Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dyfarniad ysgaru

Gallwch gael copi o bapurau'ch ysgariad yn y llys lle cafodd yr ysgariad neu’r diddymiad o’r bartneriaeth sifil ei phrosesu. Neu, gallwch gysylltu â Mynegai Canolog Dyfarniadau Absoliwt.

Cysylltu â Mynegai Canolog Dyfarniadau Absoliwt

Mae’r Mynegai Canolog yn cadw cofnodion o'r holl ddyfarniadau absoliwt (papurau ysgariad a diddymiadau partneriaeth sifil) a gafodd eu caniatáu yng Nghymru a Lloegr ers 1858. Mae nifer o resymau pam mae pobl yn cysylltu â'r Mynegai Canolog.

Y rhesymau mwyaf cyffredin yw:

  • cael copi o ddyfarniadau absoliwt (papurau ysgariad/diddymiadau partneriaethau sifil)
  • cael gwybod a ydynt wedi ysgaru, yn dilyn cyfnod hir o fod ar wahân
  • cael gwybod a yw perthynas neu ffrind wedi ysgaru
  • i gael help yn olrhain coeden deulu neu am resymau hanesyddol eraill

Sut mae gwneud cais am chwiliad?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen D440 a’i anfon at:

Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
Gwasanaeth Chwilio Dyfarniad Absoliwt
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1V 6NP

Ffôn: 020 7947 6000

Manylion pellach

I gael rhagor o fanylion ar chwilio’r Mynegai Canolog am gopïau o bapurau ysgariad, defnyddiwch y ddolen i wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi. Yma, ceir manylion ynghylch y ffioedd y mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu a chymorth i lenwi ffurflen D440 a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Allweddumynediad llywodraeth y DU