Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan rieni anabl yr un hawliau â rhieni sydd heb anabledd. Nid oes deddfwriaeth 'rhieni anabl' fel y cyfryw, ond mae deddfwriaeth a chanllawiau penodol yn amddiffyn hawliau rhieni anabl - gan gynnwys yn eu rôl fel rhieni.
Mae gan bobl anabl yr un hawliau cyffredinol â phobl eraill i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae 'na rai darpariaethau arbennig eraill o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Er enghraifft, mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth am wasanaethau iechyd mewn fformat sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr gwasanaeth ei darparu ar y fformat hwnnw. Er enghraifft, gallai ysbyty ddarparu ffurflenni a llenyddiaeth esboniadol mewn Braille neu brint bras i'ch helpu os ydych chi'n ddall neu â nam ar eich golwg.
Mae gennych yr hawl i wneud eich penderfyniad eich hun am ddod yn rhiant. Ni ddylid gwrthod triniaeth ffrwythlondeb i chi am eich bod yn anabl.
Yn y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 mae nifer o ddarpariaethau sy'n berthnasol i rieni anabl, gan gynnwys:
Cynlluniwyd Deddf Plant 1989 er mwyn cadw plant yn ddiogel ac yn iach ac, os bydd angen, i'w cynorthwyo i fyw â'u teuluoedd drwy ddarparu gwasanaethau addas ar gyfer anghenion pob plentyn.
Er enghraifft, dylai cynghorau lleol sicrhau bod adrannau iechyd ac addysg a chymdeithasau tai yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn a hybu lles plant.
Os bydd eich cyngor lleol yn meddwl bod eich plentyn 'mewn angen', yna dylai gynnal asesiad dan y Ddeddf Plant 1989 (adran 17).
Os ydych chi dros 21 oed ac y gallwch gynnig cartref parhaol, sefydlog a gofalgar, croesewir eich cais i fabwysiadu plentyn. Bydd iechyd a lles yn chwarae rhan mewn asesiadau mabwysiadu, ond ni chewch eich gwrthod yn awtomatig am eich bod yn anabl. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ceisio mabwysiadu plentyn, y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â'ch asiantaeth fabwysiadu leol i wneud ymchwiliad cychwynnol.