Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r Ffeil Deulu’n ffordd syml i deuluoedd rannu gwybodaeth am eu plentyn ac am y sefyllfa deuluol gyda phobl eraill sy'n gysylltiedig â gofalu am eich plentyn. Mae hefyd yn eich galluogi i drefnu eich camau nesaf mewn ffordd gydlynol.
Gall pethau symud yn gyflym iawn ar ôl i ddiagnosis gael ei wneud. Mae'n bosib y byddwch yn cyfarfod â llawer o bobl wahanol pan fyddwch yn cael gwybodaeth, cymorth a gofal meddygol. Efallai y byddwch yn cael llawer o wybodaeth am eich plentyn mewn cyfnod byr.
Mae’r Ffeil Deulu’n caniatáu i rieni a gofalwyr rannu gwybodaeth am eu plentyn gyda’r gweithwyr proffesiynol y byddant yn cyfarfod â hwy, heb iddynt orfod dweud yr un peth wrth bob person newydd. Gallwch hefyd ddefnyddio’r Ffeil Deulu i ysgrifennu gwybodaeth bwysig ac enwau'r gweithwyr proffesiynol y byddwch yn eu gweld.
Dim ond ychydig bethau y bydd ambell deulu'n eu hysgrifennu, neu efallai mai dim ond ambell daflen y byddant yn ei defnyddio. Bydd eraill yn hoffi ysgrifennu cryn dipyn ac yn ychwanegu lluniau gan fynd ati i gynnwys pawb yn y cartref o ran meddwl beth i’w ddweud a sut i ddweud hynny.
Bydd Ffeil Deulu Cymorth Cynnar yn eich helpu i wneud y canlynol:
Y prif adrannau yw’r adran ‘Cyflwyno ein hunain’, yr adran cysylltiadau proffesiynol a’r adran ‘Cynllun gwasanaeth y teulu’.
Gallwch ddefnyddio’r adran hon o’r Ffeil Deulu i ysgrifennu popeth yr hoffech i rywun sy’n cyfarfod â chi am y tro cyntaf ei wybod am eich plentyn ac am eich teulu. Bydd hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ailadrodd yr un wybodaeth i wahanol bobl. Rhowch y ffeil i’r unigolyn yr ydych yn cyfarfod ag ef fel y gall ddarllen yr wybodaeth yr ydych yn ei rhannu am eich plentyn.
Pethau i’w cynnwys:
Gallwch nodi'r wybodaeth eich hun neu gallwch drin a thrafod beth allai fod yn ddefnyddiol i'w gynnwys gyda chymorth rhywun arall, fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr allweddol.
Yn ôl teuluoedd:
Yn ôl gweithwyr proffesiynol:
Yn y Ffeil Deulu, ceir dwy adran sy’n eich cynorthwyo i gadw cofnod o'r staff y byddwch yn cyfarfod â nhw o fudiadau gwirfoddol, cymdeithasol, addysg ac iechyd. Yr adrannau ‘Pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda chi’ a ‘Cofnod o gysylltiadau proffesiynol’ yw'r rhain.
Gall unrhyw berson proffesiynol fydd yn dod i weithio gyda'ch teulu, er enghraifft therapydd galwedigaethol neu nyrs, ysgrifennu eu manylion cyswllt yn yr adran hon. Mae'n golygu bod yr holl enwau a’r rhifau perthnasol yn cael eu cadw mewn un lle rhag ofn y bydd eu hangen arnoch.
Yn y fan hon, gallwch restru'r holl gyfarfodydd y byddwch yn eu cael gyda phobl broffesiynol ac mae lle i ysgrifennu unrhyw gamau sy'n dilyn. Mae rhai pobl yn teimlo bod hyn yn ddefnyddiol er mwyn rhoi gwybod i aelod o’r teulu neu i ofalwr nad oedd yn y cyfarfod beth ddigwyddodd ynddo.
Yn aml iawn, bydd llawer o fanylion i'w cofio ac mae hon yn ffordd o gofnodi'r pethau y soniwyd amdanynt.
Yn y fan hon rydych chi a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda chi yn ysgrifennu am y gwasanaethau ac am y cymorth a fyddai'n helpu eich plentyn yn eich tyb chi. Dyma gyfle i drafod sut mae pethau’n mynd, i gytuno ar beth ddylai ddigwydd nesaf ac i nodi cynllun ar gyfer pwy fydd yn rhoi cymorth a phryd.
Yn y fan hon gallwch nodi unrhyw gwestiynau yr ydych am eu gofyn.
Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhieni a gofalwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa â'ch teulu chi. Dyma'r lle i wneud rhestr o’r mudiadau lleol a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae’n debyg y bydd eich gweithiwr allweddol, os oes gennych un, yn gallu dweud wrthych pa fudiadau sydd ar gael yn eich ardal.
Os oes gennych ffurflen Fframwaith Asesu Cyffredin, gallwch ei chadw yma. Os nad ydych yn sicr a oes gennych un ai peidio, holwch eich gweithiwr allweddol neu’ch cydlynydd Cymorth Cynnar
Yn y fan hon, gellir cadw unrhyw wybodaeth neu bapurau cyfredol ynghylch sut mae’ch plentyn yn dod yn ei flaen. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer unrhyw beth yr ydych am fynd gyda chi i apwyntiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ffeil Deulu, siaradwch â'ch gweithiwr allweddol neu'ch ymwelydd iechyd. Gallwch hefyd fynd i’r adran Cymorth Cynnar ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.