Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n bwriadu dod yn rhiant neu am ysgwyddo cyfrifoldebau rhiant, efallai y byddwch yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch i ofalu am eich plentyn. Gall hyn fod yn gymorth yn y cartref, cyfarpar neu gymorth gyda phethau bob dydd fel ymweld ag ysgol eich plentyn.
Gall eich cyngor lleol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, adrannau iechyd ac addysg, gynnig y cymorth hwn. Mae canllawiau'r Llywodraeth yn nodi y dylid cefnogi pobl anabl yn eu teulu ac yn eu rôl fel rhieni.
Mae'n bwysig cael mynediad at wybodaeth a'r gwasanaethau mamolaeth cywir, sy'n ystyried cyflwr meddygol a/neu anabledd mam.
Gallech ddechrau trwy siarad am unrhyw broblemau gyda'ch meddyg. Dyma rai o'r pethau y gallech eu trafod:
Gall eich meddyg eich cyfeirio at arbenigwr neu ymgynghorydd.
Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cwmpasu llawer o agweddau ar fywyd bob dydd, gan gynnwys mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Dylai dosbarthiadau ar gyfer darpar rieni wneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn eu gwneud yn hwylus i bawb. Gall addasiadau rhesymol gynnwys y canlynol:
Rhowch wybod i drefnwyr y dosbarthiadau am unrhyw ofynion sydd gennych cyn mynychu am y tro cyntaf.
Os ydych chi'n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl a bod eich anghenion gofal yn newid o ganlyniad i'ch rôl fel rhiant, dylech gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl. Yna, bydd modd i wneuthurwr penderfyniadau ystyried a yw'r newid yn eich amgylchiadau'n effeithio ar y gyfradd o Lwfans Byw i'r Anabl y dylech ei derbyn.
Y llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl:
Ffôn: 08457 123 456
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Text Relay RNID.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.