Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhieni anabl a'r ysgol

Mae gan ysgolion, colegau a phrifysgolion ddyletswydd i rieni anabl i ganiatáu mynediad rhesymol iddynt at wasanaethau sy'n ymwneud ag addysg eu plentyn neu eu plant. Pwrpas hyn yw sicrhau y gall rhieni anabl chwarae rhan lawn yn addysg eu plentyn.

Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cwmpasu llawer o agweddau o fywyd bob dydd, gan gynnwys addysg a mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Yn gyffredinol, mae darpariaethau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd sy'n ymwneud ag ysgolion yn berthnasol i ddisgyblion anabl.

Fodd bynnag, mae llawer o wasanaethau a ddarperir gan ysgol heb fod yn uniongyrchol berthnasol i addysg eich plentyn, ond fe'u hystyrir yn 'wasanaeth i'r cyhoedd' ac maent yn dod o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Rhan 3).

Dylai ysgol eich plentyn (ac adran addysg eich awdurdod lleol) wneud 'addasiadau rhesymol' i weithdrefnau a pholisïau, neu ddarparu cymhorthion i'ch helpu i ddefnyddio'u gwasanaethau, fel rhoi gwybodaeth mewn fformatau hwylus. Ni chânt wrthod darparu gwasanaeth, neu ddarparu gwasanaeth gwaeth i chi fel rhiant anabl.

Pethau y gall ysgolion eu gwneud i gefnogi rhieni anabl

Dylech ystyried cysylltu â'r ysgol er mwyn gofyn iddyn nhw newid y ffyrdd y maent yn cefnogi rhieni anabl. Er enghraifft, a yw aelodau'r staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd, pa mor hawdd yw cyrraedd yr ysgol a sut y darperir gwybodaeth i rieni?

Gwybodaeth i rieni mewn fformatau eraill

Mae enghreifftiau o sut a phryd y gall ysgolion gymryd camau rhesymol i ddarparu gwybodaeth mewn fformatau eraill yn cynnwys:

  • darparu adroddiad blynyddol ysgol, cylchlythyr chwarterol neu adroddiad ysgol eich plentyn mewn Braille, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen neu ar CD
  • os bydd trefn gwyno ysgol yn datgan y dylech ysgrifennu at y prifathro, dylech allu gwneud cwyn ar lafar os nad ydych yn gallu ysgrifennu o ganlyniad i'ch nam
  • cysylltu â chi drwy neges destun - er enghraifft, os bydd ysgol yn cau o ganlyniad i lifogydd

Mae hefyd yn bwysig siarad ag athro/athrawon eich plentyn i sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i helpu gyda, a goruchwylio, gwaith cartref eich plentyn.

Mae 'Canllawiau'r Daith Ddysgu' yn rhoi gwybodaeth i rieni am yr hyn y mae eu plant yn ei wneud yn yr ysgol ar wahanol adegau yn ystod eu haddysg. Mae'r canllawiau hyn ar gael mewn Braille, mewn print bras ac ar dâp sain.

Nosweithiau rhieni, digwyddiadau'r ysgol a chyfarfodydd gyda staff

Dyma enghreifftiau o sut a phryd y gall ysgolion gefnogi rhieni anabl:

  • defnyddio beiro a phad ysgrifennu i gyfathrebu gyda chi os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich clyw a/neu ddarparu dolen sain mewn ystafell benodol
  • trefnu ar gyfer dehonglydd - er enghraifft, mewn Iaith Arwyddion Prydain a/neu ganiatáu mwy o amser ar gyfer cyfarfodydd un-wrth-un
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn drwy ffonio neu drwy e-bost os nad ydych chi'n gallu mynychu cyfarfod o ganlyniad i'ch nam
  • cynnal cyfarfod mewn lleoliad hwylus (i osgoi grisiau, er enghraifft) os oes gennych anawsterau symud
  • darparu sgript o ddrama'r ysgol os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw i'ch helpu i ddilyn y stori

Ymweld ag ysgolion a hygyrchedd

Dyma enghreifftiau o newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau y gall ysgol eich plentyn eu gwneud dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, lle bo hynny'n briodol:

  • penodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am gwrdd â'ch anghenion mynediad pan fyddwch chi am gael eich tywys o gwmpas yr ysgol - gan gynnwys os ydych chi'n ddall neu â nam ar eich golwg (er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â chynllun yr ysgol, er enghraifft)
  • sicrhau bod yr ysgol yn hwylus os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn drwy ddefnyddio rampiau neu wneud addasiadau i ddrysau
  • darparu mannau parcio ar gyfer pobl anabl a/neu sicrhau nad yw cerbydau rhieni eraill yn rhwystro mynediad
  • caniatáu i riant anabl ddod â'u ci tywys a chynorthwyo gyda nhw

Cludiant i'r ysgol

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, gall 'addasiad rhesymol' olygu, er enghraifft, y byddai awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim os yw'ch nam yn golygu nad oes modd i chi dywys eich plentyn i'r ysgol ar lwybr cerdded. Neu efallai y gall eich awdurdod lleol sicrhau y bydd rhywun arall ar gael i dywys eich plentyn i'r ysgol bob dydd yn eich lle.

Eich awdurdod lleol fydd yn penderfynu cynnig cludiant ai peidio, a pha fath, a dylech gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth.

Hawliau rhieni

Mae bod â chyfrifoldeb rhiant yn golygu ymgymryd â'r holl hawliau, cyfrifoldebau a'r awdurdod sydd gan riant plentyn yn ôl y gyfraith Mae gennych hefyd hawliau fel rhiant sy'n ymwneud ag addysg eich plentyn - er enghraifft, gallu dysgu eich plentyn gartref. Cewch wybod mwy yn adran 'rhieni' Cross & Stitch.

Cymorth a chyngor gan y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) yn ffynhonnell dda o gyngor os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn mewn addysg neu fan arall. Gall llinell gymorth y Comisiwn roi cyngor a gwybodaeth am Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 i ysgolion a cholegau yn ogystal â phobl anabl.

Ffôn: 08457 622 633

Ffôn testun: 08457 622 644

Ffacs: 08457 778 878

Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm (dydd Llun, dydd mawrth, dydd iau a dydd gwener; dydd mercher 8.00am a 8.00pm.

Allweddumynediad llywodraeth y DU