Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Hyd at ganol yr 1960au, defnyddiwyd llawer ar blwm mewn paent ar gyfer y cartref. Defnyddiwyd ef gan fwyaf ar gyfer ffenestri, drysau, gwaith pren ac ar gyfer rhai eitemau metel. Mae plwm yn beryglus os yw'n cael ei anadlu neu ei lyncu. Yma, cewch wybod sut mae canfod a oes paent plwm yn eich tŷ chi, a sut mae cael gwared arno mewn modd diogel.
Gall plwm fod yn niweidiol os yw’n cronni yn y corff a gall beryglu iechyd pobl.
Mae’r plwm mewn hen baent yn beryglus pan fo paent yn plicio oddi ar wal neu pan fo plant neu anifeiliaid anwes yn cnoi neu'n rhwbio yn erbyn y paent, neu pan fo'r paent yn cael ei lyfnu neu ei losgi wrth baratoi ar gyfer ail baentio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pheryglon ac effeithiau plwm ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Y bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan baent plwm yw menywod beichiog a phlant ifanc.
Mae bellach yn anghyfreithlon i gwmnïau ychwanegu plwm at baent ar gyfer y cartref. Ceir rhai eithriadau ar gyfer rhai adeiladau rhestredig, ac ar gyfer ambell ddefnydd artistig. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r gyfraith ynghylch defnyddio plwm mewn paent, ewch i wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Mae oedran eich tŷ neu'ch fflat yn arweiniad da. Os yw wedi cael ei adeiladu yn y 40 mlynedd diwethaf, mae’n annhebygol y bydd gennych chi baent plwm.
Os ydych chi’n byw mewn eiddo hŷn a bod y paent ynddo yn eithaf trwchus, gallai paent plwm fod yn yr haenau hŷn. Nid yw hyn yn broblem os yw’r paent mewn cyflwr da ac os nad ydych yn bwriadu ailaddurno.
Os nad ydych yn sicr a oes gennych baent plwm yn eich tŷ ai peidio, gallwch brynu pecynnau prawf gan rai siopau adwerthu neu fasnachu paent. Os ydych chi’n amau bod gennych chi baent plwm, dilynwch y cyngor isod ynghylch delio ag ef mewn modd diogel.
I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y ddolen isod i fynd i wefan eich cyngor lleol a chwiliwch am ei adran iechyd yr amgylchedd.
Y ffordd hawsaf o ddelio â phaent plwm, os yw mewn cyflwr da, yw peintio drosto gyda chôt o baent modern. Bydd hyn yn selio’r plwm ac yn ei rwystro rhag peri niwed.
Os oes yn rhaid i chi gael gwared ar baent plwm er mwyn ailaddurno, defnyddiwch ddulliau nad ydynt yn creu llwch na mygdarth, er enghraifft:
Os ydych chi’n defnyddio gwn aer poeth, cadwch arwynebau yn llaith wrth gael gwared ar baent, a sicrhewch fod eich gwn wedi'i osod yn is na 450 gradd Celsius.
Os nad ydych chi’n sicr y gallwch chi ddelio â phaent plwm mewn modd diogel, ffoniwch addurnwr proffesiynol a chymwysedig. Ceir rhestr o gymdeithasau addurno proffesiynol ar wefan Defra.
Os ydych chi’n defnyddio tynnwr paent sail toddydd, dylech gael gwared arno mewn modd cyfrifol drwy fynd ag ef i ganolfan gwastraff cartref ac ailgylchu. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i holi ble mae’r ganolfan agosaf atoch chi.
Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn ei gwneud yn fwy diogel i chi gael gwared ar baent plwm:
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch y mwgwd wyneb a argymhellir a safonau sugnwyr llwch ar gyfer tynnu paent plwm ar wefan Defra.