Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cefnogaeth i rieni anabl

Tîm gwasanaethau cymdeithasol i oedolion eich awdurdod lleol yw'r man cyychwyn ar gyfer trefnu'r cymorth fydd ei angen arnoch fel rhiant anabl. Mae hwn yn dîm gwahanol i'r 'Tîm plant a theuluoedd'.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol a'r rôl magu plant

Mae gan berson anabl yr hawl i ofyn am asesiad o'u hiechyd a'u hanghenion gofal cymdeithasol. Os oes gennych gyfrifoldebau magu plant ar gyfer plentyn dan 18 oed, dylai asesiad o'ch anghenion hefyd gynnwys y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Os ydych yn ddarpar riant, gallwch roi gwybod i'r tîm gwasanaethau cymdeithasol am eich sefyllfa cyn i'ch babi gael ei eni er mwyn eu helpu nhw i gynllunio'r gefnogaeth.

Nid bwriad y gwasanaethau cymdeithasol yw honni nad ydych yn gallu ymdopi neu na fyddwch chi'n rhiant da. Dylai penderfyniadau am y gefnogaeth a gynigir ganolbwyntio ar sut i'ch helpu yn eich rôl fel rhiant. Mae'n bwysig cofio mai eich anghenion chi sydd wrth wraidd eich asesiad fel person/rhiant anabl. Os ydych yn derbyn y gefnogaeth iawn, bydd anghenion eich plant yn cael eu diwallu heb fod angen gwasanaethau gan y 'Tîm plant a theuluoedd'

Asesiadau

Mae'n syniad da paratoi ar gyfer asesiad drwy wneud rhestr o'r math o gymorth sydd ei angen arnoch. Er enghraifft:

  • cymorth i ofalu am eich babi yn eich cartref, er enghraifft cymorth i roi bath i'r babi
  • cyfarpar, megis cadeiriau gwthio wedi'u haddasu
  • newidiadau i'ch cartref
  • cymorth i gael eich plentyn yn barod ar gyfer meithrinfa neu'r ysgol, ac i fynd â nhw yno

Taliadau uniongyrchol - trefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun

Os cewch asesiad sy'n nodi bod angen cymorth arnoch gan y gwasanaethau cymdeithasol, gallwch ddewis taliadau uniongyrchol. Mae taliadau uniongyrchol yn eich galluogi i drefnu a thalu am eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun yn hytrach na'u derbyn yn uniongyrchol gan eich awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan gynorthwy-ydd personol neu ofalwr proffesiynol.

Mae hyn yn rhoi fwy o hyblygrwydd i chi, a allai eich helpu yn eich rôl magu plant.

Pobl eraill yn y teulu

Os yw ffrind, perthynas arall - gan gynnwys eich plentyn eich hun - neu'ch priod neu bartner yn rhoi gofal sylweddol a chyson i chi neu'n eich helpu o gwmpas y tŷ, mae ganddynt yr hawl i gael asesiad gofalwr.

Os yw plentyn yn gwneud gwaith gofalu sylweddol yn gyson ar eich cyfer, dylai hyn arwain at asesiad o'ch anghenion cefnogaeth.

Gwasanaethau plant

Bydd y rhan fwyaf o rieni anabl - gan gynnwys rhieni ag anawsterau dysgu neu broblem iechyd meddwl - yn byw bywydau llwyddiannus a llawn fel rhieni, gan fanteisio ar y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn unol â'r asesiad.

Ni ddylai tîm gwasanaethau cymdeithasol ddod i benderfyniad ynglwn â'ch gallu i fod yn rhiant heb asesu'n gyntaf eich angen am gefnogaeth, ac yna'i gynnig drwy gynllun gofal. Mewn geiriau eraill, byddai angen dangos nad diffyg cefnogaeth i chi sydd wrth wraidd yr achosion hynny lle na fydd plant yn cael byw gyda rhiant/rhieni, neu lle bydd angen adolygu.

Plant 'mewn angen'

Ni ddylid datgan o reidrwydd fod plant 'mewn angen' am fod un neu ddau o'u rhieni'n anabl, er y gallai hyn fod yn ffactor.

Weithiau, fodd bynnag, os ceir pryderon o hyd am les plentyn, dim ond wedyn y gwneir asesiad 'plentyn mewn angen'. Caiff hwn ei reoli gan 'Dîm plant a theuluoedd' eich awdurdod lleol a bydd yn edrych ar y teulu i gyd.

Syniad bras o'r hyn mae 'plentyn mewn angen' yn ei olygu (yn Neddf Plant 1989) yw plentyn dan 17 oed y mae'n debygol i'w iechyd a'i ddatblygiad fod yn sylweddol waeth heb gefnogaeth a gwasanaethau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU