'r dyddiad cau ymhob achos yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.
Os byddwch chi’n methu’r dyddiad cau, fe godir cosbau hyd yn oed os nad oes gennych ddim treth i’w thalu neu os ydych chi wedi talu’r dreth sy’n ddyledus gennych.
Os nad oes gennych chi ffurflen dreth a bod arnoch angen un, cysylltwch ag Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM. Os byddwch yn gwneud cais am ffurflen dreth wreiddiol, bydd yn cael ei hanfon at yr unigolyn sy’n gyfrifol am faterion treth yr ymddiriedolaeth.
Os ydych chi wedi colli eich ffurflen dreth, gall Cyllid a Thollau EM anfon copi un ai i’r prif ymddiriedolwr gweithredol neu i’r cynrychiolydd proffesiynol sy’n gweithredu ar ran yr ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, bydd y dyddiad gwreiddiol yr anfonwyd ffurflen dreth atoch wedi’i nodi ar y copi, a bydd rhaid cydymffurfio â’r dyddiadau gwreiddiol ar gyfer ffeilio.
Gallwch chi gyflwyno eich ffurflen dreth ar-lein hyd yn oed os oes ffurflen bapur wedi cael ei hanfon atoch.
Ar ôl i chi anfon ffurflen dreth ar-lein, byddwch yn cael eich atgoffa i ffeilio ar-lein yn hytrach na chael ffurflen bapur y flwyddyn ganlynol.
Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth.
Ond cofiwch mai’r ymddiriedolwr sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs