Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae amrywiaeth eang o gyfarpar ar gael ar gyfer rhieni anabl. Gall addasu cyfarpar a ffyrdd newydd o wneud pethau fod yn hanfodol i'ch galluogi i gyfrannu go iawn at ofalu am eich babi neu'ch plentyn. Efallai y gwelwch nad yw cyfarpar gofal plant safonol yn bodloni'ch anghenion bob amser.
Mae llawer o bethau i'w hystyried pan fyddwch yn dewis cyfarpar:
Mae rhieni anabl eraill yn ffynhonnell dda o gyngor a barn. Mae elusennau a mudiadau sy'n cefnogi rhieni anabl. Mae gan rai ohonynt fforymau ar-lein lle caiff awgrymiadau a chyngor yn cael eu cyfnewid.
Gall therapyddion galwedigaethol helpu gyda materion sy'n codi, megis rhoi bath, newid, bwydo, a chario babis neu blant. Cewch wybod mwy am therapi galwedigaethol, asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol a mwy yn adran 'iechyd a chymorth' yr adran 'pobl anabl'. Dyma un ffordd o gael y cyfarpar sydd ei angen arnoch.
Mae nifer o fudiadau a all roi cyngor defnyddiol am yr holl fathau o gyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl anabl. Mae rhai gwneuthurwyr yn cynhyrchu cyfarpar yn arbennig i gwrdd ag anghenion priodol rhiant. Mae nifer o gyflenwyr yn gwerthu cyfarpar newydd ac ail-law. Mae cyflenwyr yn aml yn cynnwys siopau'r stryd fawr.
Mae’r Sefydliad Byw'n Anabl yn cyhoeddi taflen ffeithiau i rieni anabl a allai fod yn ddefnyddiol i ganfod beth sydd ar gael a ble i’w gael.
Dyma rai mathau o gyfarpar - a phethau i gadw golwg amdanynt - a all helpu gyda thasgau bob dydd:
Mae gwybodaeth ar wahân yn yr adran 'pobl anabl' sy'n delio â chyfarpar o gwmpas y cartref ac addasiadau mwy i'r cartref.