Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch i fyfyrwyr

Mae camau ymarferol y gallwch eu cymryd i wella eich diogelwch fel myfyriwr. Sicrhewch eich bod chi’n gyfarwydd â diogelwch sylfaenol yn ymwneud â thân a nwy, yn ogystal â diogelwch bersonol ac yn y cartref, yn enwedig os ydych chi’n symud i lety newydd.

Diogelwch tân i fyfyrwyr

Byddwch yn ofalus wrth wneud sglodion yn hwyr yn y nos

Yn achos anafiadau a achoswyd gan danau mewn tai a ddechreuwyd gyda’r sosban ffrio, mae un anaf ym mhob pedwar yn digwydd rhwng 10.00 pm a 4.00 am

Bob blwyddyn, mae oddeutu 350 o bobl ifanc 18-24 mlwydd oed yn cael eu hanafu mewn tanau damweiniol mewn tai a ddechreuwyd gan sigaréts, deunyddiau ysmygu a chanhwyllau.

Mae hefyd yn gyffredin i danau ddechrau yn y gegin. Mae dros hanner y tanau damweiniol mewn tai yn cael eu hachosi gan goginio.

Wrth gymryd rhai camau doeth, gallwch chi helpu i warchod eich hun rhag anaf – neu waeth:

  • sicrhewch bod larwm mwg wedi'i osod ar bob lefel yn eich cartref – a bob wythnos, sicrhewch ei fod yn gweithio
  • peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  • pan rydych chi’n gorffen sigarét, sicrhewch ei bod wedi ei diffodd yn llwyr - a sicrhewch bod holl fonion y sigaréts yn oer cyn i chi wagu blwch llwch i’r bin
  • sicrhewch bod gan eich dodrefn y label barhaol sy’n dangos ei fod yn gwrthsefyll tân
  • byddwch yn ymwybodol o lle mae’r larymau tân a lle y cedwir yr offer tân
  • cynlluniwch lwybr dianc gyda’ch cyd-letywyr, a’i ymarfer
  • byddwch â thorsh wrth law fel cymorth i’ch arwain chi drwy’r mwg

Os ydych chi’n byw mewn neuadd breswyl

Mae gan bob prifysgol a choleg unigolyn sy’n gyfrifol am ddiogelwch tân. Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau am ddiogelwch tân mewn neuaddau – er enghraifft, os ydych chi wedi gweld perygl tân - ewch i siarad ag ef.

Os ydych chi’n fyfyriwr anabl ac y byddai angen cymorth arnoch pe bai tân, rhowch wybod i swyddog iechyd a diogelwch y brifysgol neu’r coleg wrth i chi gyrraedd.

Dylech hefyd wneud y pethau canlynol:

  • holi beth yw’r rheolau diogelwch tân – megis unrhyw waharddiad ar ganhwyllau mewn ystafelloedd
  • rhoi sylw i ymarferion tân a pheidio byth ag anwybyddu larwm

Llety sy’n cael ei rentu’n breifat

Os ydych chi’n byw mewn fflat neu dŷ preifat, sicrhewch fod larwm tân wedi cael ei osod ar bob lefel yn y tŷ - a’u bod yn cael eu profi’n rheolaidd.

Sicrhewch bod eich llwybr dianc yn glir. Er enghraifft, sicrhewch nad oes unrhyw feiciau’n rhwystro eich allanfa yn y cyntedd, a byddwch yn ymwybodol o unrhyw ffenestri sydd â bariau drostynt.

Os ydych chi'n fyfyriwr yn Lloegr, gallwch chi ofyn i’ch gwasanaeth tân ac achub lleol am ymweliad diogelwch tân yn y cartref. Mae’n bosib y byddant yn eich darparu â larwm mwg, ac yn ei osod, i gyd yn rhad ac am ddim.

Helpu i hyrwyddo diogelwch tân yn eich prifysgol neu goleg

Am fwy o wybodaeth am sut i helpu i hyrwyddo'r neges am ddiogelwch tân ar y campws, ewch i siarad â’ch gwasanaeth tân ac achub lleol.

Bob blwyddyn, mae ymgyrch ‘Fire Kills’ hefyd yn recriwtio nifer gyfyngedig o fyfyrwyr o brifysgolion dewisedig fel ‘llysgenhadon i’r brand’. Maent yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân ymysg y myfyrwyr eraill drwy wneud y canlynol:

  • sicrhau cyhoeddusrwydd yng nghylchgronau myfyrwyr
  • dosbarthu taflenni a phosteri
  • gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub lleol i drefnu digwyddiad arbennig, megis arddangosiad o dân sosban sglodion

Fel arfer, caiff myfyrwyr eu recriwtio i fod yn llysgenhadon dros yr haf. Yn 2009/10, bydd yr ymgyrch yn ymweld â’r prifysgolion canlynol yn Lloegr:

  • Birmingham, Bournemouth, Canolbarth Swydd Gaerhirfryn, Cumbria, De Montford, East Anglia, Swydd Gaerloyw, Huddersfield, Hull, Caint, Prifysgol Fetropolitan Leeds, Caerlŷr, Manceinion, Newcastle, Northampton, Northumbria, Nottingham, Nottingham Trent, Plymouth, Portsmouth, Sheffield, Prifysgol Hallam Sheffield, Southampton, Swydd Stafford

Diogelwch nwy a charbon monocsid

Os ydych chi’n rhentu’n breifat, mae’n rhaid i'ch landlord sicrhau bod yr holl offer nwy yn cael ei archwilio'n flynyddol gan osodwr sydd wedi’i gofrestru ar y ‘Gofrestr Diogelwch Nwy'.

Mae’n rhaid i’ch landlord hefyd ddangos tystysgrifau diogelwch yr holl offer nwy yn eich cartref i chi.

Offer nwy diffygiol yw un o’r prif achosion dros wenwyn carbon monocsid. Cofiwch: ni allwch chi weld, nac arogli na chlywed carbon monocsid.

Diogelwch personol

Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’ch diogelwch personol. Os ydych chi’n bryderus, mae camau y gallwch eu cymryd. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn cynnig dosbarthiadau hunanamddiffyniad, neu’n rhoi larymau personol i bobl.

Dylech hefyd edrych ar yr amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau (er enghraifft, cludiant bws mini yn hwyr yn y nos) a gynigir gan eich undeb myfyrwyr lleol.

Diogelu’r cartref

Mae llety myfyrwyr yn darged poblogaidd i ladron. Mae hyn yn wir am dai sy’n berchen i brifysgolion a thai sy’n cael eu rhentu’n breifat.

Sicrhewch bod cloeon priodol ar ddrysau a ffenestri. Mae digon o gyngor ar ddiogelu’r cartref ar gael ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU